Creu grwpiau
Ar y dudalen grwpiau, bydd rhestr rannol o'ch myfyrwyr yn ymddangos yn adran Myfyrwyr heb eu Neilltuo. Dewiswch Dangos y Cwbl i weld y rhestr gyfan. Gallwch greu mwy nag un grŵp i gyflwyno'r aseiniad i'r grwpiau hyn. Gallwch hefyd ddewis yr arwydd plws dan y rhestr o fyfyrwyr i greu grŵp personol ac ychwanegu myfyrwyr ato.
Nodyn
Gall eich cynorthwyydd addysgu greu a rheoli cofrestriadau grwpiau. Gall eich graddwyr raddio aseiniadau grŵp yn unig.
Ni fydd gan fyfyrwyr heb eu pennu i grŵp fynediad at yr aseiniad grŵp oherwydd ni fydd yn ymddangos ar eu tudalennau Cynnwys y Cwrs. Os ydych yn gofyn i fyfyrwyr hunan-gofrestru mewn grŵp, ni allant gael mynediad at yr aseiniad nes eu bod yn ymuno â grŵp.

Gallwch ddosbarthu’ch myfyrwyr rhwng grwpiau yn y ffyrdd hyn:
Personol
Pennu ar hap
Hunangofrestru
Ailddefnyddio grwpiau
Cynghoryn
Mae afatarau'r myfyrwyr wedi'u cuddio yn y golwg hwn, i helpu pobl â nam ar y golwg i lywio drwy'r cardiau'n fwy effeithiol.

Personol
Gallwch greu cymaint o grwpiau ag y dymunwch, ag unrhyw nifer o fyfyrwyr ym mhob grŵp. Gallwch hefyd greu grwpiau newydd neu dynnu grwpiau yn seiliedig ar sawl grŵp rydych eisiau ar gyfer yr aseiniad hwn.

Yn y ddewislen Grwpio Myfyrwyr, dewiswch Personol.
Dewiswch enw pob myfyriwr er mwyn eu dewis ar yr un pryd. Dewiswch enw’r myfyriwr eto i dynnu’r dewis.
Ar ôl ichi ddewis y myfyrwyr, agorwch y ddewislen nesaf at un o'u henwau a dewiswch Creu grŵp newydd. Gallwch hefyd symud mwy nag un myfyriwr i grŵp a restrir yn y ddewislen. Ni allwch symud myfyrwyr i grŵp â gwaith wedi’i gyflwyno.
Golygwch enw'r grŵp os ydych eisiau newid yr enw diofyn.
Yn ôl eich dewis, rhowch ddisgrifiad grŵp sydd ond yn ymddangos i chi ar yr adeg hon. Nid oes gennych gyfyngiad ar y nifer o nodau.
Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu grŵp arall.
Rhybudd
Ar yr adeg hon, os ydych yn cadw set Bersonol o grwpiau, dychwelyd i'r set o grwpiau, a dewis Personol eto, dilëir eich grwpiau.
Pennu ar hap
Bydd myfyrwyr yn cael eu pennu ar hap i'r nifer o grwpiau rydych eisiau eu creu. Mae angen cael o leiaf pedwar myfyriwr er mwyn i'r system allu pennu myfyrwyr ar hap i o leiaf dau grŵp.

