Skip to main content

Galluogi Graddio Cyfochrog

Ynglŷn â galluogi graddio cyfochrog

Gallwch alluogi graddio cyfochrog a neilltuo graddwyr wrth greu asesiad. Gallwch hefyd alluogi graddio cyfochrog hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno’u gwaith. Mae’r system yn neilltuo graddwyr o'ch dewis ar hap fel bod gan bob myfyriwr ddau raddiwr ar gyfer yr asesiad. Dosbarthir y baich gwaith graddio yn gyfartal rhwng y graddwyr. Gall graddwyr ond agor y cyflwyniadau ar gyfer y myfyrwyr a neilltuwyd iddynt.

Ni chaiff myfyrwyr wybod bod gan yr asesiad rhagor nag un graddiwr oni bai eich bod yn rhoi gwybod iddynt. Mae myfyrwyr ond yn gweld y radd derfynol a’r adborth a ddarparwyd gan y cysonwr.

Nodyn

Ar yr adeg hon, ni allwch greu grwpiau neu ychwanegu cwestiynau pan fydd graddio cyfochrog wedi’i alluogi. Ni all graddwyr, cynorthwywyr addysgu, nac adeiladwyr cwrs alluogi neu analluogi graddio cyfochrog.

Galluogi graddio cyfochrog

Ym mhanel Gosodiadau yr asesiad, dewiswch y blwch ticio ar gyfer 2 raddiwr fesul myfyriwr yn yr adran Opsiynau gwerthuso.

Dewiswch y ddolen Pennu graddwyr sy’n ymddangos.

Mae panel gosodiadau'r Aseiniad ar agor gyda'r blwch ticio "2 raddiwr fesul myfyriwr" wedi'i ddewis ac mae adran yr opsiynau Gwerthuso wedi cael ei phwyntio ati ac mae wedi'i hamlygu.

Tudalen Pennu Graddwyr

Ar y dudalen Pennu Graddwyr, mae’r rolau rydych yn eu neilltuo yn cael eu defnyddio ar gyfer yr asesiad presennol yn unig.

Mae'r dudalen Pennu Graddwyr ar agor gydag 1) yr opsiwn "Aseinio Pob Un fel Graddwyr" wedi'i amlygu, 2) y ddewislen tri dot wrth ochr yr enwau defnyddwyr a ddewiswyd gyda'r opsiynau "Graddiwr" a "Cysonwr" wedi'u dangos, a 3) yr opsiwn "Dad-aseinio Pob Cysonwr" wedi'i amlygu.

Pennu graddwyr

Mae’ch cynorthwywyr dysgu a graddwyr yn ymddangos yn y rhestr Heb eu pennu gyntaf.

Gallwch ddewis pob un ohonynt gyda'r ddolen Pennu'r Cwbl fel Graddwyr neu agorwch ddewislen pob defnyddiwr a dewiswch Graddiwr neu Cysonwr. Bydd graddwyr a bennwyd yn ymddangos yn y rhestr Graddwyr. Agorwch ddewislen graddiwr a dewiswch Dad-bennu os oes angen.

Nodyn atgoffa: Dosbarthir y baich gwaith graddio yn gyfartal rhwng y graddwyr.

Pennu cysonwyr

Mae defnyddwyr sydd â'r rôl hyfforddwr yn ymddangos yn y rhestr Cysonwyr. Agorwch ddewislen cysonwr a dewiswch Dad-bennu os oes angen. Er enghraifft, gallwch drefnu bod eich cynorthwyydd dysgu yn pennu pob gradd derfynol a’ch dad-bennu’ch hun. Gallwch gael sawl cysonwr.

Pwysig

Ni all unrhyw ddefnyddiwr fod yn raddwr a chysonwr ar yr un adeg. Fodd bynnag, gallwch bennu rôl wahanol i ddefnyddiwr ar gyfer asesiad, hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr wneud cyflwyniadau.

Gallwch ddewis dolen Dad-bennu Pawb rhestr i dynnu pob defnyddiwr o Graddwyr neu Cysonwyr.

Dewiswch Cadw pan fyddwch wedi gorffen. Mae graddio cyfochrog yn gweithio ar ei orau gyda nifer o raddwyr ac o leiaf un cysonwr. Os nad oes gennych o leiaf ddau raddiwr ac un cysonwr, mae’r system yn eich rhybuddio. Caniateir i chi gadw heb yr argymhelliad isaf.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n dad-bennu defnyddwyr neu’n atal eu mynediad at cyrsiau yn y gofrestr?

Byddwch yn ofalus cyn gwneud newidiadau i raddwyr a chysonwyr ar ôl dechrau graddio.

  • Mae cysonwyr sydd wedi’u dad-bennu yn colli mynediad i bennu graddau terfynol, ond cedwir eu gwaith blaenorol. Os fydd cysonwr yn pennu rhai graddau terfynol cyn cael ei dad-bennu neu’i atal, cedwir y graddau terfynol. Gall cysonwr arall wneud newidiadau i'r graddau terfynol hynny.

  • Cedwir gwerthusiadau a gwblhawyd yn flaenorol gan raddwyr sydd wedi’u dad-bennu. Ni chysylltir gwerthusiadau anghyflawn â'r myfyrwyr bellach. Mae’r system yn dosbarthu'r gwaith yn gyfartal rhwng y graddwyr sydd ar ôl.

    Os oes gan fyfyriwr raddau o'r ddau raddiwr yn barod ac wedyn dad-bennir un o'r graddiwr, cedwir y ddwy radd. Ychwanegir trydydd graddiwr. Hyd yn oed os ydych wedi cysoni a chyhoeddi rhai graddau, ychwanegir trydydd graddiwr. Mae’r trydydd graddiwr ond yn gweld ymgeisiau sy’n barod i raddio os nad ydych wedi cysoni graddau. Efallai bydd gennych dair gradd i gysoni ar gyfer rhai ymgeisiau os tynnir graddiwr yn ystod y broses graddio cyfochrog.

    Pan fyddwch yn atal mynediad defnyddiwr at y gofrestr ac wedyn caniatau mynediad eto, bydd y defnyddiwr yn ymddangos yn y rhestr Heb eu pennu ar y dudalen Pennu Graddwyr.

Analluogi graddio cyfochrog

Gallwch analluogi graddio cyfochrog ar gyfer asesiad hyd yn oed ar ôl derbyn cyflwyniadau neu ar ôl i raddwyr ddarparu graddau ac adborth. Tynnir graddau dros dro y graddwyr, ond fe’u cedwir gan y system. Os ydych yn galluogi graddio cyfochrog eto, adferir y graddau dros dro ac adborth blaenorol.

Os ydych yn analluogi graddio cyfochrog ar ôl cyhoeddi graddau, cedwir y graddau terfynol. Ni chedwir unrhyw gofnod o'r graddau dros dro.

Ni all graddwyr, cynorthwywyr dysgu, nac adeiladwyr cwrs analluogi graddio cyfochrog.