ORIGINAL Creu Cynnwys
Creu cynwysyddion cynnwys a chynnwys

Barod i ychwanegu cynnwys at eich cwrs? Rydych chi'n creu eich darnau unigol o gynnwys mewn cynwysyddion cynnwys: meysydd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau Gwersi, a ffolderi. Mewn cynhwysydd cynnwys, rydych yn creu cynnwys o ddewislenni ar gyfer eitemau cynnwys, profion, aseiniadau a dolenni at offer.
Wrth i chi greu cynnwys, gallwch osod ei opsiynau, megis argaeledd. Gallwch greu cynnwys ond peidio â'i gwneud yn weladwy i fyfyrwyr tan i chi fod yn barod iddynt ei weld. Hefyd, gallwch gyfyngu ar beth all y myfyrwyr ei weld yn ôl dyddiad, amser, defnyddwyr unigol, grwpiau cwrs, a pherfformiad myfyrwyr ar eitemau sy’n cael eu marcio.
Enghraifft: Rhyddhau Aseiniad ar ôl i brawf gael ei gymryd
Gallwch gyfyngu ar fynediad at yr aseiniad nesaf tan fod pob myfyriwr wedi cwblhau prawf. Gallwch hefyd ei wneud yn ofynnol bod yr aseiniad ddim yn ymddangos tan fod myfyrwyr yn cwblhau'r prawf ac yn ennill sgôr o 70 y cant neu fwy.