Skip to main content

Cefnogaeth Iaith

SafeAssign yn defnyddio algorithmau sy’n gwneud penderfyniadau am wreiddioldeb y testun a gyflwynir. Mae'r algorithmau yn ystyried amlder geiriau, strwythur brawddegau, a nodweddion ieithyddol eraill. Mae cymhlethdod a chefnogaeth gwneud penderfyniadau SafeAssign yn amrywio yn ôl iaith, yn ogystal â faint o gynnwys mae Blackboard yn chwilio ar ei gyfer ar gyfer pob iaith.

Nodyn

SafeAssign Mae cefnogaeth Japaneaidd yn gyfyngedig.

Mae cymhlethdod prosesu iaith yn seiliedig ar yr offer hyn:

  • Chwilio ffynhonnell y data am wreiddioldeb yn yr iaith.

    • Data Wicipedia

    • Data gwefannau eraill

    • Data cyflwyniadau'r sefydliad

    • Data cyflwyniadau cyffredinol

    • Data testun cyfan Proquest

  • Hidlo geiriau stopio: mae SafeAssign yn tynnu geiriau stopio o frawddeg cyn iddo chwilio am destun sy’n cyfateb yn y ffynonellau data uchod. Mae geiriau stopio yn eiriau a ddefnyddir yn aml, megis “fel, (f)e, (f)o, hi, y(r),” ac “ar”.

  • Dadansoddiad iaith: mae SafeAssign yn newid pob gair i lythrennau bach ac yn eu torri i lawr at eu bonion. Er enghraifft, mae "Coed" yn dod yn "goeden". Mae SafeAssign yn defnyddio dadansoddwyr iaith i gynyddu'r nifer o gyfatebiadau a allai gael ystyr sy’n debyg i'r testun gwreiddiol ar sail bôn y gair, ond mae’r testun sy’n cyfateb yn defnyddio geiriau eraill.

Nodyn

I gael y canlyniadau gorau, argymhellwn ddefnyddio SafeAssign yn Saesneg, os yn bosibl. Gall ieithoedd eraill ddarparu canlyniadau llai manwl gywir oherwydd lefel is o ddata o'i gymharu â chymhlethdodau iaith eraill.