Credyd ychwanegol wrth bwysoli graddau
Mae’r cyfrifiad cyfanswm wedi ei phwysoli yn cynhyrchu gradd yn seiliedig ar ganlyniad eitemau a chategorïau a ddewisir, a'u canrannau priodol. Pan fyddwch chi'n creu cyfrifiad cyfanswm neu gyfrifiad Gradd gyffredinol wedi'i bwysoli, gallwch gynnwys eitemau eraill a gyfrifwyd. Eich opsiynau yw ychwanegu pwyntiau credyd ychwanegu i gategori neu i’r radd gyffredinol.
Sylwch fod y ffordd rydych chi'n ychwanegu'r pwyntiau credyd ychwanegol yn effeithio ar allbwn y cyfrifiad.
Rydych chi am ychwanegu 5 pwynt credyd ychwanegol i brofion. Yn y Llyfr Graddau, ewch ati i greu colofn credyd ychwanegol sydd werth 10 o bwyntiau. Ar ôl ychwanegu'r 5 pwynt ar gyfer pob myfyriwr i'r golofn credyd ychwanegol, ewch ati i greu cyfrifiad sy'n cyfrifo cyfanswm y graddau prawf cyfun. Mae'r cyfrifiad Cyfanswm Profion yn cynnwys unrhyw eitemau sy'n cynnwys graddau prawf a'r golofn credyd ychwanegol. Pan fyddwch chi'n creu cyfrifiad cyfanswm wedi'i bwysoli, yn hytrach nag ychwanegu'r categori Profion gwerth 20%, ychwanegwch y golofn Cyfanswm Profion ar gyfer 20%.
Creu credyd ychwanegol wedi'i bwysoli
Ychwanegwch eich eitem credyd ychwanegol
Ewch i'r Llyfr Graddau a dewiswch Ychwanegu Eitem.
Yn y panel Eitem Newydd, rhowch y wybodaeth briodol ac enwi'r eitem Credyd ychwanegol prawf. Dylech gynnwys 0 fel uchafswm y pwyntiau.
Dewiswch Cadw i ddychwelyd i'r Llyfr Graddau.
Creu cyfrifiad i gyfrifo cyfanswm yr holl brofion ac eitem credyd ychwanegol y prawf
Ar gyfer eich colofn Cyfanswm pwysol, gwiriwch mai Cyfanswm y Profion yw'r eitem sy'n cael ei phwyso, nid y categori Profion.
Pan fyddwch yn cyfuno colofn credyd ychwanegol â cholofn cyfanswm pwysol, mae’r ddwy yn cael eu cyfrif fel pwyntiau yn hytrach na chanrannau.
Yn y Llyfr Graddau, dewiswch y botwm plws lle rydych eisiau rhoi'r golofn.
Dewiswch Ychwanegu Cyfrifiad Cyfanswm.
Yn y panel Cyfrifiad Cyfanswm Newydd, rhowch y wybodaeth briodol, a'i henwi Cyfanswm profion.
Dylech gynnwys y categori Prawf a’r golofn credyd ychwanegol profion.
Dewiswch Cadw.
Ychwanegu pwyntiau credyd ychwanegol at y radd gyffredinol
Ffurfweddwch y Cyfrifiad gradd gyffredinol i gyfansymio'r colofnau Cyfanswm Pwysol a Credyd Ychwanegol.
Ewch i'r Llyfr Graddau a dewiswch Ychwanegu Eitem.
Yn y panel Eitem Newydd, rhowch y wybodaeth briodol ac enwi'r eitem Credyd ychwanegol prawf. Dylech gynnwys 0 fel uchafswm y pwyntiau.
Dewiswch Cadw i ddychwelyd i'r Llyfr Graddau.