Skip to main content

Mudiadau

Mae mudiadau'n ymddwyn fel cyrsiau ac yn cynnwys offer sy'n galluogi cyfranogwyr i gyfathrebu'n effeithiol. Gallwch bostio gwybodaeth, cael trafodaethau a rhannu dogfennau. Gallwch chwilio am, hidlo a nodi fel ffefryn eich mudiadau. Mae mudiadau’n lle delfrydol i gysylltu â defnyddwyr eraill sydd â diddordebau neu weithgareddau allgyrsiol yn gyffredin. Eich sefydliad sy'n rheoli pwy all greu mudiadau.

Mae gan sefydliadau fudiadau o wahanol fathau, o rai academaidd i ddiddordebau arbennig. Mae mudiadau'n gweithio yn union fel cyrsiau yn Blackboard. Er enghraifft, mae ganddynt gynnwys, trafodaethau, negeseuon a mwy.

blackboard_instructor_organization-content-page.png

Tudalen Mudiad Cyffredinol

O'r rhestr lle mae eich enw yn ymddangos, dewiswch Mudiadau i weld rhestr o'ch mudiadau. Arweinydd y mudiad a'ch sefydliad sy'n rheoli pwy all ymrestru, ond efallai byddwch yn gallu hunan-gofrestru. Cysylltwch ag arweinydd y mudiad am ymrestru. Ar ôl i chi gofrestru, yr arweinydd neu'r gweinyddwr yw'r unig rai all eich dad-gofrestru.

Mae pob cerdyn mudiad yn rhestru ID y mudiad, teitl y mudiad a’r arweinydd. Os oes gan eich mudiad sawl arweinydd, dewiswch Arweinwyr Lluosog i gael rhestr. Dewiswch Rhagor o wybodaeth i weld y disgrifiad ac amserlen, os ydynt wedi’u hychwanegu.

Hidlo neu chwilio eich rhestr. Defnyddiwch y ddewislen Hidlo i addasu gwedd eich tudalen. Mae eich rhestr sydd wedi’i hidlo yn aros fel y mae wrth i chi gyrchu mudiadau. Os ydych yn mynd i dudalen arall, mae'r holl fudiadau yn dangos unwaith eto. Defnyddiwch y swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i fudiadau ar y dudalen bresennol.

Pori yn ôl y tymor. Symudwch i fudiadau blaenorol, mudiadau cyfredol a mudiadau sydd ar ddod. Os ydych mewn llawer o fudiadau, gallwch ddewis y nifer sy’n ymddangos ar bob tudalen. Ar waelod y rhestr, gwelwch ddewisydd tudalen i lywio trwy restrau hir.

Gweld eich hoff gyrsiau yn gyflym. Os ydych am gael mynediad at fudiad yn aml, gallwch ddewis yr eicon seren i’w ychwanegu at eich ffefrynnau er mwyn iddo ymddangos ar frig y rhestr. Nid oes angen i chi sgrolio bellach! Gallwch ddewis yr eicon seren unwaith eto i dynnu mudiad o’ch rhestr o ffefrynnau.

Cynghoryn

Ni allwch newid trefn y mudiadau yn y rhestr. Caiff y mudiadau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor a'u grwpio yn ôl tymor, gyda’r mudiadau mwyaf newydd yn gyntaf. Bydd eich ffefrynnau'n ymddangos ar frig y dudalen.

Newid eich gwedd. Gallwch weld y dudalen Mudiadau naill ai fel rhestr neu rid.