Gweithio ar Asesiad
Dechrau neu ailgychwyn ymgais
Os nad oes terfyn amser yn bodoli, gallwch agor yr asesiad a dechrau gweithio heb gyflwyno ar unwaith.
Os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi'r gosodiad Gwahardd Cyflwyniadau Hwyr, bydd eich ymgais yn cael ei gyflwyno'n awtomatig ar y dyddiad cyflwyno os nad ydych wedi ei gyflwyno â llaw.
Dewiswch Dechrau ymgais i agor yr asesiad.
Os nad ydych chi'n barod i gyflwyno, dewiswch Cadw a Chau i gadw'ch gwaith a dychwelyd yn ddiweddarach.
Pan fyddwch yn dychwelyd, dewiswch Parhau gyda'r ymgais i ailddechrau eich gwaith.
Cwblhau eich gwaith
Gallwch gwblhau'ch gwaith mewn sawl ffordd:
Llusgwch a gollwng ffeiliau yn uniongyrchol i'r blwch Cyflwyno.
Upload files using the Upload a file button.
Mewnosodwch o Storfa Cwmwl (e.e., OneDrive, Google Drive). Copïau yw'r ffeiliau a ychwanegwyd fel hyn.
Use the WYSIWYG editor to type or paste your response.
Ychwanegwch at y sgwrs. Os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi sgyrsiau, dewiswch eicon Agor sgwrs dosbarth. Gall unrhyw un wneud cyfraniad i'r sgwrs ar yr aseiniad, gan gynnwys eich hyfforddwr.
Nodyn
You may only have one option - either submitting files or using the text editor - depending on how your instructor has configured the assignment.

Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu un ymgais yn unig, ni allwch olygu'ch gwaith ar ôl cyflwyno. Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu ymgeisiau lluosog a'ch bod yn cyflwyno ymgais ar ôl y dyddiad cyflwyno, bydd yr ymgais yn cael ei nodi fel un hwyr. Ni fydd unrhyw ymgeisiau a gyflwynwch chi cyn y dyddiad cyflwyno yn cael eu nodi fel rhai hwyr.
Cyfrif geiriau yn y golygydd
Wrth i chi deipio yn y golygydd ar gyfer cwestiynau Traethawd ac yn yr ardal cyflwyno, mae'r cyfrif geiriau yn ymddangos dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.

Cynhwysir yr eitemau hyn yn y cyfrif geiriau:
Geiriau unigol
Dolenni Gwe
Testun yn rhestrau â bwledi neu rifau, ond ni chynhwysir y bwledi neu rifau eu hunain
Testun uwchysgrif ac isysgrif nad yw'n rhan o air arall
Nid yw'r eitemau nac elfennau ffurfweddu hyn yn effeithio ar y cyfrif geiriau:
Delweddau, fideos ac atodiadau ffeil
Fformiwlâu mathemateg
Bylchau a llinellau gwag
Testun amgen
Pan ddefnyddiwch atalnodi i atodi geiriau neu rifau, bydd effaith ar y cyfrif. Er enghraifft, caiff "Aethom ni...heboch chi" ei gyfrif fel tri gair. Cyfrifir y geiriau neu rifau ar bob ochr i'r atalnodi fel un gair.