Rheoli Cyfarwyddiadau
Copïo cyfarwyddyd
Ar ôl i chi ddefnyddio cyfarwyddyd ar gyfer graddio, ni allwch ei olygu, ond gallwch wneud copi y gallwch ei olygu a’i ailenwi.
Ewch i'ch llyfr graddau. Dewiswch yr eicon Gosodiadau i agor panel Gosodiadau'r Llyfr Graddau. Sgroliwch i lawr i'r adran Cyfarwyddiadau Cwrs.

Cyrchwch ddewislen cyfarwyddyd drwy ddewis yr eicon tri dot ac wedyn dewis Dyblygu. Mae’r cyfarwyddyd a gopïwyd yn agor â’r dyddiad a “chopi” wedi’u hychwanegu at y teitl. Gallwch olygu fel y bo angen. Dewiswch Cadw i gadw’r cyfarwyddyd dyblyg.
Nodyn
Os byddwch yn copïo cyfarwyddyd sydd eisoes yn bodoli sy'n seiliedig ar ganran ac yn ei newid i gyfarwyddyd amrediad canran, caiff yr holl ddisgrifiadau eu clirio.
Os ydych chi eisoes wedi defnyddio cyfarwyddyd i raddio eitem, gallwch hefyd gopïo’r cyfarwyddyd a golygu’r fersiwn ddyblyg. O banel Gosodiadau eitem, agorwch y cyfarwyddyd. Dewiswch Creu Copi ar waelod y sgrîn. Pan fyddwch yn creu copi o gyfarwyddyd sydd wedi cael ei ddefnyddio i raddio prawf neu aseiniad, mae’r cyfarwyddyd newydd wedi’i gysylltu â’r eitem. Caiff unrhyw raddau a gyfrifir â’r cyfarwyddyd gwreiddiol eu cadw, ond caiff y graddau hyn eu trosi’n raddau gwrth-wneud. Gellir ailraddio’r cyflwyniadau hyn gan ddefnyddio’r cyfarwyddyd newydd.
Pwysig
Ni allwch gopïo cyfarwyddiadau ar ddyfeisiau bach.
Copïo cyfarwyddiadau rhwng cyrsiau
Gallwch gopïo cyfarwyddiadau rhwng eich cyrsiau. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen a dewiswch Copïo Cynnwys. Neu, agorwch y ddewislen Mwy o opsiynau uwchben y rhestr cynnwys. Dewiswch Copïo Eitemau. Bydd y panel Copïo Eitemau yn agor.
O'r panel Copïo Eitemau, gallwch bori pob un o'r cyrsiau rydych yn eu dysgu. Dewiswch y ffolder Cyfarwyddiadau ar gyfer y cwrs rydych am gopïo cyfarwyddiadau ohono a dewiswch y cyfarwyddiadau yr hoffech eu copïo. Pan fyddwch wedi gorffen, dewiswch Dechrau copïo.

Dileu cyfarwyddiadau
Gallwch ddileu cyfarwyddyd yn barhaol o’ch cwrs hyd yn oed os defnyddioch chi ef wrth raddio a bydd y graddau’n aros. Nid yw’r graddau wedi’u cysylltu â’r cyfarwyddyd mwyach, ond maen nhw bellach yn ymddangos fel graddau a ychwanegoch â llaw.
I ddileu cyfarwyddyd am byth, agorwch banel Gosodiadau'r Llyfr Graddau yn eich llyfr graddau.