Skip to main content

Hysbysiadau Ffolder

Gallwch danysgrifio i gyfeiriadur i dderbyn hysbysiad pan mae ffolder yn cael ei ychwanegu neu ei golygu, gan gynnwys newidiadau i ganiatâd neu fetaddata. Gallwch danysgrifio i ffolderi lle mae gennych ganiatâd rheoli yn unig.

I danysgrifio, dewiswch Hysbysiadau yn newislen y ffolder. Mae'r dudalen hon yn dangos gwybodaeth am hysbysiadau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys tanysgrifwyr, amlder, math o hysbysiadau a dyddiadau gorffen. I ddileu hysbysiad, dewiswch y blwch ticio a dewiswch Dileu.

Tanysgrifio i ffolder

  1. Ar dudalen Hysbysiadau, dewiswch Creu Hysbysiadau.

  2. Dewiswch y math o hysbysiad i'w dderbyn: Addasiad Ffolder, Cynnwys wedi'i Gyrchu, a/neu Addasiad Sylwad. Gallwch ddewis un o'r rhain neu'r cwbl.

  3. Dewiswch amlder yr hysbysiadau. Dewiswch Ar unwaith i dderbyn e-bost bob tro mae rhywbeth yn newid o fewn y ffolder. Dewiswch Bob dydd i dderbyn e-bost dyddiol yn nodi newidiadau'r ffolder.

  4. Gosodwch ddyddiad gorffen ar gyfer yr hysbysiad hwn trwy ddewis Dyddiad a Nodwyd a defnyddio'r meysydd mis, dyddiad, a blwyddyn.

  5. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.