ORIGINAL Cwestiynau Cyffredin am Gyrsiau ac Ieithoedd
Sut ydw i’n sicrhau bod fy nghwrs ar gael i fyfyrwyr?
Gosod argaeledd eich cwrs: Panel Rheoli > Addasu > Priodweddau > Gosod Argaeledd

Yn adran Gosod Argaeledd, dewiswch Ie neu Na.
Os oes angen, wrth gyhoeddi cwrs, gallwch ddewis un o’r opsiynau yn adran Gosod Hyd y Cwrs:
Parhaus (diofyn), os ydych chi am i’r cwrs fod ar gael heb ddyddiad dechrau na dyddiad dod i ben
Dewis Dyddiadau i ddewis dyddiad dechrau a/neu ddyddiad dod i ben
Diwrnodau o'r Dyddiad Ymrestru i bennu cyfnod penodol o amser sydd gan ddefnyddwyr i fynd at y cwrs ar ôl iddynt ymrestru. Yr opsiwn hwn sydd orau ar gyfer cyrsiau lle mae defnyddwyr yn gweithio ar eu cyflymder eu hunain.
Dewiswch Cyflwyno.
Gallwch reoli pan fydd eich cwrs yn breifat—neu heb fod ar gael—i'ch myfyrwyr.
Cynghoryn
Sut mae creu cynnwys?
Barod i ychwanegu cynnwys at eich cwrs? Rydych chi'n creu eich darnau unigol o gynnwys mewn cynwysyddion cynnwys: meysydd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau Gwersi, a ffolderi. Mewn cynhwysydd cynnwys, rydych yn creu cynnwys o ddewislenni ar gyfer eitemau cynnwys, profion, aseiniadau a dolenni at offer.
Cynghoryn
Alla i guddio cynnwys cwrs rhag myfyrwyr hyd nes fy mod yn barod i’w ddangos iddynt?
Ydy. Wrth greu cynnwys, gallwch bennu’i argaeledd. Gallwch guddio cynnwys rhag myfyrwyr hyd nes eich bod yn barod iddynt ei weld. Hefyd, gallwch gyfyngu ar beth all y myfyrwyr ei weld yn ôl dyddiad, amser, defnyddwyr unigol, grwpiau cwrs, a pherfformiad myfyrwyr ar eitemau sy’n cael eu marcio.
Pa fathau o gynnwys alla i ei ychwanegu?
Mae rhai dewisiadau yn dibynnu ar osodiadau gweinyddol eich sefydliad, ond fel arfer gallwch ychwanegu ffeiliau, ffeiliau sain, fideos, meysydd llafur, dolenni a ffolderi.
Cynghoryn
Sut ydw i'n gwneud cynnwys fy nghwrs yn fwy hygyrch?
Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.
Mae Ally yn sganio cynnwys eich cyrsiau'n awtomatig ac yn cwblhau camau i wneud ffeiliau'n fwy hygyrch.

Beth yw pecynnau iaith?
Mae pecynnau iaith yn cyflwyno Blackboard gyda normau iaith a diwylliannol wedi'u cyfateb i wahanol gynulleidfaoedd. Diffinnir pecynnau iaith ar lefel y system, y cwrs neu’r sefydliad, a’r defnyddiwr.
Tair lefel o becynnau iaith
Lefel y system
Mae'ch sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel pecyn diofyn y system. Mae’r iaith yn ymddangos os na ddewisir pecyn iaith arall ar lefel y cwrs neu’r defnyddiwr.
Lefel y cwrs
Mewn amgylchedd Gwreiddiol, gallwch osod pecyn iaith sy’n wahanol i’r un diofyn, er mwyn i bob defnyddiwr ar gwrs weld yr un pecyn iaith. Er enghraifft, os ydych yn addysgu dosbarth Sbaeneg, efallai byddwch eisiau dewis Sbaeneg fel yr iaith a ddangosir ar lefel y cwrs.
Lefel y defnyddiwr
Caiff unigolion ddewis becyn iaith, oni bai bod pecyn iaith wedi ei ddewis drostynt eisoes.
Nodyn
Ni chaiff enwau personoledig ar feysydd cynnwys ac adnoddau eu newid wrth osod pecyn iaith newydd. Mae'r gwerthoedd hyn yn aros yr un peth ar gyfer pob pecyn iaith. Caiff yr enwau diofyn yn y system eu cyfieithu ac maen nhw'n ymddangos yn wahanol ym mhob pecyn iaith.
Sut mae gosod pecyn iaith?
Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Priodweddau.
Ar dudalen Priodweddau dewiswch iaith o’r rhestr.
Dewiswch Gorfodi'r Pecyn Iaith fel bod y cwrs bob tro yn ymddangos yn yr iaith honno.
Dewiswch Cyflwyno.
Os na ddewiswch becyn iaith ar gyfer cwrs, bydd y cwrs yn ymddangos yn newis iaith y defnyddiwr. Neu, os nad yw’r defnyddiwr wedi dewis pecyn iaith, bydd iaith ddiofyn y system yn cael ei defnyddio.
Pam nad yw rhai meysydd cyrsiau yn cael eu heffeithio gan ddewisiadau pecynnau iaith?
Fel arfer, bydd y Panel Rheoli yn ymddangos yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer cwrs, ac nid yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr. Bydd rhai rhannau o gwrs yn ymddangos yn iaith ddiofyn y system neu yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr, yn hytrach nag yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer y cwrs cyfan. Fydd y tudalennau hyn ddim yn ymddangos yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer y cwrs:
Panel Rheoli > Gwybodaeth Cwrs > Golygu Eitem, Copïo Eitem, Ychwanegu Eitem, Dileu Eitem
Panel Rheoli > Copïo Ffeiliau i'r Casgliad Cynnwys
Panel Rheoli > Bwrdd Trafod > Ychwanegu Fforwm
Panel Rheoli > Cyhoeddiadau > Derbynneb cadarnhad
Cynghoryn
Pan fyddwch yn defnyddio iaith o’r dde i'r chwith, ni newidir cyfeiriad rhifau Saesneg byth. Er enghraifft, bydd rhywbeth fel A58B265 yn aros yr un peth yn ieithoedd o'r chwith i'r dde ac o'r dde i'r chwith. Ni fydd dyddiadau, slaesau na rheolyddion cyfryngau yn newid cyfeiriau, ond bydd bariau sgrolio a chyfeiriolion yn newid cyfeiriau neu leoliad.
Cynghoryn
Pa un yw’n galendr Hijri neu Gregori, os ysgrifennir y calendr yn Saesneg gyda rhifau Saesneg, bydd y calendr yn arddangos o'r chwith i'r dde. Fodd bynnag, os yw’r calendr yn Arabeg, mae’r calendr yn newid cyfeiriad ac yn cael ei ddangos o'r dde i'r chwith.