Uwchlwytho neu Fewnforio Cwestiynau
Gallwch ysgrifennu cwestiynau all-lein mewn ffeil destun a’i huwchlwytho i brawf.
Ar ôl ichi uwchlwytho ffeil, mae modd ichi olygu’r cwestiynau a’u defnyddio nhw yn union fel y cwestiynau rydych chi wedi’u creu o fewn eich cwrs.
Cyn ichi ddechrau arni
Rhaid i’r cwestiynau a’r ffeiliau rydych chi am eu huwchlwytho fodloni’r canllawiau sydd wedi’u nodi ar gyfer y pwnc hwn.
Bydd cwestiynau sy'n cynnwys gwall yn methu uwchlwytho. Bydd cwestiynau heb wallau yn llwytho i fyny'n llwyddiannus.
Dydy’r system ddim yn gwirio am gwestiynau dyblyg.
Mae’r cwestiynau a gaiff eu huwchlwytho yn derbyn y gwerth pwyntiau sydd wedi’i bennu ar eu cyfer yn awtomatig ar ôl cael eu huwchlwytho. Os wnaethoch chi ddim pennu gwerth ar gyfer y cwestiynau, caiff sero ei bennu yn werth pwyntiau awtomatig. Bydd angen i chi ychwanegu gwerth pwyntiau ar gyfer pob cwestiwn.
Uwchlwytho ffeil cwestiynau
O'r prawf, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen
Dewiswch Uwchlwytho cwestiynau o ffeil.
Dewiswch Pori i ddod o hyd i’r ffeil.
Dewiswch Cyflwyno ac wedyn Iawn. Mae’r cwestiynau yn ymddangos yn y prawf.
Gallwch olygu’r cwestiynau a newid eu trefn.
Canllawiau fformat y ffeil
Rhaid i bob ffeil sy’n cynnwys cwestiynau i’w huwchlwytho gydymffurfio â’r canllawiau hyn:
Rhaid i bob ffeil fod yn ffeil TXT wedi'i gwahanu gyda thabiau. Gallwch olygu’r ffeil hon gan ddefnyddio Microsoft® Excel® neu olygydd testun.
Argymhellir bod pob ffeil swmp yn llai na 250 o gofnodion.
Peidiwch â chynnwys rhes bennawd yn y ffeil.
Peidiwch â chynnwys llinellau gwag rhwng cofnodion. Bydd y llinell wag yn cael ei phrosesu ac yn dychwelyd gwall.
Cynhwyswch un cwestiwn yn unig y rhes.
Mae’r maes cyntaf ym mhob rhes yn diffinio math y cwestiwn.
Dylech chi sicrhau bod pob maes mewn rhes yn ymddangos ar wahân gan ddefnyddio TAB.
Mae rhaid i
correct,incorrect,true,falsea geiriau eraill sy'n nodi atebion fod yn Saesneg.
Canllawiau ar fformat y cwestiynau
Fel bod modd ei uwchlwytho’n llwyddiannus, rhaid i’r cwestiwn yn y ffeil testun gyfateb â’r canllawiau yn y tabl hwn.
Nodyn
Bydd cwestiynau sy'n cynnwys gwall yn methu uwchlwytho. Bydd cwestiynau heb wallau yn llwytho i fyny'n llwyddiannus.
Math o Gwestiwn | Strwythur |
|---|---|
Amlddewis |
Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Amlddewis. Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Ateb Lluosog |
Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Ateb Lluosog. Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Gwir/Gau |
|
Traethawd |
Mae testun mewn [ ] yn ddewisol. Gallwch ddewis cynnwys sampl neu adael hyn yn wag. |
Cyfateb |
Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Cyfatebu. Yr uchafswm o atebion yw 100. Bydd y system yn trefnu'r atebion a'u cwestiwn ar hap. Wrth uwchlwytho cwestiwn cyfatebol, rhaid i chi sicrhau bod cysylltiad un-i-un rhwng y cwestiynau a’r atebion. Os nad oes, gall atebion cywir gael eu marcio'n anghywir os yw'n gwerth gan fwy nag un ateb. |
Llenwi'r Bwlch |
Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Llenwi'r Bwlch. Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Llenwi Bylchau |
Mae’r fformat yn cynnwys rhestr o atebion newidiol lle mae pob ateb newidiol yn cynnwys enw’r newidyn a rhestr o atebion cywir ar gyfer y newidyn hwnnw. Caiff atebion newidiol eu cyfyngu gan faes gwag. Y nifer mwyaf o newidynnau yw 10. |
Ymateb Rhifol |
|
Ffeil cwestiynau enghreifftiol
