Colofnau Gradd
Mae colofnau gradd yn dangos graddau ar gyfer y gwahanol weithgareddau yn eich cwrs.
Gallwch greu colofnau ar gyfer:
Gradd Gyffredinol: Mae'n dangos gradd derfynol y cwrs yn seiliedig ar bwyntiau, eitemau wedi'u pwysoli, neu fformiwla bersonol.
Eitemau graddadwy: Mae colofnau'n cael eu hychwanegu'n awtomatig ar gyfer eitemau gradd a gwblhawyd ar-lein, megis profion ac aseiniadau, neu gallwch ychwanegu colofnau â llaw ar gyfer eitemau graddadwy a gwblhawyd all-lein, megis gweithgareddau a ddigwyddodd y tu allan i'r dosbarth.
Graddau presenoldeb: Os rydych yn defnyddio presenoldeb yn eich cyfrifiadau gradd, mae'r golofn Presenoldeb yn dangos gradd bresenoldeb bresennol y myfyriwr.
Colofn Cyfrifiad Cyfanswm: Mae'n dangos sgôr a gyfrifwyd yn seiliedig ar bwyntiau neu eitemau wedi'u pwysoli. Defnyddir hyn yn amlaf ar gyfer cyfrifiad Tymor i roi gwedd arall o'r Radd Gyffredinol i fyfyrwyr, lle mae un mewn pwyntiau a'r llall mewn canrannau.
Colofn Cyfrifiad: Mae'n dangos sgôr a gyfrifwyd yn seiliedig ar fformiwla bersonol ar gyfer detholiad o waith cwrs, megis asesiadau neu gategorïau penodol yn unig.
Ynghylch cyfrifiadau'r llyfr graddau
Mae cyfrifiad llyfr graddau yn fformiwla sy'n cynhyrchu canlyniad rhifol a ddefnyddir i weld neu neilltuo graddau ar gyfer cwrs, fel arfer yn seiliedig ar eitemau a raddiwyd eraill.
Gallwch greu 3 math o gyfrifiad o fewn cwrs:
Colofn Cyfrifiad Cyfanswm: Ar gyfer cyfrifo sgôr yn seiliedig ar bwyntiau neu eitemau wedi'u pwysoli. Defnyddir hyn yn amlaf ar gyfer cyfrifiad Tymor i roi gwedd arall o'r Radd Gyffredinol i fyfyrwyr, lle mae un mewn pwyntiau a'r llall mewn canrannau.
Colofn Cyfrifiad: Ar gyfer cyfrifo sgôr yn seiliedig ar fformiwla bersonol ar gyfer detholiad o waith cwrs, megis asesiadau neu gategorïau penodol yn unig.
Cyfrifiad Gradd Gyffredinol: Ar gyfer cyfrifo gradd derfynol y cwrs yn seiliedig ar bwyntiau, eitemau wedi'u pwysoli, neu fformiwla bersonol.

Nodyn
Mae gan bob cwrs un sgema graddio diofyn a ddefnyddir ar gyfer graddau a chyfrifiadau. Diffinnir enw a gwerthoedd y sgema diofyn gan y gweinyddwr, ond gallwch greu sgemâu graddio newydd neu addasu sgemâu sydd eisoes yn bodoli ar gyfer eich cwrs.
Nodyn
Mae cyfrifiadau sy'n rhoi rhifau ar ôl y degolyn, gan gynnwys rhifau sy'n ailadrodd, yn cael eu talfyrru ar ôl yr ail le degol. Defnyddir y talfyriad hwn at ddibenion arddangos yn unig ac ni fydd y gwerthoedd byth yn cael eu talgrynnu i fyny. Bydd cyfrifiadau pellach yn defnyddio'r rhif llawn hyd at 15 lle degol.