ORIGINAL Setiau Cwestiynau
Casgliad o gwestiynau o brofion a chronfeydd penodol yw set o gwestiynau.
Gallwch ddefnyddio setiau o gwestiynau wrth greu profion. Gallwch ddewis sawl cwestiwn rydych eu heisiau yn y set. Caiff y cwestiynau eu dewis ar hap bob tro i fyfyriwr gymryd y prawf. Mae dewis cwestiynau yn defnyddio'r un llif gwaith â'r llif gwaith canfod cwestiynau, lle gallwch ddefnyddio chwilio a phori yn ôl metadata.
Gallwch gynnwys sawl set o gwestiynau mewn prawf. Ar gyfer pob set o gwestiynau, gallwch bennu'r paramedrau hyn:
O ba gasgliadau a phrofion y daw'r set o gwestiynau
Y mathau o gwestiynau i'w defnyddio
Nifer y cwestiynau i'w defnyddio
Chi sy'n dewis nifer y cwestiynau o'r set i'w dangos. Er enghraifft, gallwch ddangos 3 chwestiwn allan o 50. Caiff y cwestiynau eu dosbarthu ar hap felly bydd pob myfyriwr yn gweld gwahanol set o 3 chwestiwn. Gallwch hefyd ddangos yr holl gwestiynau yn y set i fyfyrwyr.
Terminoleg asesiadau'r Wedd Cwrs Ultra o'i chymharu â'r Wedd Cwrs Original
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i enwau nodweddion asesu sy’n seiliedig ar ymchwil defnyddwyr a safonau presennol y diwydiant. Mae’r Wedd Cwrs Ultra yn cynnwys y derminoleg newydd sy’n alinio â safonau cyfredol.
Mae’r tabl hwn yn rhestru enwau nodweddion cwestiynau asesiadau yn y ddwy wedd cwrs.
Gwedd Cwrs Ultra | Gwedd Cwrs Gwreiddiol |
|---|---|
Setiau o Gwestiynau neu Flociau Ar Hap
Er bod setiau cwestiynau a blociau ar hap yn cyflwyno cwestiynau ar hap i fyfyrwyr, mae gan y ddwy nodwedd wahaniaethau amlwg:
Gallwch ddewis eich cwestiynau eich hun o unrhyw brawf, arolwg a chasgliad ar gyfer setiau o gwestiynau. Mae blociau ar hap yn tynnu cwestiynau o gasgliadau yn unig, felly ni allwch gynnwys cwestiynau o brofion neu arolygon eraill. Cyn i chi greu blociau ar hap, rhaid i chi greu o leiaf un gronfa gwestiynau yn gyntaf.
Gallwch chwilio am gwestiynau a phori metaddata i greu setiau o gwestiynau. Ni allwch chwilio am gwestiynau na phori metaddata pan fyddwch yn creu blociau ar hap.
Gallwch chi ddileu cwestiynau mewn setiau o gwestiynau. Caiff y cwestiwn ei dynnu o'r set, ond ni fydd yn cael ei dileu o'ch cwrs. Ni allwch chi ddileu cwestiynau o fewn bloc ar hap. Os nad ydych eisiau i gwestiwn gael ei gynnwys yn eich bloc ar hap, tynnwch y cwestiwn o'r casgliad mae'n rhan ohono.
Ar ôl i chi wneud eich dewisiadau, rydych yn gosod yr un pwyntiau posib i'r holl gwestiynau yn y set neu floc. I bennu gwerth pwyntiau gwahanol i gwestiwn, mae angen i chi ychwanegu'r cwestiwn ar ei ben ei hun y tu allan i floc neu set.
Creu setiau o gwestiynau
Os yw wedi'i alluogi, gwnewch yn siŵr eich bod yn analluogi'r atalydd naidlen ar gyfer Blackboard fel y gallwch gyrchu'r ffenestr naid Creu Set Cwestiynau.

Ewch i'r prawf. O'r ddewislen Ailddefnyddio Cwestiwn, dewiswch Creu Set Cwestiynau.
Yn y ffenestr naid, chwiliwch am gwestiynau yn y panel Meini Prawf Pori. Ehangwch adrannau'r meini prawf a dewiswch feini prawf penodol. Gallwch chwilio cronfeydd, profion, mathau o gwestiynau, categorïau, pynciau, lefelau anhawster a geiriau allweddol. Bydd yr holl gwestiynau sy'n bodloni'r meini prawf hynny yn ymddangos. Gallwch hefyd ddefnyddio'r blwch Chwilio canlyniadau cyfredol i deipio ymadrodd, gair, neu ran o air i ddod o hyd i gwestiynau cyfatebol.
Rhowch dic yn y blwch wrth ymyl y cwestiynau rydych am eu hychwanegu at yr asesiad. Mae'r cwestiynau yn ymddangos yn yr ardal Cwestiynau Dethol ar waelod y sgrin. Gallwch ehangu'r maes i weld eich rhestr o gwestiynau. Dewiswch yr X coch wrth ymyl cwestiwn i'w dynnu. Caiff y cwestiwn ei dynnu o’r casgliad, ond ni chaiff ei ddileu o’ch cwrs.
Dewiswch Cyflwyno. Mae'r cwestiynau yn cael eu hychwanegu at y cwestiynau sydd wedi'u gosod ar y Test Canvas.

Golygu setiau o gwestiynau
Ar y Cynfas Prawf, dewch o hyd i'r set cwestiynau. Bydd y set o gwestiynau'n dangos nifer y cwestiynau yn y set, a nifer y cwestiynau i'w dangos. Un yw'r rhagosodiad.

Gallwch newid y rhif yn y blwch Nifer y Cwestiynau i'w ddangos.
Yn y blwch Pwyntiau fesul cwestiwn, teipiwch y pwyntiau y gall myfyrwyr eu hennill ar gyfer pob cwestiwn yn y set. Er enghraifft, os byddwch yn ei osod i 10, a bod y set cwestiwn yn cyflwyno 2 allan o 5 cwestiwn, mae gan y set cwestiwn gyfanswm o 20 pwynt y gall myfyrwyr eu hennill am bob ateb cywir. Ni allwch bennu gwerthoedd pwyntiau gwahanol ar gyfer cwestiynau unigol yn yr un set o gwestiynau. Felly, efallai byddwch am gynnwys cwestiynau gyda lefel anhawster debyg yn unig.
Oherwydd fformat ar hap y setiau o gwestiynau, defnyddiwch bwyll pan fyddwch yn cyfeirio at gynnwys neu rifau cwestiynau penodol. Bydd y cwestiynau sy'n ymddangos yn newid gyda phob ymgais.
Ychwanegu cwestiynau at y set:
O'r set gwestiynau, ehangu Cwestiynau yn y Set. Dewiswch Ychwanegu Cwestiynau.
Yn y ffenestr naid, defnyddiwch y meini prawf i ddod o hyd i'r cwestiynau a'u dewis i'w ychwanegu at y cwestiynau sydd eisoes yn y set. Dewiswch Cyflwyno.
Tynnu cwestiynau o'r set:
Dewiswch y cwestiynau a dewiswch Dileu Cwestiwn. Caiff y cwestiwn ei dynnu o'r set, ond ni fydd yn cael ei dileu o'ch cwrs.