ORIGINAL Wikis
Darn o offer cydweithredol yw wiki sy'n eich caniatáu i gyfrannu ac addasu un tudalen neu ragor o ddeunyddiau'n ymwneud â'ch cwrs. Mae wiki yn darparu ardal lle gallwch gydweithio ar gynnwys. Gall defnyddwyr cwrs greu a golygu tudalennau wiki sy'n ymwneud â'r cwrs neu grŵp cwrs.
Gall hyfforddwyr a myfyrwyr gynnig sylwadau, a gall eich hyfforddwr raddio gwaith unigol.
Ble i ddod o hyd i wikis
Gallwch ddod o hyd i wikis ar ddewislen y cwrs neu ar y dudalen Offer. Ar y dudalen sy'n rhestru'r Wikis, dewiswch enw pwnc y wiki rydych eisiau ei darllen o'r rhestr yn nhrefn yr wyddor.
Creu tudalen wiki
Eich hyfforddwr yn unig a all greu wiki, ond ar ôl ei greu, gallwch greu tudalennau.
Ar dudalen pwnc y wiki, dewiswch Creu Tudalen Wiki.
Teipiwch enw a gwybodaeth yn y blwch testun Cynnwys. Gallwch ddefnyddio'r golygydd i fformatio'r testun a chynnwys ffeiliau, delweddau, dolenni gwe, eitemau aml a chyfuniadau.
Dewiswch Cyflwyno.
Gwylio fideo am wicis
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Cyfarwyddiadau
Os yw'ch hyfforddwr wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r wiki a'i fod ar gael i chi, gallwch ei weld ar dudalen Fy Nghyfraniad. Dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd yn yr adran Graddio i ddangos y meini prawf graddio.

Golygu cynnwys wiki
Gall unrhyw aelod o'r cwrs olygu tudalen wiki cwrs a gall unrhyw aelod o'r grŵp olygu tudalen wiki grŵp. Mae pob aelod cwrs, gan gynnwys eich hyfforddwr, yn golygu yn yr un ffordd.
Pan fydd rhywun yn golygu tudalen wiki, caiff y dudalen ei chloi am gyfnod o 120 eiliad i rwystro eraill rhag golygu'r un dudalen. Os fyddwch yn ceisio golygu tudalen mae rhywun arall yn ei golygu, byddwch yn cael gwybod bod rhywun arall yn golygu'r dudalen ar hyn o bryd.
Ar dudalen pwnc y wiki, dewiswch dudalen y wiki i'w olygu.
Dewiswch Golygu Cynnwys Wiki.
Ar y Dudalen Golygu Wiki, gwnewch y newidiadau angenrheidiol.
Dewiswch Cyflwyno i gadw'ch gwaith.
Cysylltu â thudalennau wiki eraill
Os oes llawer o dudalennau gan Wiki, gallwch ei gyfuno â thudalen arall fel ei bod yn haws dod o hyd i wybodaeth. Gallwch ond greu dolenni i dudalennau wiki eraill pan fydd o leiaf dwy dudalen yn bodoli. Yng ngolygydd y dudalen yr ydych arni ar hyn o bryd, dewiswch eicon Ychwanegu Cynnwys ar ddiwedd yr ail res o opsiynau.
Ar dudalen Creu Tudalen Wiki, rhowch y cyrchwr yn ardal Cynnwys Tudalen Wiki lle rydych am ychwanegu’r ddolen.
Dewiswch yr eicon Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd, bydd hyn yn agor ffenestr lle gallwch ddewis yr opsiwn Dolen i dudalen Wiki. Os mai un tudalen yn unig sy'n bodoli yn y wiki, analluogir y swyddogaeth hon.
Yn ffenestr naid Dolen i Dudalen Wiki, dewiswch y dudalen wiki rydych eisiau creu dolen iddi o'r rhestr.
Fel arall, rhowch enw ar y ddolen ym mlwch testun Ailenwi Dolen i Dudalen Wiki. Os na fyddwch yn ailenwi'r ddolen, defnyddir teitl gwreiddiol y dudalen fel y ddolen.
Dewiswch Cyflwyno. Bydd y ddolen yn ymddangos yn y golygydd.
Ar Dudalen Creu Wiki, dewiswch Cyflwyno. Mae'r dolen yn ymddangos yn nhudalen y wiki.

