Skip to main content

Cyfarwyddiadau

Mae cyfarwyddiadau'n gallu helpu sicrhau graddio cyson a diduedd a helpu myfyrwyr i ffocysu ar eich disgwyliadau.

Offeryn sgorio yw cyfarwyddyd y gallwch ei ddefnyddio i werthuso gwaith sy'n cael ei raddio. Wrth greu cyfarwyddyd, rydych yn rhannu’r gwaith a neilltuwyd yn ddarnau. Gallwch ddarparu disgrifiadau clir o nodweddion y gwaith sy’n gysylltiedig â phob rhan, ar lefelau amrywiol o ran medr.

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r cyfarwyddyd i roi trefn ar eu hymdrechion i fodloni gofynion y gwaith sydd wedi’i raddio. Wrth roi mynediad at gyfarwyddiadau i fyfyrwyr cyn iddynt gwblhau eu gwaith, rydych yn darparu tryloywder o ran eich dulliau graddio.

Gallwch greu pedwar math o gyfarwyddiadau: canran, amrediad canran, pwyntiau, ac amrediad pwyntiau. Gallwch gysylltu cyfarwyddiadau ag aseiniadau, trafodaethau, a dyddlyfrau.

Gallwch greu nifer o gyfarwyddiadau yn eich cwrs. Mae cyfarwyddiadau yn cynnwys rhesi a cholofnau. Nid oes cyfyngiadau ar y nifer o resi a cholofnau y gallwch eu hychwanegu at eich cyfarwyddiadau. Mae'r rhesi'n cyfateb i’r meini prawf a asesir. Mae'r colofnau'n cyfateb i'r lefel cyflawniad sy'n disgrifio pob maen prawf. Mae gan gyfarwyddiadau newydd bedair rhes a phedair colofn. Gallwch ddileu pob rhes a cholofn ond un.

Pwysig

Gallwch gysylltu cyfarwyddiadau ag aseiniadau yn unig. Ni allwch greu cyfarwyddiadau ar ledau sgrîn fach, fel dyfeisiau symudol. Mae cyfarwyddiadau ar gael yn y modd darllen yn unig ar ddyfeisiau symudol.

Delwedd trosolwg o gyfarwyddyd

Gwedd myfyrwyr o gyfarwyddiadau

Gall myfyrwyr weld cyfarwyddiadau cyn iddynt agor aseiniad, prawf, a thrafodaeth ac ar ôl iddynt ddechrau’r ymdrech. Mae myfyrwyr yn dewis Mae’r eitem hon wedi’i graddio â chyfarwyddyd yn adran Manylion a Gwybodaeth yr eitem i weld y cyfarwyddyd.

Delwedd o aseiniad gyda'r opsiwn i weld cyfarwyddyd wedi'i amlygu

Gall myfyrwyr weld y cyfarwyddyd ochr yn ochr â’r cyfarwyddiadau cyffredinol. Gallant ehangu pob maen prawf cyfarwyddyd i weld y lefel cyflawniad a threfnu eu hymdrechion i fodloni gofynion y gwaith sy’n cael ei raddio.

Delwedd o wedd y myfyriwr o gyfarwyddyd