Colofn Cyfrifiad Cyfanswm
Ynglŷn â cholofnau cyfrifiad cyfanswm
Pan fyddwch yn ychwanegu colofn Cyfrifiad Cyfanswm, gallwch ddewis o ddau ddull cyfrifo:
Wedi Pwysoli: Mae'r cyfrifiad wedi'i bwysoli yn cyfrifo'r categorïau ac eitemau a raddir fel canran o'r radd derfynol sy'n werth 100%. Gallwch neilltuo gwerthoedd canran i unrhyw eitem gwrs a chategori a dewis a ddylid pwysoli eitemau yn yr un categori yn gymesur neu'n gyfartal.
Pwyntiau: Gall cyfrifiad gradd sy'n seiliedig ar bwyntiau gynorthwyo tryloywder gan ei fod yn ei gwneud yn glir i fyfyrwyr beth sy'n werth mwy mewn cwrs a beth sy'n werth llai. Gallwch ddewis pa gategorïau ac eitemau rydych eisiau eu cynnwys yn y cyfrifiad. Caiff y nifer mwyaf o bwyntiau sydd ar gael yn y gwrs ei benderfynu gan yr eitemau a chategorïau rydych yn eu cynnwys yn y cyfrifiad.
Enghreifftiau o golofnau wedi'u pwysoli
Gallwch greu unrhyw nifer o golofnau wedi'u pwysoli, gan gynnwys colofnau wedi'u pwysoli sy'n cynnwys colofnau eraill wedi'u pwysoli. Gallwch greu colofn â phwysiad sy'n defnyddio colofnau â phwysiad y chwarterau a'r colofnau gradd prawf terfynol i gyfrifo gradd derfynol.
(Chwarter 1 = 15%) + (Chwarter 2 = 20%) + (Chwarter 3 = 15%) + (Chwarter 4 = 20%) + (2 prawf semester = 30%) = (Gradd derfynol y flwyddyn*)
Gallwch bersonoli'ch llyfr graddau gan ddefnyddio pwysiadau fel bod gwaith cwrs penodol yn cyfrannu at sgôr gyffredinol myfyriwr yn fwy na gwaith cwrs arall.
Mae pwysiadau'n ddefnyddiol ond gallant fod yn gymhleth. Yn yr enghraifft hon, rydym yn amlinellu sut mae Blackboard Learn yn cyfrifo cyfanswm ar gyfer colofn pan fydd gan bob eitem bwysiad gwahanol.
Mae eich cwrs yn cynnwys pum prawf, ond mae'r prawf olaf yn arholiad terfynol ac mae angen iddo fod â mwy o bwysiad yn y grŵp na'r profion eraill pan gyfrifir y radd derfynol ar gyfer y golofn hon.
Mae'r profion 1-4 werth 15% yr un ac mae'r arholiad terfynol werth 40%. Mae pob un o’r profion hefyd werth gwerthoedd pwyntiau gwahanol, fel y dangosir isod.
Enw’r eitem | Pwyntiau posibl | Pwysoliad yr eitem |
|---|---|---|
Prawf 1 | 30 pwynt | 15% |
Prawf 2 | 30 pwynt | 15% |
Prawf 3 | 60 pwynt | 15% |
Prawf 4 | 60 pwynt | 15% |
Arholiad Terfynol | 100 pwynt | 40% |
280 pwynt | 100% |
Felly sut y cyfrifir pwyntiau posibl y golofn? Mae'n rhaid inni gymhwyso'r pwysoliad i sgôr y myfyriwr yn ogystal â chyfanswm y pwyntiau posibl.
Yn gyntaf, ystyriwch sawl pwynt y gellir eu cyflawni yn y golofn hon, yn seiliedig ar bwysoliad.
Prawf 1: 30 pwynt x .15 = 4.5
Prawf 2: 30 pwynt x .15 = 4.5
Prawf 3: 60 pwynt x .15 = 9
Prawf 4: 60 pwynt x .15 = 9
Arholiad terfynol: 100 pwynt x .4 = 40
Cyfanswm yr holl bwyntiau posibl wedi’u pwysoli yn y categori hwn yw 67.
Nawr gadewch inni edrych ar ganlyniadau pob prawf y myfyriwr.
Enw’r eitem | Sgôr y myfyriwr | Pwyntiau posibl | Pwysoliad yr eitem |
|---|---|---|---|
Prawf 1 | 22 pwynt | 30 pwynt | 15% |
Prawf 2 | 25 pwynt | 30 pwynt | 15% |
Prawf 3 | 40 pwynt | 60 pwynt | 15% |
Prawf 4 | 55 pwynt | 60 pwynt | 15% |
Arholiad Terfynol | 80 pwynt | 100 pwynt | 40% |
222 pwynt | 280 pwynt | 100% |
Rydym yn gwybod y pwyntiau y gellir eu cyflawni ar gyfer y golofn, gadewch inni weld pa sgoriau wedi'u pwysoli a gyflawnodd y myfyrwyr.
Cyfanswm y canrannau wedi'u pwysoli hyn a gyflawnwyd yw .7925, neu yn fras 79%.
