ORIGINAL Mewngludo Pecynnau Cwrs
Mae pecyn mewngludo cwrs yn cynnwys ffeil ZIP o gynnwys y cwrs a allgludwyd. Wrth fewngludo pecyn cwrs i mewn i gwrs sydd eisoes yn bodoli, copiir cynnwys y pecyn i’r cwrs hwnnw. Nid yw pecynnau mewngludo yn cynnwys manylion ymrestru myfyrwyr na’u data, megis manylion am eu gweithgarwch mewn trafodaethau na'u graddau.
Nid ydych eisiau uwchlwytho pecyn cwrs a allgludwyd ac a olygwyd gennych ar ôl iddo gael ei greu a’i lawrlwytho. Pe baech yn agor y ffeil gywasgedig a newid unrhyw un o’r ffeiliau yn y pecyn cwrs a allgludwyd, byddai problemau’n codi wrth geisio’i fewngludo.
Mewngludo pecyn cwrs
Panel rheoli > pecynnau a chyfleusterau > fewnforio pecyn/gweld logiau > fewnforio
Ar y dudalen Pecyn Mewnforio, porwch am becyn y cwrs ar eich cyfrifiadur. Dewiswch y deunyddiau cwrs perthnasol a phwyswch ‘cyflwyno’.

Ynghylch Meysydd Cynnwys
Caiff cynnwys o feysydd cynnwys sy’n ymddangos ar ddewislen y cyrsiau ac sydd â’r un enw yn pecyn ag yn y cwrs presennol ei ychwanegu at yr un maes cynnwys. Ni chaiff dim ei ddileu o’r cwrs a’i ddisodli â chynnwys o’r pecyn. Atodir cynnwys wedi ei fewngludo at gynnwys presennol yn yr un maes cynnwys.
Ynglŷn â fforymau bwrdd trafod
Dylech chi gynnwys gostiadau dechreuol ar gyfer pob edefyn ymhob fforwm (a hynny yn ddienw), neu dylech chi gynnwys y fforymau hynny sydd heb byst dechreuol yn y copi o’r cwrs.
Ynglŷn â dolenni cwrs
Caiff dolenni at rannau o gyrsiau sydd heb eu mewngludo eu torri pan fydd y dolenni hyn yn ymddangos yn y cwrs cyrchfan. Er enghraifft, os bydd dolen at brawf yn ymddangos mewn maes cynnwys ac rydych chi’n penderfynu peidio â chopïo profion, bydd y ddolen at y prawf yn torri.
Ynglŷn â graddio dirprwyedig
Pan fyddwch yn mewngludo cwrs heb ymrestriadau i mewn i gwrs sydd eisoes yn bodoli, bydd y gosodiad dirprwyo yn cael ei alluogi ar gyfer pob aseiniad y mae graddio dirprwyedig yn berthnasol iddo. Mae'r holl ddefnyddwyr sy'n gallu cysoni hefyd yn gallu graddio'r holl gyflwyniadau.
Ynglŷn â data presenoldeb
Mae allgludo/mewngludo yn creu colofn presenoldeb na allwch ei dileu, ond nid ychwanegir data presenoldeb ati.
Gweld cofnodion mewngludo
Panel Rheoli > Pecynnau a Chyfleusterau > Mewnforio Cofnodion Pecynnau/Golwg
Yn y golofn Mewnforio Enw Log, dewiswch y ddolen pecyn.
Mae opsiynau i e-bostio a lawrlwytho'r ffeil cofnodi ar gael. Gallwch hefyd wneud pob manylyn ffeil cofnodi'n fwy i edrych ar fwy o wybodaeth.
Pecynnau cetris cyffredin
Mae Common Cartridge yn fenter dan arweiniad IMS Global Learning Consortium. Mae'r fenter yn cefnogi pecynnau cwrs y gallwch eu defnyddio ar draws systemau rheoli dysgu (LMS) fel Blackboard.