ORIGINAL Rheoli Trafodaethau
Gallwch reoli pan drywyddion a welwch mewn fforwm. Os ganiateir hyn gan eich hyfforddwr, efallai byddwch yn gallu golygu a dileu'ch ymatebion.
Hidlo rhestr o edafedd
Eich hyfforddwr sy'n penderfynu os yw trywydd yn cael ei gyhoeddi, ei guddio neu ar ffurf drafft. Os gallwch weld trywydd, gallwch ddewis pa fath o drywyddion sy'n ymddangos mewn fforwm. Mae trywyddion a gyhoeddwyd yn ymddangos yn ddiofyn.

Ar dudalen y fforwm, dewiswch Gwedd Rhestr.
Yn y ddewislen Dangos, dewiswch y mathau o drywyddion i'w gweld yn y fforwm.
Dangos popeth: Dangos pob edefyn yn y fforwm.
Cyhoeddwyd yn Unig: Dangos edafedd sydd â statws cyhoeddedig.
Cudd yn Unig: Dangos edafedd sydd wedi'u cloi ac nad ydynt yn weladwy yn rhagosodedig. Gallwch ddewis dangos edefynnau cudd yn y wedd rhestr. Ni allwch olygu trywyddion cudd. Efallai byddwch eisiau cuddio trywyddion amherthnasol er mwyn helpu cadw cynnwys perthnasol mewn golwg.
Drafft yn Unig: Yn arddangos edefynnau drafft a gadwyd gan yr awdur i'w golygu yn y dyfodol, ond heb eu cyflwyno i'w cyhoeddi. Wedi ei gyhoeddi, gall defnyddwyr eraill ei weld. Eich drafftiau eich hun yn unig byddwch yn gallu eu gweld.
Cynghoryn
Dewiswch Drafftiau yn Unig o'r rhestr hon i agor, golygu a chyhoeddi'r drafftiau a gadwyd gennych.
Golygu neu ddileu ymatebion.

Gallwch olygu neu ddileu'ch ymatebion os caniateir hyn gan eich hyfforddwr. Os byddwch yn postio ymateb ar gam a bod yr opsiynau i olygu neu ddileu ddim yn ymddangos, cysylltwch â'ch hyfforddwr.
Agor trywydd mewn fforwm.
Ar dudalen y trywydd, pwyntiwch at bostiad i weld y swyddogaethau sydd ar gael.
Dewiswch Golygu neu Dileu. Ni ellir gwyrdroi’r weithred dileu.
Os oes gennych ganiatâd i ddileu'ch post gydag ymatebion, bydd yr holl bostiadau'n cael eu dileu'n barhaol.
Pan fyddwch yn golygu, mae'r dudalen yn ehangu er mwyn i chi allu golygu yn y golygydd wrth i chi weld y postiad gwreiddiol.
Dewiswch Cyflwyno. Mae’ch golygiadau yn ymddangos yn y postiad.