Graddio Cyfochrog
Ynglŷn â graddio cyfochrog
Gallwch drefnu bod defnyddwyr penodol yn eich cwrs yn graddio setiau o gyflwyniadau asesiadau. Ni all graddwyr weld graddau, adborth, anodiadau ar ffeiliau myfyrwyr, a chyfeirebau graddwyr eraill. Maent yn graddio’n gyfochrog ac yn darparu graddau dros dro. Mae'r rolau graddio diofyn yn cynnwys hyfforddwyr, graddwyr a chynorthwywyr dysgu.
Y rôl hyfforddwr yw'r graddiwr terfynol neu gysonwr diofyn. Mae'r cysonwr yn adolygu’r graddau dros dro ac yn pennu’r graddau terfynol mae myfyrwyr yn eu gweld. Gallwch neilltuo’r gallu i gysoni graddau i un neu ragor o ddefnyddwyr eraill sydd â breintiau graddio a thynnu’ch gallu i gysoni.
Mae rhai sefydliadau yn cyfeirio at raddio cyfochrog fel “graddio dall”.
Breintiau cysonwyr
Gall cysonwyr weld graddau ac adborth graddwyr, ond nid eu cyfarwyddiadau na nodiadau yn ffeiliau myfyrwyr.
Mae cysonwyr yn pennu graddau terfynol neu’n eu cysoni.
Gall cysonwyr wrthwneud y radd derfynol.
Gall cysonwyr gyhoeddi graddau. Os alluogir graddio dienw, gall cysonwyr ddatguddio enwau myfyrwyr pan gyhoeddir y graddau.
Ar yr adeg hon, ni allwch alluogi graddio cyfochrog ar gyfer gwaith grŵp. Ni allwch hefyd ychwanegu cwestiynau at asesiadau gyda graddio cyfochrog.
Pam defnyddio graddio cyfochrog?
Mae graddau ac adborth gan fwy nag un graddiwr yn hyrwyddo dibynadwyaeth, gwella cysondeb, ac yn dileu rhagfarn. Mae gan gysonwyr ragor nag un feirniadaeth o’r un enghraifft o waith wrth iddynt bennu gradd asesiad derfynol pob myfyriwr.
Yn aml, mae tegwch a didueddrwydd wrth raddio yn ofyniad neu bryder sefydliadol. Mae graddio cyfochrog yn helpu rheoli gogwydd rhwng graddwyr cymaint ag y bo modd.
Ar gyfer dosbarthiadau mawr, gallwch rannu'r tasgau graddio ymhlith cynorthwywyr dysgu a graddwyr eraill. Yn achos cwrs cyfun, gallwch bennu rhan o’r dosbarth i bob graddiwr.
Llif gwaith graddio cyfochrog
Defnyddiwch y camau hyn i alluogi a graddio â graddio cyfochrog:
Galluogi Graddio Cyfochrog
Mynediad ac Ymgeisiau Gradd
Cysoni Graddau
Ar yr adeg o greu asesiad, gallwch hefyd alluogi graddio dienw fel nad yw'r graddwyr yn gweld hunaniaethau'r myfyrwyr. Gallwch chi hefyd alluogi’r opsiwn SafeAssign i atal llên-ladrad.
Graddio cyfochrog a throsi cyrsiau
Ni chaiff gosodiadau graddio dirprwyedig yng nghyrsiau Gwreiddiol eu cario drosodd pan fyddwch yn trosi’ch cyrsiau i'r Wedd Cwrs Ultra.
Gwylio fideo am raddio cyfochrog
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. Am ddisgrifiad manylach o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar Vimeo, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.