Skip to main content

Grwpiau

Mae gwaith grŵp yn gwella sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, a'r gallu i addasu a chyfathrebu.

Gallwch greu grwpiau o fyfyrwyr yn eich cyrsiau er mwyn iddynt allu rhyngweithio gyda’i gilydd a dangos eu gwybodaeth.

Sut mae gwaith grŵp o fudd i fyfyrwyr

Mae ymchwil yn dangos y gall Myfyrwyr elwa o waith grŵp mewn sawl ffordd:

  • Mae myfyrwyr yn cadw gwybodaeth yn hwy nag yn achos dulliau addysgu eraill.

  • Mae persbectifau gan aelodau grŵp yn cynnig cyfle arall i ddysgu deunydd newydd.

  • Mae gan fyfyrwyr deimlad cadarnhaol am ddeunydd y cwrs.

  • Mae gan fyfyrwyr sy'n sefydlu perthnasau da â'u cyd-fyfyrwyr brofiad dysgu mwy cadarnhaol.

  • Mae gwaith grŵp llwyddiannus yn arwain at fyfyrwyr yn teimlo'n well amdanynt eu hunain.

  • Mae myfyrwyr yn cynyddu eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.

  • Mae myfyrwyr yn cynyddu eu sgiliau meddwl yn feirniadol.

Ffynhonnell: "44 Benefits of Collaborative Learning." gdrc.org n.d. Gwe. 3 Ionawr 2020.