Prawf 1: 22/30 pwynt x .15 = .11
Prawf 2: 25/30 pwynt x .15 = .125
Prawf 3: 40/60 pwynt x .15 = .1
Prawf 4: 55/60 pwynt x .15 = .1375
Arholiad terfynol: 80/100 pwynt x .4 = .32
I ddod o hyd i gyfanswm y sgôr wedi'i bwysoli ar gyfer y golofn hon, rydym yn lluosi'r ganran wedi'i phwysoli a gyflawnwyd a'r pwyntiau wedi'i pwysoli posibl.
.7925 x 67 pwynt = 53.0975 pwynt
Ychwanegu colofn wedi'i phwysoli
O'r Llyfr Graddau, yn y wedd Eitemau Graddadwy neu'r wedd Graddau, dewiswch yr arwydd plws lle rydych eisiau rhoi'r golofn newydd a dewiswch Ychwanegu Cyfrifiad Cyfanswm.
Rhowch deitl ar gyfer y cyfrifiad. Os nad ydych yn ychwanegu teitl, ymddengys "Cyfrifiad Cyfanswm Newydd" a'r dyddiad yn y llyfr graddau.
Dan Gosodiadau, rhowch ddisgrifiad a dewiswch y sgema graddio: Pwyntiau, Canran, Llythyren, neu Cyflawn/Anghyflawn.
I ddangos colofn y cyfrifiad ar dudalennau Graddau myfyrwyr, dewiswch Yn weladwy i fyfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn gweld y graddau a gyfrifiwyd, ond ni fyddant yn weld y disgrifiadau na'r fformiwlâu.
Dan Dewis Math o Gyfrifiad, dewiswch Wedi Pwysoli.
Dan Pwysoli eitemau graddadwy o fewn categori, dewiswch Yn Gymesur neu Yn Gyfartal.
Mae Yn Gymesur yn defnyddio sgoriau crai'r colofnau a chategorïau sydd wedi'u cynnwys ac wedyn yn rhannu'r canlyniad â chyfanswm y pwyntiau sy'n bosibl er mwyn cael canran ar gyfer pob eitem yn y golofn wedi'i phwysoli. Mae'r canrannau sy'n deillio o hynny yn cadw pwysoliad cymesur pob eitem fel bod eitemau sydd â gwerth pwynt mwy yn cael mwy o effaith ar y radd wedi'i chyfrifo.
Pan fydd gan y colofnau a'r categorïau a ddewiswch ar gyfer y golofn wedi'i phwysoli werthoedd pwyntiau gwahanol, mae Yn Gyfartal yn eu trosi yn ganrannau. Cyfartalir y canrannau hyn i gael gwerth cyfartal ar gyfer pob un o'r eitemau a gynhwysir yn y golofn wedi ei phwysoli.
Mae categorïau sy'n cynnwys eitemau yn cael eu rhestru'n gyntaf a'u trefnu yn ôl y nifer o eitemau maent yn eu cynnwys. Ehangwch gategori i weld ei eitemau. O'r ardal hon, gallwch:
Datgysylltu eitem o'i chategori. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych eisiau cynnwys yr eitem yn y cyfrifiad ar wahân i weddill y categori.
Datgloi eitem neu gategori i olygu ei bwysoliad. Bydd y cyfrifiad yn mantoli'r holl eitemau wedi'u datgloi'n awtomatig i sicrhau bod cyfanswm y cyfrifiad yn 100%.
Eithrio eitem mewn categori o gyfrifiad y radd gyffredinol. Mae hyn yn tynnu pwyntiau'r eitem o'r cyfanswm o bwyntiau sydd ar gael yn y cwrs. Bydd yr eitem neu’r categori yn troi’n llwyd i ddangos nad yw wedi’i gynnwys yn y cyfrifiad. Dewiswch y botwm eto i gynnwys yr eitem neu'r categori yn y cyfrifiad unwaith eto.
Ar gyfer pob categori, gallwch ddewis Golygu'r rheolau cyfrifo i ddilysu neu ddiweddaru'r gosodiadau presennol:
Mae Gollwng Sgoriau yn tynnu'r nifer penodol o'r graddau uchaf neu isaf ar gyfer pob categori o'r cyfrifiad.
Mae Defnyddio yn Unig yn tynnu'r holl raddau o'r cyfrifiad heblaw am y sgôr uchaf neu isaf.
Dewiswch Cadw

Ychwanegu colofn pwyntiau
O'r Llyfr Graddau, yn y wedd Eitemau Graddadwy neu'r wedd Graddau, dewiswch yr arwydd plws lle rydych eisiau rhoi'r golofn newydd a dewiswch Ychwanegu Cyfrifiad Cyfanswm.
Rhowch deitl ar gyfer y cyfrifiad. Os nad ydych yn ychwanegu teitl, ymddengys "Cyfrifiad Cyfanswm Newydd" a'r dyddiad yn y llyfr graddau.
Dan Gosodiadau, rhowch ddisgrifiad a dewiswch y sgema graddio: Pwyntiau, Canran, Llythyren, neu Cyflawn/Anghyflawn.
I ddangos colofn y cyfrifiad ar dudalennau Graddau myfyrwyr, dewiswch Yn weladwy i fyfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn gweld y graddau a gyfrifiwyd, ond ni fyddant yn weld y disgrifiadau na'r fformiwlâu.
Dan Dewis Math o Gyfrifiad, dewiswch Pwyntiau.

Dewiswch Cadw.