Yn y ddewislen Grwpio myfyrwyr, dewiswch Pennu ar hap.
Yn y ddewislen Nifer y Grwpiau, dewiswch y nifer o grwpiau i'w creu. Mae angen i chi greu o leiaf dau. Pennir myfyrwyr yn gyfartal ymhlith nifer y grwpiau a ddewiswch. Byddwch yn ofalus wrth wneud newidiadau cyn i chi gadw. Os ydych wedi creu pedwar grŵp â theitl a disgrifiadau dewisol, ac wedyn yn defnyddio'r ddewislen a’i newid i chwe grŵp, ailddosbarthir eich grwpiau a thynnir y teitlau a disgrifiadau.
I dynnu'r holl fyfyrwyr o’r set bresennol o grwpiau, dewiswch Dadneilltuo Pawb ar frig y dudalen. Bydd y gosodiad yn newid i Personol os byddwch yn symud myfyrwyr i wahanol grwpiau ar ôl iddynt gael eu grwpio a chyn i chi gadw'r gosodiadau.
Golygwch enw pob grŵp os ydych eisiau newid yr enwau diofyn.
Yn ôl eich dewis, rhowch ddisgrifiadau grŵp sydd ond yn ymddangos i chi ar yr adeg hon. Nid oes gennych gyfyngiad ar y nifer o nodau.
Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau creu grŵp yn ychwanegol at y grwpiau a grëwyd gan y system.
Hunangofrestru
Gallwch ofyn i fyfyrwyr hunan-gofrestru mewn grwpiau i gwblhau aseiniad grŵp. Ond myfyrwyr sy’n gallu ymuno â’r grŵp.
Mae myfyrwyr yn gweld yr aseiniad grŵp ar y dudalen Cynnwys y Cwrs a dolen i gofrestru. Gallwch ychwanegu cyfnod cofrestru hefyd. Rhoddir gwybod i'r myfyrwyr pan fydd y dyddiad olaf i gofrestru yn nesáu. Pan fydd y cyfnod cofrestru yn dod i ben, ni all myfyrwyr ymuno â grwpiau bellach ac nid ydynt yn cael eu cofrestru’n awtomatig. Mae rhaid i fyfyrwyr ofyn i chi eu hychwanegu er mwyn iddynt allu gweld yr aseiniad grŵp. Gallwch ychwanegu myfyrwyr nad ydynt wedi’u cofrestru at grwpiau o'ch dewis os nad yw'r grwpiau wedi cyflwyno gwaith.
Rhybudd
Ni allwch ychwanegu neu newid aelodaeth mewn grwpiau â gwaith wedi’i gyflwyno. Ni allwch hefyd ddileu grwpiau â gwaith wedi’i gyflwyno.
Os ydych eisiau cyhoeddi’r aseiniad grŵp yn y dyfodol, ni all myfyrwyr gael mynediad at y cynnwys, ond gallant ymuno â grŵp.

Os ydych yn dewis rhyddhau'r aseiniad grŵp ar sail perfformiad ar eitem arall, ni chaiff myfyrwyr fynediad at y cynnwys nes eu bod yn ennill sgôr benodol ar eitem neu golofn y llyfr graddau. Fodd bynnag, os yw un aelod o'r grŵp yn bodloni'r maen prawf perfformiad, gall yr aelod hwnnw gyflwyno ar ran y grŵp cyfan. Bydd unrhyw aelod nad yw wedi bodloni'r maen prawf perfformiad yn derbyn y radd a neilltuwch. Gallwch newid graddau aelodau unigol cyn cyhoeddi'r graddau.
Ar y dudalen grwpiau, gallwch greu cymaint o grwpiau ag y dymunwch, ag unrhyw nifer o fyfyrwyr ym mhob grŵp. Gallwch hefyd greu grwpiau newydd neu dynnu grwpiau yn seiliedig ar sawl grŵp rydych eisiau ar gyfer yr aseiniad hwn. Mae angen i chi greu o leiaf dau grŵp hunan-gofrestru.
Bydd rhestr rannol o'ch myfyrwyr yn ymddangos yn yr adran Myfyrwyr heb eu neilltuo. Dewiswch Dangos y Cwbl i weld y rhestr gyfan.

