ORIGINAL Graddau
Gwylio fideo am wirio graddfeydd
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Ble mae fy ngraddau?
Gallwch weld graddau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau gyda'i gilydd neu fesul cwrs.
Yn y rhestr ble mae eich enw yn ymddangos, dewiswch Graddau.
Nodyn
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.

Trefnir eich graddfeydd yn ôl enw cwrs a thymor yn nhrefn yr wyddor. Gallwch ddewis y rhan fwyaf o eitemau mewn unrhyw gwrs i weld y manylion.
I weld y graddau ar gyfer y cwrs rydych ynddo, dewiswch ddolen y cwrs ar y brif dudalen Graddau neu ar y dudalen Offer.
Eich hyfforddwr sy'n rheoli pa ddolenni sy'n ymddangos yn newislen y cwrs.

Tudalen Fy Ngraddau
Ar y dudalen Fy Ngraddau, gallwch weld yr holl waith cwrs a graddau ar gyfer y cwrs rydych ynddo. Os nad yw'ch gwaith wedi cael ei raddio, mae eiconau statws gradd yn ymddangos.
Gallwch hidlo a threfnu'r hyn a welwch.

Dewiswch deitl eitem i adolygu'ch cyflwyniad. Er enghraifft, gall eich hyfforddwr deipio sylwadau ac amlygu testun yn eich dogfen. Dewiswch deitl aseiniad i weld tudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau yr aseiniad ac i adolygu'r radd, yr anodiadau a'r adborth mewn cyd-destun.
Cynghoryn
Nodyn atgoffa: Ar gyfer profion, ar ôl i chi ddewis y teitl, mae'r dudalen Gweld Ymdrechion yn agor. Dewiswch y radd i adolygu’ch cyflwyniad.
Os ddefnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd i raddio'ch gwaith, dewiswch ddolen Gweld y Cyfarwyddyd i weld y manylion.
Dewiswch eicon Gweld Adborth i weld adborth yr hyfforddwr mewn ffenestr naid.
Os yw'ch hyfforddwr yn defnyddio'r nodwedd graddio presenoldeb, byddwch yn gweld gradd presenoldeb.
Cynghoryn
Beth mae'r eiconau yn eu golygu?
Os nad yw'ch hyfforddwr wedi graddio'ch gwaith eto, mae eiconau statws gradd yn ymddangos.
Eicon | Disgrifiad |
|---|---|
- | Nid oes gwybodaeth ar gael. |
Rydych wedi cwblhau'r gwaith, ond ni neilltuir gradd i eitemau megis arolygon. | |
Rydych wedi cyflwyno'ch gwaith. Mae'r eitem yn barod i'w raddio. | |
Gradd | Ar ôl i eitem gael ei graddio, dewiswch y teitl i adolygu’ch cyflwyniad. Ar gyfer profion, ar ôl ichi ddewis y teitl, bydd y dudalen Gweld Ymgeisiau yn agor. Dewiswch y radd i adolygu’ch cyflwyniad. |
Mae'ch gwaith wrthi'n cael ei wneud, ond nid ydych wedi ei gyflwyno eto. | |
Mae'ch gradd ar gyfer yr eitem hon wedi'i heithrio. Nid oes rhaid i chi gyflwyno gwaith. | |
Digwyddodd gwall. Cysylltwch â'ch hyfforddwr. | |
Cafodd eich gwaith ei raddio'n ddienw. Mae hyn yn ymddangos gyda chyflwyniadau lle mae eich hyfforddwr wedi pennu graddau gydag enwau myfyrwyr wedi'u cuddio yn ystod y broses raddio. | |
Dewiswch hwn i weld adborth gan eich hyfforddwr. |
Hysbysiadau graddau newydd
Dychwelwch i'r ddewislen nesaf at eich enw i weld gweithgarwch graddio newydd.
Os oes rhif yn ymddangos ar eicon Fy Ngraddau, mae gennych raddau newydd, eitemau dyledus neu eitemau newydd gyda dyddiadau dyledus. Gallwch hefyd ddewis derbyn hysbysiadau graddau ar e-bost a neges destun os yw'ch sefydliad yn caniatáu hyn.
Cynghoryn
Derbynebau cyflwyno
Os yw'ch sefydliad yn caniatáu, byddwch yn derbyn e-bost gyda hysbysiad ar gyfer pob aseiniad neu brawf y cyflwynwch chi sy'n cynnwys gwybodaeth megis enw a maint y ffeiliau a atodwyd. Ar gyfer aseiniadau grŵp, bydd yr holl aelodau yn eich grŵp yn derbyn y derbynneb pan fydd un aelod yn cyflwyno ar ran y grŵp.
Hyd yn oed pan fydd yr hysbysiadau e-bost wedi'u diffodd, gallwch dal i gael mynediad at dderbyniadau ar unrhyw adeg ar dudalen Fy Ngraddau yn yr ardal gyflwyno.
Cynghoryn
Gwrando ar adborth a recordiwyd
Mae'n bosibl y bydd eich hyfforddwr yn gadael fideo neu recordiad sain gydag adborth ychwanegol ar eich gradd. Os oes recordiad o adborth, byddwch yn gweld eicon yn eich ardal adborth yn Fy Ngraddau. Cliciwch ar yr eicon i chwarae’r fideo ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Gallwch reoli’r fideo trwy’r dulliau arferol megis rhewi’r fideo neu lithro bar y chwaraeydd. Mae’r rhan fwyaf o borwyr modern yn gallu chwarae recordiadau heb yr angen i ategu unrhyw feddalwedd ychwanegol. Ni allwch allgludo neu lawrlwytho'r recordiad o adborth ar hyn o bryd.
