Tudalen Gweithgarwch
Mae'r dudalen Gweithgarwch cyfredol yn rhoi trosolwg o weithgarwch yn eich holl gyrsiau Gwreiddiol ac Ultra.
Nodyn
Eich sefydliad sy'n rheoli pa dudalen rydych yn ymweld ag yn gyntaf ar ôl i chi fewngofnodi.

Cyhoeddiadau
Mae cyhoeddiadau'r sefydliad ar y dudalen Gweithgarwch. Gallwch lywio rhwng cyhoeddiadau a dewis Darllen cyhoeddiadau i ddarllen testun cyfan cyhoeddiad.

Cyrsiau cyfredol
Gallwch gael mynediad i'ch cyrsiau agored cyfredol o'r dudalen Gweithgarwch. Mae gan gyrsiau dri math o ddangosyddion wedi'u rhifo.
Eitemau sydd angen graddio
Negeseuon
Myfyrwyr sydd â rhybuddion
Dewiswch y dangosydd i gyrchu eitemau graddadwy neu ddarllen negeseuon ar unwaith. Mae dewis y dangosydd rhybudd yn dod â chi yn uniongyrchol i'r adroddiad Gweithgarwch Cwrs. Ewch i dudalen Adroddiad Gweithgarwch Cwrs i ddysgu mwy am ffurfweddu rhybuddion myfyrwyr.
I gael mynediad at gyrsiau o dymhorau blaenorol, dewiswch Gweld pob cwrs.

Ffrwd
Mae'r ffrwd yn rhestr flaenoriaethol o'r hyn sy'n berthnasol i chi. Defnyddiwch y ffrwd i gyfeirio eich sylw at ble mae eich cyrsiau ei angen fwyaf.
Dilyn y postiadau diweddaraf ar drafodaethau a raddir wrth iddynt ddigwydd. Nid yw postiadau ar drafodaethau nad ydynt wedi'u graddio ar y ffrwd.
Nodi faint o gyflwyniadau sy'n barod i'w graddio. Gallwch gyrchu gwaith a gyflwynwyd o'r newydd o'r ffrwd hefyd.
Derbyn nodiadau atgoffa am ddigwyddiadau a chyfarfodydd personol.
Hidlo eich ffrwd. Defnyddiwch y ddewislen Hidlo a dewis Dangos Popeth, Aseiniadau a Phrofion, neu Graddau ac Adborth.

Rydym wedi cyfuno llawer o nodweddion hysbysu i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth a dargedir y mae ei hangen arnoch.
Categorïau gweithgareddau
Mae eitemau gweithgarwch yn cael eu grwpio ym mhedwar categori i'w gwneud yn haws i chi sganio'r rhestr.
Pwysig: Mae myfyrwyr yn cael eu rhybuddio am aseiniadau hwyr, profion a thrafodaethau graddedig sydd angen eu sylw ar unwaith. Os byddwch yn diystyru eitem yn yr adran hon, ni fyddwch yn gallu ei weld eto hyd yn oed os ydych yn allgofnodi ac yn mewngofnodi eto. Pan fyddwch yn diystyru eitem yn y ffrwd, nid yw hyn yn effeithio ar y cynnwys gwreiddiol. Rydych chi ond yn tynnu'r hysbysiad o'r ffrwd.
Ar y gweill: Ewch i'ch pum digwyddiad gorau a fydd yn digwydd yn y saith diwrnod nesaf. Dewiswch Dangos Mwy am restr gyflawn. Pan nad oes gennych unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod, nid yw'r categori hwn ar y ffrwd.
Heddiw: Cyrchwch bopeth sy'n digwydd ac sy'n ddyledus yn y 24 awr nesaf, gan gynnwys cyhoeddiadau sefydliad gyfan am hysbysiadau a diweddariadau brys. Os ychwanegoch chi cyhoeddiadau cwrs, maent yma neu yn y categori Diweddar i fyfyrwyr.
Diweddar: Os nad ydych wedi mewngofnodi am ychydig, cyrchwch eitemau gweithgarwch a oedd yn flaenorol yn yr adran Heddiw dros y saith diwrnod diwethaf. Mae myfyrwyr bob amser yn derbyn nodiadau atgoffa am waith hwyr yn yr adran Pwysig.
Gosodiadau Hysbysiadau
Ar eich tudalen Gweithgarwch , dewiswch y botwm Gosodiadau i agor Gosodiadau Hysbysu. Gallwch hefyd gyrchu gosodiadau hysbysu o'ch tudalen proffil.

Gallwch ddewis pa hysybysiadau rydych yn eu derbyn am weithgarwch ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra.
Hysbysiadau ffrwd: Dewiswch pa hysbysiadau sydd yn eich ffrwd.
E-bost: Os ydych eisiau derbyn hysbysiadau e-bost, ychwanegwch gyfeiriad e-bost at eich tudalen proffil. Yna, dewiswch pa mor aml a pha weithgareddau rydych chi am dderbyn hysbysiadau e-bost ar eu cyfer.
Hysbysiadau gwthio: Os rydych eisiau derbyn hysbysiadau gwthio, dewiswch pa mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.
Ewch i'n pwnc Gosodiadau Hysbysu i ddysgu mwy am sut i osod eich hysbysiadau.