Skip to main content

ORIGINAL Personoli Iaith Cwrs

Mae pecynnau iaith yn cyflwyno Blackboard gyda normau iaith a diwylliannol wedi'u cyfateb i wahanol gynulleidfaoedd. Gwneir dewisiadau am becynnau iaith ar lefel y system, cwrs neu sefydliad, ac ar lefel y defnyddiwr.

Tair lefel o becynnau iaith

Lefel y system

Mae'ch sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel pecyn diofyn y system. Mae’r pecyn iaith hwn yn ymddangos os na ddewisir pecyn iaith arall ar lefel y cwrs neu’r defnyddiwr.

Lefel y cwrs

Yn y profiad Gwreiddiol, gallwch osod pecyn iaith sy’n wahanol i’r un diofyn, fel bod pob defnyddiwr mewn cwrs yn gweld yr un pecyn iaith. Er enghraifft, os ydych yn addysgu dosbarth Sbaeneg, efallai byddwch eisiau dewis Sbaeneg fel yr iaith a ddangosir ar lefel y cwrs. Ni all hyfforddwyr osod ieithoedd cwrs penodol yn Ultra ar hyn o bryd.

Lefel y defnyddiwr

Caiff unigolion ddewis becyn iaith, oni bai bod pecyn iaith wedi ei ddewis drostynt eisoes.

Nodyn

Ni chaiff enwau personoledig ar feysydd cynnwys ac adnoddau eu newid wrth osod pecyn iaith newydd. Mae'r gwerthoedd hyn yn aros yr un peth ar gyfer pob pecyn iaith. Caiff yr enwau diofyn yn y system eu cyfieithu ac maen nhw'n ymddangos yn wahanol ym mhob pecyn iaith.

Gosod pecyn iaith

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Priodweddau.

  2. Ar dudalen Properties dewiswch iaith ar ddewislen Pecyn Iaith.

  3. Dewiswch Gorfodi'r Pecyn Iaith fel bod y cwrs bob tro yn ymddangos yn yr iaith honno.

  4. Dewiswch Cyflwyno.

Os na ddewiswch becyn iaith ar gyfer cwrs, bydd y cwrs yn ymddangos yn newis iaith y defnyddiwr. Os nad yw’r defnyddiwr wedi dewis pecyn iaith, bydd iaith ddiofyn y system yn cael ei defnyddio.

Gwyliwch fideo am newid pecyn iaith y cwrs

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.


Fideo: Sut i Newid Iaith y Rhyngwyneb Defnyddiwr: Hyfforddwr yn dangos sut i newid pecyn iaith y cwrs.

Meysydd cyrsiau nad ydynt yn cael eu heffeithio gan ddewisiadau pecynnau iaith

Fel arfer, bydd y Panel Rheoli yn ymddangos yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer cwrs, ac nid yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr. Bydd rhai rhannau o gwrs yn ymddangos yn iaith ddiofyn y system neu yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr, yn hytrach nag yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer y cwrs cyfan. Fydd y tudalennau hyn ddim yn ymddangos yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer y cwrs:

  • Panel Rheoli > Gwybodaeth Cwrs > Golygu Eitem, Copïo Eitem, Ychwanegu Eitem, Dileu Eitem

  • Panel Rheoli > Copïo Ffeiliau i'r Casgliad Cynnwys

  • Panel Rheoli > Bwrdd Trafod > Ychwanegu Fforwm

  • Panel Rheoli > Cyhoeddiadau > Derbynneb cadarnhad

Cynghoryn

Pan fyddwch yn defnyddio iaith o’r dde i'r chwith, ni newidir cyfeiriad rhifau Saesneg byth. Er enghraifft, bydd rhywbeth fel A58B265 yn aros yr un peth yn ieithoedd o'r chwith i'r dde ac o'r dde i'r chwith. Ni fydd dyddiadau, slaesau na rheolyddion cyfryngau yn newid cyfeiriau, ond bydd bariau sgrolio a chyfeiriolion yn newid cyfeiriau neu leoliad.

Cynghoryn

Pa un yw’n galendr Hijri neu Gregori, os ysgrifennir y calendr yn Saesneg gyda rhifau Saesneg, bydd y calendr yn arddangos o'r chwith i'r dde. Fodd bynnag, os yw’r calendr yn Arabeg, mae’r calendr yn newid cyfeiriad ac yn cael ei ddangos o'r dde i'r chwith.