Sylwadau ar gofnod wiki
Ar dudalen pwnc y wiki, dewiswch dudalen y wiki rydych am wneud sylw arno. Dewiswch Gwneud Sylw er mwyn ychwanegu'ch sylw, a dewiswch Ychwanegu pan fyddwch wedi gorffen. Ehangwch yr ardal Sylwadau i weld yr holl sylwadau.
Gweld eich cyfraniadau
Gallwch weld rhestr o'r tudalennau i gyd a'r fersiynau rydych wedi cyfrannu atynt neu addasu. Ar dudalen pwnc y wiki, dewiswch Fy Nghyfraniad. Ar y dudalen hon, gallwch weld y wybodaeth ynglyn â'ch cyfraniad i'r wici yn y ffram gynnwys a'r panel ochr.
Tudalen Fy Nghyfraniad

Arddangos Tudalennau: Defnyddiwch y rhestr Arddangos Tudalennau i gulhau'r hyn sy'n ymddangos ar y dudalen Fy Nghyfraniad.
Cyfarwyddiadau Wici: Ehangwch yr adran i weld y cyfarwyddiadau ac unrhyw nodau y gallai eich hyfforddwr fod wedi'u halinio â'r wiki.
Fersiwn Tudalen: Yn y golofn Fersiwn Tudalen, mae teitlau tudalennau yn ymddangos gyda'u rhifau fersiwn cyfatebol. Dewiswch deitl i weld y dudalen hon heb newidiadau wedi'u hanodi. Mae’r tudalen yn agor mewn ffenestr newydd. Yn ôl rhagosodiad, rhestrir fersiwn y tudalen mwyaf diweddar yn gyntaf.
Addasiad y Defnyddiwr: Yng ngholofn Addasiadau Defnyddiwr, dewiswch ddolen i gymharu tudalen â'i fersiwn flaenorol. Mae’r tudalen yn agor mewn ffenestr newydd. Dewiswch dab Allwedd i weld y cymhariaeth gydag allwedd neu esboniad o'r fformatio a ddefnyddiwyd yn y gwahanol fersiynau.
Manylion Wici: Yn y bar ochr, ehangwch i weld y wybodaeth, gan gynnwys faint o dudalennau wnaethoch chi gyfrannu a golygu, a faint o sylwadau wnaethoch chi eu hychwanegu at y wiki.
Gradd: Mae'r adran hon yn ymddangos os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi graddio ar gyfer y wiki. Gallwch weld os yw eich tudalennau wiki wedi eu graddio.
Crynodeb Cyfranogiad: Yn yr adran Crynodeb Cyfranogiad, gallwch weld Geiriau wedi'u haddasu, sy'n cyfrif unrhyw air a ychwanegwyd, wedi'i ddileu neu ei olygu ym mhob tudalen a fersiynau pob tudalen. Mae Geiriau wedi'u Haddasu ar gael fel nifer y geiriau ac fel canran. Mae Cyfanswm Tudalennau wedi’u Cadw yn cynnwys unrhyw bryd y dewisir Cyflwyno ar unrhyw dudalen Golygu Tudalen Wiki yn y wiki, os newidiwyd cynnwys ai beidio. Mae Cyfanswm Tudalennau wedi’u Cadw ar gael fel nifer y geiriau neu fel canran.
Gweld graddau wiki
Ar ôl i'ch hyfforddwr raddio eich cyfraniadau wiki, gallwch edrych ar eich gradd mewn dau fan. Mae'r wybodaeth graddio'n ymddangos ar dudalen Fy Nghyfraniad ac yn Fy Ngraddau.
Cynghoryn
Ar dudalen pwnc y wiki, dewiswch Fy Nghyfraniad. Ar dudalen Fy Nghyfraniad, gallwch weld eich gradd yn yr adran Gradd. Gallwch hefyd edrych ar adborth eich hyfforddwr a'r dyddiad y dynodwyd y radd.