Rheoli Aseiniadau
Golygu neu aildrefnu Aseiniadau
Gallwch wneud newidiadau i Aseiniadau presennol a newid lle maent yn ymddangos ar eich tudalen Cynnwys Cwrs. Byddwch yn ymwybodol, os byddwch yn newid aseiniad sydd eisoes yn bodoli y gall myfyrwyr gael mynediad ato, mae'n bosib bod rhai myfyrwyr wedi dechrau ar eu cyflwyniadau. Ni allwch newid y sgema graddio os ydych eisoes wedi dechrau graddio.
Dewiswch yr eicon Symud yn rhes aseiniad a'i symud i leoliad newydd. Gallwch hefyd symud aseiniad i mewn i ffolder.
Yn rhes aseiniad, agorwch y ddewislen i ddewis Golygu neu Dileu.

Cynghoryn
Gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud aseiniad.
Tabiwch i fotwm Symud eitem.
Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.
Dileu aseiniadau
Gallwch ddileu aseiniad o'ch cwrs ac os does dim cyflwyniadau gan fyfyrwyr, bydd yr eitem hefyd yn cael ei dileu yn y llyfr graddau. Ar gyfer aseiniadau sydd â chyflwyniadau, bydd rhaid i chi gadarnhau eich bod eisiau tynnu'r aseiniad, yr holl gyflwyniadau a graddau o'ch cwrs yn barhaol.
Neu, gallwch guddio'r aseiniad rhag myfyrwyr er mwyn cadw'r cyflwyniadau a'r sgoriau yn y Llyfr Graddau. Ni all myfyrwyr gael mynediad at aseiniadau cudd ar dudalen Cynnwys y Cwrs neu ar eu tudalennau graddau hyd yn oed os ydych wedi graddio cyflwyniadau.