Cwestiynau Likert
Gallwch ddefnyddio cwestiynau Likert ar ffurflenni i fesur agweddau myfyrwyr neu ymatebion gyda graddfa gymaradwy.
Mae cwestiwn Likert mewn Arolwg a grëwyd yn y wedd cwrs Gwreiddiol yn cael ei drosi/gopïo i Ffurflen yn y wedd cwrs Ultra. Gwerth diofyn ystod y raddfa yw 3.
Marcir ffurflenni nad ydynt yn cael eu graddio yn gyflawn ar ôl eu cyflwyno. Mae'n rhaid i ffurflenni a raddir gael eu graddio â llaw gan yr hyfforddwr.

Creu cwestiwn Likert
O ffurflen, dewiswch y botwm Ychwanegu a dewiswch Ychwanegu cwestiwn Likert. Bydd y tab Cynnwys a Gosodiadau yn agor.
Dan Cynnwys Ffurflen, yn Testun y Cwestiwn, rhowch gwestiwn neu ddatganiad.
Yn ddiofyn, mae'r raddfa yn cynnwys tri opsiwn gyda Anghytuno'n Gryf a Cytuno'n Gryf fel labeli a awgrymir ar gyfer opsiynau 1 a 3. Yn yr Ystod graddfa , gallwch ddewis ystod o 3, 4, 5, 6, neu 7 a nodi labeli ar gyfer polion yn ôl yr angen.
I gynnwys opsiwn "nid yw'n berthnasol", dewiswch Ychwanegu opsiwn nid yw'n berthnasol.
Dewiswch Cadw. Mae rhagolwg yn dangos y cwestiwn fel y bydd yn ymddangos ar y ffurflen.
I wneud unrhyw addasiadau i'r cwestiwn, dewiswch Golygu o'r ddewislen.
I ychwanegu rhagor o gwestiynau, dewiswch Ychwanegu.
I gynnwys adran Cynnwys Ychwanegol y bydd myfyrwyr yn gallu rhoi testun, delweddau neu ffeiliau a ychwanegwyd at eu hymatebion ynddi, dewiswch Caniatáu i fyfyrwyr ychwanegu cynnwys ar ddiwedd y ffurflen.