Mathau o Ffeiliau a Gefnogir
Ar gyfer y rhan fwyaf o asesiadau, gallwch atodi ffeil.
Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil, efallai y byddwch chi'n gallu golygu enw'r ddolen i'r ffeil. Bydd teitl y ddolen yn ymddangos i ddefnyddwyr yn lle enw'r ddogfen. Er enghraifft, teipiwch "Fy Nghyflwyniad" fel teitl y ddolen yn hytrach nag enw'r ffeil introduction.doc.
Nodau a dderbynnir mewn enwau ffeiliau
Caniateir unrhyw fath o nod mewn enwau ffeiliau. Fodd bynnag, gall system gweithredu defnyddiwr a'r porwr gyfyngu ar y mathau o nodau a dderbynnir. Er enghraifft, nid yw rhai porwyr yn derbyn nodau sy'n fwy llydan. Efallai ni fydd gan rai porwyr yr ieithoedd cywir wedi'u gosod arnynt i ddangos nodau arbennig yr wyddor yn yr iaith honno.
Mathau o atodiadau ffeil a adnabyddir
Mae'r system yn adnabod nifer o fathau o ffeiliau yn ddiofyn. Mae'r ffeiliau hyn yn agor yn uniongyrchol yn y porwr neu mewn rhaglen gysylltiedig. Os nad yw'r system yn adnabod math y ffeil, gall defnyddwyr lawrlwytho'r ffeil atodedig a'i hagor ar eu cyfrifiadur eu hunain.
Estyniad | Math o Ffeil | Rhaglenni a Gysylltir â'r Math o Ffeil |
|---|---|---|
AAM | Amlgyfryngau | Ategyn Macromedia® Authorware® Y ffeil AAM yw pwynt cychwyn cyfres o ffeiliau y mae rhaid iddynt gael eu hamgáu mewn ffeil ZIP. |
AIFF | Sain | Mae AIFF yn fformat sain cywasgedig. Mae ffeiliau AIFF yn dueddol o fod yn fawr. |
ASF | Amlgyfryngau | Sioe Microsoft® .NET™ Gall ffeiliau ASF gynnwys sain, fideo, delweddau a thestun. |
AU | Sain | Chwaraewr Real Audio™ |
AVI | Fideo | Chwaraewr fideo - Windows yn unig |
DOC, DOCX | Testun | Microsoft® Word - prosesydd geiriau |
EXE | Gweithredadwy | Rhaglenni yw ffeiliau gweithredadwy. Gallai rhai polisïau diogelwch rhwydwaith a muriau cadarn wahardd defnyddwyr rhag lawrlwytho ffeiliau gweithredadwy. NodynOs yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn mwy newydd o Blackboard Learn, efallai ni fyddwch yn gallu uwchlwytho ffeiliau o'r math hwn. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am gymorth. |
GIF | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
HTML, HTM | Tudalen gwe | Golygydd neu borwr HTML |
JPG, JPEG | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
JIF | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
MP3 | Sain | Rhaglen sain |
MP4 | Fideo | Chwaraewr Fideo |
MPE | Sain/Fideo | Rhaglen sain |
MPG, MPEG | Fideo | Chwaraewr Fideo |
MOOV, MOVIE | Ffilm | Ffilm QuickTime® |
MOV | Fideo | Chwaraewr ffilm neu gyfryngau |
NUMBERS | Taenlen | Apple Numbers® |
Testun | Adobe® Acrobat® Reader® | |
PNG | Delwedd | Golygydd graffeg neu borwr gwe |
PPT, PPTX, PPS | Sioe Sleidiau | Microsoft® PowerPoint®, PowerPoint Player® |
QT | Ffilm | QuickTime® |
RA | Sain | Chwaraewr Real Audio™ |
RAM | Fideo | Ffilm Real Audio™ |
RM | Sain | Rhaglen sain |
RTF | Testun | Prosesydd geiriau |
SWF | Amlgyfryngau | Ategyn Macromedia® Shockwave® |
TIFF, TIF | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
TXT | Testun | Golygydd testun neu HTML, prosesydd geiriau |
WAV | Sain | Rhaglen sain |
WMA | Sain | Rhaglen sain |
WMF | Graffeg | Microsoft® Windows® |
XLS, XLSX | Taenlen | Microsoft® Excel® |
ZIP | Pecyn cywasgedig | WinZip® |