Cysoni Graddau
Ynglŷn â chysoni graddau
Pan fydd graddau yn barod i'w cysoni, byddwch yn cael hysbysiad yn y ffrwd gweithgarwch a bydd yr eitemau yn ymddangos yn adran Angen Cysoni tab Trosolwg y Llyfr Graddau. Byddwch yn cael yr hysbysiad ar ôl i'r graddwyr a bennwyd raddio ymgais un myfyriwr.

Cysoni ymgais unigol
Gallwch adolygu gradd ac adborth pob graddiwr cyn pennu'r radd derfynol. Gallwch gysoni graddau hyd yn oed os nad yw'r graddwyr yn graddio pob ymgais.

Aseinio graddau. Dewiswch y bilsen radd i aseinio gradd neu agor y cyfarwyddyd. Nodyn atgoffa: Ni allwch weld cyfarwyddyd graddiwr na’i anodiadau ar ffeiliau myfyrwyr. Ni allwch hefyd olygu gradd nac adborth graddiwr.
Adolygu adborth. Dewiswch yr eicon adborth i agor y panel Adborth ac adolygwch adborth y graddwyr.
Ychwanegwch eich adborth. Ni fydd myfyrwyr yn gweld adborth y graddwyr ond bydd eich adborth yn ymddangos pan fyddwch yn cyhoeddi'r graddau terfynol.
Ar ôl i chi gyhoeddi'r graddau terfynol, gall graddwyr ond weld y graddau ac adborth terfynol. Ni all graddwyr gael mynediad at eu gwerthusiadau i’w golygu ar ôl i raddau terfynol gael eu cyhoeddi.

Mae myfyrwyr ond yn gweld y radd, adborth a chyfeireb o'r cysonwr. Nid yw myfyrwyr yn gweld unrhyw beth a ddarparwyd gan y graddwyr unigol.

Cysoni Popeth
Nid oes rhaid i chi gysoni graddau fesul un. Gydag un gweithrediad, gallwch gysoni pob ymgais sydd ag un neu ragor o raddau o raddwyr. Er enghraifft, gallwch gysoni “mewn sympiau” os ydych yn ymddiried yn eich graddwyr ac eisiau aseinio cyfartaledd eu graddau i bob ymgais.
Nid oes rhaid i bob graddiwr orffen cyn i chi gysoni graddau. Hefyd, nid oes rhaid i chi aros nes bod bob myfyriwr wedi gwneud ymgais. Gallwch gysoni graddau yn awtomatig ar gyfer yr ymgeisiau sydd wedi’u cyflwyno. Ni ellir dadwneud y weithred hon. Nid yw cysoni yn gwrthwneud graddau a gysonwyd â llaw na graddau a gysonwyd yn flaenorol.
Ar y dudalen Cyflwyniadau, dewiswch y ddolen Cysoni Pob Un.
Dewiswch y radd i'w defnyddio:
Cyfartaledd y graddau
Yr uchaf o’r graddau
Yr isaf o’r graddau
Byddwch bob amser yn gweld ymgeisiau sy’n barod i'w cysoni os yw'r myfyrwyr wedi gwneud ymgeisiau. Nid oes rhaid i raddwyr aseinio graddau a rhoi adborth cyn i'r ymgeisiau fod yn barod i'w cysoni.

Os dewiswch gysoni pob gradd ac rydych wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r asesiad, bydd label Gwrthwneud yn ymddangos ar y dudalen rhestr Cyflwyniadau yn unig.
Cysoni ymgeisiau lluosog
Pan fyddwch yn caniatáu ymgeisiau lluosog ar gyfer asesiad, byddwch yn gweld graddau a roddwyd gan raddwyr fesul ymgais. Wedyn, cysonwch raddau ar gyfer pob ymgais. Cyfrifir y radd derfynol ar gyfer asesiad ymgais lluosog yn seiliedig ar y gosodiad Graddio ymgeisiau y dewisoch wrth greu’r asesiad.
Dewiswch ymgais neu'r bilsen radd i weld gwaith y myfyriwr a chysoni'r graddau. Gallwch hefyd gysoni pob un o'r graddau ar gyfer ymgeisiau sydd eisoes yn bodoli mewn sympiau.

Nid yw graddio cyfochrog yn effeithio ar sut cyfrifir y radd derfynol. Fodd bynnag, ni ellir cyfrifo'r radd derfynol nes bod yr ymgeisiau wedi’u cysoni. Mae'r radd derfynol yn ymddangos yn y llyfr graddau ar ôl cysoni’r ymgeisiau hynny. Er enghraifft, os cyfrifir y radd derfynol yn seiliedig ar yr ymgais sydd wedi ennill y radd uchaf, mae'r radd derfynol yn ymddangos yn syth ar ôl cysoni un ymgais. Ond, gall y radd newid wrth i fyfyrwyr gyflwyno rhagor o ymgeisiau.
Ar ôl cysoni, gallwch gyhoeddi'r graddau terfynol ar gyfer myfyrwyr.