Bathodynnau Badgr
Gosod Badgr Spaces
Gallwch ddod o hyd i'r offeryn Badgr a'i ychwanegu at eich cwrs yn Llyfrau ac Offer. I ychwanegu Badgr Spaces, llywiwch i Llyfrau ac Offer a dewiswch yr arwydd plws (+) nesaf at yr integreiddiad Badgr Spaces. Mae eich 'space' newydd yn barod i ychwanegu cyhoeddwyr, amcanion a llwybrau.

Gallwch greu Amcanion i gysylltu eitemau cwrs â bathodynnau, cysylltu Llwybrau a sefydlu Bwrdd Arweinwyr. Gan ddibynnu ar bryd cofrestrwyd myfyrwyr, efallai bydd angen i ddefnyddwyr adnewyddu'r dudalen lawn er mwyn ychwanegu'r myfyrwyr at y Space.
Nodyn
Gallwch gael dim ond un Space fesul cwrs ac mae rhaid sefydlu'r Space o'r cwrs y tro cyntaf.
Ar ôl creu'r Space, bydd angen i chi ddewis cyhoeddwr.
Teipiwch y cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif Badgr wedyn dewiswch Parhau.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost i gael eich cod dilysu.
Teipiwch neu gopïwch eich cod dilysu a dewiswch gyhoeddwr o'ch cyfrif trwy ddewis Defnyddio Cyhoeddwr.
Creu Amcanion
Mae tri math o amcanion y gallwch eu creu: Amcan Aseiniad Blackboard, Amcan Llaw, a Amcan Bathodyn.
Amcan Blackboard olrhain cynnydd y dysgwr ar asesiad neu aseiniad mewn ffolder cwrs neu fodiwl. Gall Cyhoeddwyr farcio dysgwyr fel eu bod wedi cwblhau Amcan i roi bathodyn iddynt â llaw. Efallai bydd Cyhoeddwr hefyd yn gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth i'w hadolygu cyn rhoi'r bathodyn â llaw.
Amcan Llaw olrhain cynnydd dysgwr ar Amcan a gwblhawyd y tu allan i Badgr. Gall Cyhoeddwyr farcio dysgwyr fel eu bod wedi cwblhau Amcan i roi bathodyn iddynt â llaw. Efallai bydd Cyhoeddwr hefyd yn gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth i'w hadolygu cyn rhoi'r bathodyn â llaw.
Amcan Bathodyn olrhain caffael Bathodyn fel Amcan gan ddysgwr fel Amcan. Gyda'r Amcan hwn, bydd Badgr yn edrych ar Badgr Backpack defnyddiwr sydd wedi tanysgrifio i weld a yw wedi ennill bathodyn penodol. Os yw'r tanysgrifiwr wedi ennill y bathodyn, marcir yr Amcan fel ei fod wedi'i gwblhau yn awtomatig. Gall Cyhoeddwyr olrhain bathodynnau mae eu Cyhoeddwr neu Sefydliad wedi'u rhoi y tu allan i'r Space yma.
Dewiswch fathodyn sydd eisoes yn bodoli neu crëwch fathodyn newydd o'r ddewislen. Gellir cwblhau Amcanion Aseiniad Blackboard yn seiliedig ar sgôr nifer o bwyntiau ar y lleiaf, canran gofynnol ar y lleiaf, neu unrhyw radd a gyflwynir. Gellir hefyd neilltuo pwyntiau ar y bwrdd arweinwyr.
Rhybudd
Efallai bydd angen cael tanysgrifiad Badgr Pro i ddefnyddio rhai nodweddion. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am ragor o wybodaeth.
Nodyn
Os nad yw graddau neu gofrestru myfyrwyr yn ymddangos i fod wedi'u cysoni â Badgr Spaces, mae botwm ail-gysoni ar waelod y tab Cynnydd.