Data Presenoldeb
Allgludo data presenoldeb
Yn y wedd Cyffredinol, dewiswch yr eicon Allgludo i lawrlwytho ffeil CSV gyda chofnodion presenoldeb eich myfyrwyr. Mae lawrlwytho'n dechrau ar unwaith heb gadarnhad.

Presenoldeb a chopïo cwrs, archifo/adfer, ac allgludo/mewngludo
Ni chynhwysir data presenoldeb mewn allforyn cwrs neu pan fyddwch yn copïo cwrs i gwrs newydd neu gwrs presennol. Tynnir yr opsiwn presenoldeb o’r opsiynau copïo ac allgludo.
Cynhwysir data presenoldeb mewn archif/adferiad ac mewn copi union o gwrs.
Mae allgludo/mewngludo yn creu colofn presenoldeb na allwch ei dileu, ond nid ychwanegir data presenoldeb ati.
Senarios penodol a'r canlyniadau
Os byddwch yn copïo cwrs â data presenoldeb i gwrs newydd neu gwrs sydd eisoes yn bodoli heb ddata presenoldeb, ni chopiir data presenoldeb y cwrs ffynhonnell. Ychwanegir un golofn gradd presenoldeb heb ddata y gallwch ei dileu.
Os byddwch yn copïo cwrs â data presenoldeb i gwrs sydd eisoes yn bodoli â data presenoldeb, bydd dwy golofn presenoldeb. Gallwch ddileu'r golofn ychwanegol.
Os fyddwch yn gwneud copi union o gwrs â data presenoldeb, bydd gan y cwrs newydd un golofn presenoldeb â'r data cyfan o'r cwrs ffynhonnell.
Os byddwch yn allgludo cwrs â data presenoldeb a’i fewngludo i gwrs presennol heb ddata presenoldeb, ni fydd gan y cwrs presennol ddata presenoldeb. Fodd bynnag, ni allwch ddileu'r golofn presenoldeb.
Os fyddwch yn allgludo cwrs â data presenoldeb a’i fewngludo i gwrs presennol â data presenoldeb, bydd gan y cwrs presennol ddwy golofn presenoldeb. Ni allwch ddileu'r golofn ychwanegol. Mae’r ddwy golofn yn agor i ddangos yr un data. Os fyddwch yn dileu data o un golofn, byddwch yn ei dynnu o'r llall.
Mae data presenoldeb wedi'i gynnwys mewn archifau cwrs. Pan fyddwch yn archifo'ch cwrs, fe greoch gipolwg wedi’i rewi neu gofnod parhaol o'ch cwrs. Mae archif yn cynnwys yr holl gynnwys, ystadegau cwrs, defnyddwyr a rhyngweithio'r cwrs, fel trafodaethau, presenoldeb a graddau. Os fyddwch yn archifo ac adfer cwrs, bydd gan y cwrs newydd un golofn presenoldeb sy’n cynnwys yr holl ddata presennol.
Dileu data presenoldeb cwrs a gopïwyd
Wrth baratoi cwrs ar gyfer tymor sydd ar ddod, efallai byddwch yn copïo pob cynnwys, gan gynnwys colofnau graddau, o gwrs y tymor diwethaf. Gallwch ddileu colofnau presenoldeb a ychwanegwyd wrth gopïo cwrs.
Gallwch hefyd ddileu’r golofn presenoldeb sy’n gysylltiedig yn gywir â’ch cwrs os ydych yn tynnu cofnod presenoldeb pob myfyriwr yn gyntaf.
Yn eich llyfr graddau, agorwch y ddewislen ar gyfer y golofn presenoldeb “ychwanegol” a dewiswch Dileu. Gallwch ddileu'r golofn yn y wedd rhestr neu rid.

Yn eich Canolfan Raddau Wreiddiol, agorwch ddewislen y golofn a dewiswch Dileu Colofn.
