Galluogi Graddio Dienw
Mae graddio dienw yn sicrhau graddio teg drwy leihau posibilrwydd tuedd wrth raddio. Caiff enwau myfyrwyr eu cuddio wrth i chi raddio a byddant dim ond yn cael eu datgelu ar ôl i chi gyhoeddi'r graddau.
Caniatáu sgyrsiau dosbarth
Casglu cyflwyniadau all-lein
Pennu grwpiau
I alluogi'r opsiwn hwn, dewiswch Cuddio enwau myfyrwyr ym mhanel gosodiadau profion ac asesiadau.
Gallwch alluogi graddio dienw ar gyfer aseiniadau a phrofion nad ydynt yn cynnwys y mathau o gwestiynau parod. Testun a ffeiliau yn unig y gallwch eu hychwanegu at aseiniadau a phrofion a gaiff eu graddio'n ddienw.

Pwysig
Ni allwch olygu'r gosodiad Graddio dienw ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno ymgeisiau neu agor yr asesiad.
Gosodiadau sy'n gydnaws â graddio dienw
Mae'r gosodiadau a nodweddion hyn yn gweithio gyda graddio dienw:
Dyddiad cyflwyno. Pan fydd dyddiad cyflwyno yn mynd heibio, bydd graddio dienw yn dal yn weithredol.
Gwahardd cyflwyniadau hwyr.
Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno.
Ymgeisiau lluosog.
Newid nifer yr ymgeisiau.
Defnyddio opsiynau cyflwyniad.
Caniatáu sgyrsiau dosbarth.
Defnyddio asesiadau ffurfiannol
Newid categori.
Newid y nifer mwyaf o bwyntiau.
Ychwanegu terfyn amser.
Ychwanegu cyfarwyddyd graddio.
Ychwanegu dau raddiwr fesul myfyriwr.
Alinio â nodau.
SafeAssign: Mae canlyniadau yn cael eu cuddio tra bod graddio dienw wedi'i alluogi. Ar ôl i chi gyhoeddi graddau, fe ddangosir yr enwau a gallwch weld yr Adroddiadau Gwreiddioldeb.
Gosodiadau nad ydynt yn gydnaws â graddio dienw
Nid yw'r gosodiadau a nodweddion hyn yn gweithio gyda graddio dienw:
Adolygu gan gyfoedion.
Cyhoeddi graddau asesiad yn awtomatig.
Gosodiadau canlyniadau asesiad - ar gyfer asesiadau dienw, bydd graddau ac adborth ar gael unwaith bod y graddau wedi'u cyhoeddi.
Ymgeisiau dienw lluosog
Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno ymgeisiau lluosog pan fyddwch yn galluogi graddio dienw. Caiff enwau myfyrwyr eu cuddio ar gyfer pob ymgais. Yn y llyfr graddau, gallwch weld sawl ymgais mae pob myfyriwr wedi'i gyflwyno a sawl ymgais sydd gennych i'w graddio.
Rheoli ymgeisiau a graddio dienw
Gallwch ddilysu bod myfyriwr wedi gwneud cyflwyniad drwy chwilio am y dderbynneb cyflwyniad mae'r myfyriwr wedi'i rhoi i chi drwy'r swyddogaeth chwilio am dderbynneb cyflwyniad yn y llyfr graddau.
Gallwch roi eithriad i fyfyrwyr ar ffurf ymgais ychwanegol neu ddyddiad cyflwyno estynedig o'r dudalen fanwl ar gyfer myfyrwyr yn y llyfr graddau.
Gallwch esgusodi myfyriwr rhag yr asesiad o'r dudalen fanwl ar gyfer y myfyriwr yn y llyfr graddau.
Nodyn
I gadw manylion myfyrwyr yn ddienw, mae'r dangosyddion cymwysiadau, eithriadau ac esgusodiadau dim ond yn cael eu dangos yn y trosolwg myfyriwr, y wedd Graddau a'r wedd Myfyrwyr.
Trosi cyrsiau a graddio dienw
Pan fyddwch yn trosi eich cwrs Gwreiddiol yn gwrs Ultra, bydd asesiadau cyfredol heb unrhyw gwestiynau'n cadw'r gosodiad graddio dienw. Caiff unrhyw raddau asesiadau eu tynnu yn ystod y trosi.