Mewngofnodi i Blackboard
Mynediad Blackboard
Gallwch fewngofnodi i Blackboard ar borwr gwe ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol.
I gael mynediad i Blackboard, bydd arnoch angen:
Cyfeiriad gwe safle Blackboard eich sefydliad
Eich enw defnyddiwr
Eich cyfrinair
Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad a roddir gan eich sefydliad yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.
Nodyn
Os nad ydych chi'n siŵr sut i gysylltu â nhw, edrychwch am y swyddfa dechnoleg ar wefan eich sefydliad. Gallwch hefyd chwilio'r we am enw eich sefydliad + Blackboard + help neu gymorth.
Mewngofnodi sengl (SSO)
Os yw'ch sefydliad yn defnyddio dull mewngofnodi sengl i ddilysu defnyddwyr yn Blackboard, bydd neges ychwanegol yn ymddangos pan fyddwch yn allgofnodi. Gyda'r dull cyflwyno'ch hun unwaith, gallwch ddefnyddio nifer o raglenni ar ôl i chi fewngofnodi i un yn unig. Mae'r rhaglenni wedi'u gosod i ymddiried yn ei gilydd ac i rannu'ch dilysiad mewn un sesiwn.
Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddefnyddio'ch cyfrif Google i fewngofnodi i Blackboard. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi i Google ar eich porwr cyfredol, bydd Blackboard yn eich mewngofnodi'n awtomatig hefyd.
Os byddwch yn allgofnodi o sesiwn cyflwyno'ch hun unwaith, bydd Blackboard yn gofyn a ydych eisiau diweddu'r holl sesiynau perthnasol neu barhau. Os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth, bydd y system yn diweddu pob sesiwn ymhen dwy funud. Os ydych eisiau parhau â'ch sesiwn, mewngofnodwch eto.
Beth sy'n digwydd ar ôl i fi fewngofnodi?
Mae defnyddwyr newydd yn gweld tudalen groeso sy'n eu gwahodd i greu proffil. Cyn i chi greu proffil, rhaid i chi dderbyn Telerau Defnyddio Proffiliau Blackboard yn y neidlen. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai o'r offer. Gallwch ddewis creu proffil yn hwyrach.
Cael mynediad i'ch cyfrif pan fydd wedi'i gloi
Er eich diogelwch, efallai bydd y system yn eich cloi allan os ydych wedi rhoi’ch enw defnyddiwr na chyfrinair yn anghywir ormod o weithiau neu os yw'r broses mewngofnodi yn cymryd rhy hir.
Efallai bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif os ydych yn ailosod eich cyfrinair. Dewiswch Wedi Anghofio’ch Cyfrinair? a dilynwch y cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair a datgloi eich cyfrif.
Os nad yw’ch sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif, bydd angen i chi aros nes bod y cyfnod cloi yn dod i ben neu cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad i ddatgloi’ch cyfrif. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth. Neu gallwch wirio eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu wybodaeth gyswllt.
Deall rheolaeth sesiwn
Terfyn amser y sesiwn
Pan fyddwch yn segur am fwy na thair awr, bydd y sesiwn yn dod i ben. Gallai hyn ddigwydd oherwydd nad yw'r porwr yn anfon data i Blackboard. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys pan fyddwch yn:
awduro postiad Bwrdd Trafod
awduro cyflwyniad Aseiniad yn y golygydd testun yn Blackboard
creu Eitem o Gynnwys
Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi eto i barhau i ddefnyddio Blackboard. Os byddwch yn cadw tudalen neu'n dewis botwm, bydd y sesiwn yn adnewyddu a bydd yn weithredol am dair awr ychwanegol.
Byddwch yn gweld rhybudd chwe munud cyn i chi gael eich allgofnodi. Caewch y rhybudd i barhau i fod yn weithredol.
Os roeddech oddi wrth eich cyfrifiadur am gyfnod hir, ni fydd modd i chi estyn eich sesiwn. Pan fyddwch yn cau'r rhybudd, byddwch yn dychwelyd i'r dudalen bresennol yn lle mynd i'r dudalen mewngofnodi. Mae hyn yn caniatáu i chi gopïo unrhyw beth rydych wedi'i awduro cyn iddo gael ei golli. Cewch eich ailgyfeirio at y dudalen mewngofnodi pan fyddwch yn clicio ar unrhyw ddolen neu fotwm ar y dudalen.
Terfynu sesiwn weithredol
Os yw'ch sefydliad yn galluogi terfynu sesiwn weithredol, bydd yn rhaid i chi fewngofnodi eto yn ystod eich sesiwn ar ôl amser a bennir gan weinyddwr system eich sefydliad. Gall y gweinyddwr ffurfweddu'r amser hwn i fod rhwng 3 a 24 awr. Mae hyn yn digwydd heb ystyried eich gweithgarwch ac mae i fod i wella'ch diogelwch data. Ychydig cyn i'r sesiwn ddod i ben, cewch rybudd sy'n dweud "Mae eich sesiwn Blackboard ar fin dod i ben. Cadwch eich gwaith a mewngofnodwch eto." Mae gennych gyfle i gadw'ch gwaith. Ar ôl i chi allgofnodi, gallwch fewngofnodi eto a pharhau â'ch gwaith.
