ORIGINAL Grwpiau
Mae gwaith grŵp yn gwella sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, a'r gallu i addasu a chyfathrebu. Gallwch greu grwpiau o fyfyrwyr yn eich cyrsiau er mwyn iddynt allu rhyngweithio gyda’i gilydd a dangos eu gwybodaeth.
Mae ymchwil wedi dangos y gall myfyrwyr gael budd o weithio mewn grŵp mewn sawl ffordd:
Mae myfyrwyr yn cadw gwybodaeth yn hwy nag yn achos dulliau addysgu eraill.
Mae persbectifau gan aelodau grŵp yn cynnig cyfle arall i ddysgu deunydd newydd.
Mae gan fyfyrwyr deimlad cadarnhaol am ddeunydd y cwrs.
Mae gan fyfyrwyr sy'n sefydlu perthnasau da â'u cyd-fyfyrwyr brofiad dysgu mwy cadarnhaol.
Mae gwaith grŵp llwyddiannus yn arwain at fyfyrwyr yn teimlo'n well amdanynt eu hunain.
Mae myfyrwyr yn cynyddu eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.
Mae myfyrwyr yn cynyddu eu sgiliau meddwl yn feirniadol.