Yn y ddewislen Grwpio myfyrwyr, dewiswch Hunan-gofrestru.
Dosbarthir eich myfyrwyr yn gyfartal rhwng y grwpiau a rhestrir nesaf at Nifer y Grwpiau. Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu grŵp arall. Mae Nifer y Grwpiau yn diweddaru’n awtomatig. Gallwch ychwanegu a dileu grwpiau hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr ddechrau ymuno â nhw. Os ydych yn dileu grŵp y mae myfyrwyr wedi dechrau ymuno â fe, symudir y myfyrwyr i’r rhestr heb eu pennu. Bydd rhaid i chi roi gwybod iddynt i ymuno ag un o'r grwpiau sydd ar ôl neu gallwch eu hychwanegu at grŵp. Nodyn atgoffa: Ni allwch ddileu grwpiau â gwaith wedi'i gyflwyno.
Yn ôl eich dewis, ychwanegwch ddyddiad dechrau a gorffen cofrestru. Gall myfyrwyr weld y dudalen grwpiau a'r aseiniad ond ar ôl i'r cyfnod cofrestru agor. Dewiswch y saeth nesaf at Opsiynau uwch i gwympo’r adran cofrestru. Nodyn atgoffa: Pan fydd y cyfnod cofrestru yn dod i ben, ni all myfyrwyr ymuno â grwpiau bellach ac mae rhaid iddynt ofyn i chi eu hychwanegu atynt.
Yn ôl eich dewis, newidiwch neu cliriwch yr Uchafswm nifer yr aelodau fesul grŵp sy’n ymddangos yn ddiofyn. Mae rhaid i’r uchafswm dewisol fod yn 2 neu’n fwy. Os ydych wedi ychwanegu neu ddileu grwpiau, ni ddiweddarir yr uchafswm.
Rhybudd
Rhowch sylw i’r Uchafswm nifer yr aelodau fesul grŵp a Nifer y grwpiau. Er enghraifft, os ydych yn lleihau'r uchafswm, ni chaniateir i rai myfyrwyr gofrestru mewn grŵp ar ddiwedd y cyfnod cofrestru. Bydd angen i chi greu grwpiau newydd a chofrestru'r myfyrwyr er mwyn iddynt gael mynediad at yr aseiniad grŵp.
I ganiatáu nifer diderfyn o aelodau mewn grŵp, gadewch hyn yn wag. Mae myfyrwyr yn gweld yr uchafswm a ganiateir pan fyddant yn dewis eu grwpiau. Os ydych yn caniatáu nifer diderfyn mewn grŵp, bydd myfyrwyr yn gweld y cyfanswm o fyfyrwyr yn y dosbarth. Er enghraifft, os ydych wedi gosod pedair taith, gallwch ganiatáu i bob myfyriwr ymuno â phob grŵp.
Gallwch wrthwneud yr uchafswm o aelodau ar gyfer grŵp. Er enghraifft, gallwch ychwanegu myfyriwr newydd gofrestru at grŵp heb waith wedi’i gyflwyno.
Dewiswch y blwch ticio Cuddio aelodau a gofrestrwyd os nad ydych eisiau i fyfyrwyr weld pwy sydd wedi ymuno yn barod.
Golygwch enw pob grŵp os ydych eisiau newid yr enwau diofyn.
Yn ôl eich dewis, ychwanegwch ddisgrifiadau grŵp. Os yw pob grŵp yn gweithio ar bwnc gwahanol neu’n cyfarfod am amser penodol neu mewn lleoliad penodol, ychwanegwch y wybodaeth honno i helpu myfyrwyr i ddewis grŵp. Nid oes gennych gyfyngiad ar y nifer o nodau.
Agorwch y ddewislen nesaf at grŵp i gyrchu'r gosodiadau rheoli.
Ar ôl ichi greu grwpiau hunan-gofrestru, bydd pob grŵp yn ymddangos ag eicon gofynnod ar y dudalen Cyflwyniadau yn y llyfr graddau. Ar ôl i fyfyrwyr ymuno â grwpiau, dewiswch ddolen yr aelodau i ddangos neu guddio'r rhestr.

Ailddefnyddio grwpiau
Gallwch ailddefnyddio grwpiau o asesiad neu drafodaeth grŵp cyfredol neu set o grwpiau cwrs. Mae teitlau eich setiau o grwpiau cwrs sydd eisoes yn bodoli yn dechrau gyda “Set o Grwpiau.”

Pwysig
Os ydych yn ailddefnyddio set o grwpiau ac yn gwneud newidiadau i’r set o grwpiau, bydd y newidiadau hynny yn effeithio ar yr aseiniad grŵp.
Yn y ddewislen Grwpio Myfyrwyr, dewiswch deitl o'r adran Ailddefnyddio grwpiau.
Caiff yr un myfyrwyr eu hychwanegu at eich aseiniad newydd. Os byddwch yn symud aelodau, bydd yr aelodaeth yn newid lle bynnag mae'r grwpiau hyn yn ymddangos, gan gynnwys y set o grwpiau cwrs.
Golygwch enwau'r grwpiau unigol yn ôl yr angen.
Yn ôl eich dewis, rhowch ddisgrifiadau grŵp sydd ond yn ymddangos i chi ar yr adeg hon. Nid oes gennych gyfyngiad ar y nifer o nodau.
Efallai bydd angen i chi ychwanegu myfyrwyr newydd a ychwanegwyd at eich cwrs at eich grwpiau newydd.