Pwysig
Ar gyfer gweinyddwyr: Mae'r nodwedd wedi'i galluogi yn ddiofyn ar gyfer sefydliadau FedRAMP ac wedi'i hanalluogi ar gyfer eraill. Mae modd rheoli'r gosodiad hwn yn y Panel Offer Gweinyddwr > Modiwl diogelwch > Gosodiadau Cloi Cyfrif. Gwerth diofyn y nifer mwyaf o amser y gall sesiwn defnyddiwr fod yn weithredol amdano yw 12 awr. Mae modd ffurfweddu'r terfyn amser hwn i fod rhwng tair a 24 awr.
Pwysig
Mae'r nodwedd hon ar gael ar gyfer pob defnyddiwr yr Ap Symudol. Nid oes angen i ddefnyddwyr sydd wedi galluogi diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau wneud unrhyw beth. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sydd wedi diffodd diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau lawrlwytho'r diweddariad.
Rheoli sesiwn gydamserol
Mae gan eich sefydliad yr opsiwn i atal defnyddwyr rhag cyrchu Blackboard ar nifer o ddyfeisiau ar yr un pryd. Os yw wedi'i galluogi, cewch eich allgofnodi o'ch sesiwn Blackboard os ydych yn fynd dros y nifer o sesiynau cydamserol y mae eich sefydliad yn eu caniatáu. Er enghraifft, os yw'ch sefydliad yn caniatáu dwy sesiwn gydamserol, a'ch bod wedi mewngofnodi ar eich gliniadur a'ch ffôn, cewch eich allgofnodi o'ch sesiwn gynharaf os byddwch yn mewngofnodi i drydedd ddyfais. Cewch y neges, "Caniateir i chi gael dim ond 2 sesiwn weithredol yn unig ac rydych wedi cael eich allgofnodi o ddyfais arall."
Hefyd, mae mewngofnodi ar ddau borwr ar wahân ar un ddyfais yn cyfrif fel dwy sesiwn gydamserol. Pe byddech yn mewngofnodi i ddyfais arall, byddai'n cyfrif fel trydedd sesiwn gydamserol yn yr achos hwn.
Pwysig
Ar gyfer gweinyddwyr: Gall gweinyddwyr ddiffinio eu dewis yn yr opsiwn Panel Offer Gweinyddwr > Modiwl diogelwch > Gosodiadau Cloi Cyfrif. Rydym wedi diweddaru'r gwerth diofyn ar gyfer y ffin IL4/FedRAMP i 2 sesiwn a ganiateir. Mae pob sefydliad arall yn parhau i fod â "Diderfyn" fel gwerth diofyn.
Pwysig
Mae'r nodwedd hon ar gael ar gyfer pob defnyddiwr yr Ap Symudol. Nid oes angen i ddefnyddwyr sydd wedi galluogi diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau wneud unrhyw beth. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sydd wedi diffodd diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau lawrlwytho'r diweddariad.
Adfer cyfrinair wedi'i golli neu wedi'i anghofio
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, defnyddiwch y ddolen Wedi Anghofio'ch Cyfrinair? ar y dudalen mewngofnodi. Mae'n rhaid i chi gwblhau un o'r ddau opsiwn ar y dudalen Wedi Anghofi'ch Cyfrinair? i gael cyfrinair newydd. Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, crëwch gyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'n rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un nod arbennig.
Newid eich cyfrinair
Ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch newid eich cyfrinair. Argymhellwn eich bod yn newid eich cyfrinair o dro i dro er mwyn sicrhau diogelwch. Peidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol gyffredin fel eich cyfrinair, er enghraifft, eich enw.
Mae'n rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un nod arbennig.
Gallwch newid eich cyfrinair o'ch tudalen Proffil yn y llywio sylfaenol. Y llywio sylfaenol yw'r rhestr sydd â'ch enw ynddo pan fyddwch chi'n mewngofnodi i Blackboard. Ewch i'ch proffil a dewiswch Newid Cyfrinair. Ar y panel Newid Cyfrinair, teipiwch eich hen gyfrinair a'ch cyfrinair newydd. Dewiswch Cadw pan fyddwch wedi gorffen.
Nodyn
Os ydych yn newid eich cyfrinair system, ni fydd yn effeithio ar unrhyw gyfrifon allanol (megis Google) yr ydych yn eu defnyddio i fewngofnodi i Blackboard.
Pan fyddwch yn newid eich cyfrinair, bydd pob sesiwn arall yn dod i ben i ddiogelu’ch diogelwch. Os yw'ch cyfrif wedi’i fewngofnodi mewn porwr arall, terfynir y sesiwn a bydd rhaid i chi fewngofnodi eto.
Gwyliwch fideo am Sut i Fewngofnodi i Blackboard
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar Vimeo.