Skip to main content

Ffeiliau Casgliad o Gynnwys

Ychwanegu ffeiliau o'r Casgliad o Gynnwys

Gallwch ddefnyddio'r Casgliad o Gynnwys i drefnu, rhannu ac ailddefnyddio ffeiliau yn eich cyrsiau a'r ffeiliau hynny a rennir ar draws y sefydliad. Gallwch ychwanegu ffeiliau o'r Casgliad o Gynnwys o dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch yr arwydd plws ble bynnag y byddwch am ychwanegu ffeiliau. Yn y ddewislen, dewiswch Casgliad o Gynnwys i bori'r ffeiliau sydd ar gael i chi a'u hychwanegu at eich cwrs.

Gallwch hefyd ddod o hyd i'r Casgliad o Gynnwys yn y panel Mewngludo Cynnwys. Dewiswch Casgliad o Gynnwys i bori'r ffeiliau sydd ar gael i chi a'u hychwanegu at eich cwrs. I gyflymu'r broses, gallwch ddewis ffeiliau lluosog i'w hychwanegu ar yr un pryd.

alt

Dewiswch Pori’r Casgliad o Gynnwys i ddechrau arni. Bydd yn mynd â chi i system y Casgliad o Gynnwys, lle gallwch ddod o hyd i ffeiliau sydd wedi'u storio o'ch cyrsiau eraill. Bydd gennych fynediad i ffeiliau y mae eich sefydliad wedi'u hychwanegu a'u rhannu. Defnyddiwch y swyddogaethau pori i archwilio.

Cynghoryn

Y tro cyntaf y byddwch yn agor y Casgliad o Gynnwys yn eich cwrs Ultra, gallwch ei agor yn y ffenestr bresennol neu mewn ffenestr newydd. Dewiswch yr opsiwn sy'n gweithio orau i chi. Gallwch newid y gosodiad nes ymlaen. Dewiswch yr eicon Gosodiadau Porwr ar frig y ffenestr.

Pan ddewch o hyd i ffeil rydych eisiau ei hychwanegu at eich cwrs, dewiswch y blwch ticio drws nesaf i enw'r ffeil. Gallwch chi barhau i bori a dewis ffeiliau. Mae'r system yn dangos y nifer o ffeiliau rydych wedi'u dewis ar waelod y ffenestr. Pan fyddwch yn barod i'w hychwanegu, dewiswch Cyflwyno i adolygu'ch rhestr o eitemau a ddewiswyd.

Cynghoryn

Os ydych am bori'r Casgliad o Gynnwys heb ychwanegu ffeil at eich cwrs, gallwch gyrchu'r Casgliad o Gynnwys ar y dudalen Offer. Gallwch hefyd ychwanegu dolenni at eitemau yn y Casgliad o Gynnwys.

Adolygu'r rhestr

Gallwch adolygu'r rhestr ffeiliau dewisedig cyn eu mewngludo i'ch cwrs. Adolygwch Enw'r Eitem, y Dyddiad Addasu, a'r Maint i gadarnhau mai'r rhain yw'r ffeiliau cywir. Os ydych wedi anghofio rhywbeth, gallwch ychwanegu mwy o eitemau at y rhestr. Dewiswch Yn ôl i'r Casgliad o Gynnwys i barhau i bori.

I dynnu neu olygu ffeil o'r rhestr, agorwch y ddewislen ar gyfer yr eitem. Dewiswch Dileu os nad ydych am gopïo'r ffeil i'ch cwrs mwyach. Dewiswch Golygu i newid enw neu ddisgrifiad y ffeil.

alt

Dewiswch Cadw i ychwanegu'r cynnwys at eich cwrs. Mae'r ffeiliau wedi'u cuddio rhag myfyrwyr yn ddiofyn er mwyn i chi allu parhau i adeiladu cynnwys y cwrs.

Sut mae ffeiliau Casgliad o Gynnwys yn ymddwyn

Pan fyddwch yn ychwanegu ffeil o'r Casgliad o Gynnwys at eich cwrs Ultra, bydd y ffeil yn eich cwrs yn cadw cysylltiad â'r lleoliad gwreiddiol. Cadwch y nodweddion hyn mewn cof wrth ychwanegu ffeiliau Casgliad o Gynnwys at eich cwrs:

  • Nid yw caniatâd ffeiliau yn y Casgliad o Gynnwys yn effeithio ar a all Myfyriwr weld ffeil yn eich cwrs. Rydych yn rheoli gosodiadau gweladwyedd y ffeiliau hyn yn yr un modd â'r holl gynnwys arall yn eich cwrs.

  • Os yw ffeil rydych yn ei hychwanegu at eich cwrs yn cael ei diweddaru neu ei disodli yn y Casgliad o Gynnwys, bydd y ffeil yn eich cwrs yn adlewyrchu'r newid hwnnw hefyd.

  • Os yw ffeil rydych yn ei hychwanegu at eich cwrs yn cael ei dileu yn y Casgliad o Gynnwys, ni fydd y ffeil ar gael yn eich cwrs bellach. Mae’r ffeil yn dal i ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs, ond bydd gwall yn ymddangos pan fydd defnyddiwr yn ei hagor.

  • Pan fyddwch yn dileu ffeil cwrs rydych wedi'i hychwanegu o'r Casgliad o Gynnwys, bydd y ffeil yn aros yn y Casgliad o Gynnwys. Yr unig ffeil sy'n cael ei thynnu yw'r un o fewn eich cwrs.