Skip to main content

ORIGINAL Cwestiynau Cyffredin am Fewngofnodi

Sut ydw i'n cael mynediad at Blackboard?

Rhowch gynnig ar chwilio'r we am enw eich sefydliad + Blackboard.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i safle eich sefydliad, cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.

Sut ydw i’n mewngofnodi?

Mae angen tri darn o wybodaeth ar bawb i gael mynediad at Blackboard:

  • Cyfeiriad gwe gwefan Blackboard eich sefydliad

  • Eich enw defnyddiwr

  • Eich cyfrinair

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad gwe yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Beth sy'n digwydd ar ôl i fi fewngofnodi?

Mae defnyddwyr newydd yn gweld tudalen groeso sy'n eu gwahodd i greu proffil. Cyn i chi greu proffil, rhaid i chi dderbyn Telerau Defnyddio Proffiliau Blackboard yn y neidlen. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai o'r offer. Gallwch ddewis creu proffil yn hwyrach.Profile for Students

Mae defnyddwyr cyfredol yn gweld tab Fy Sefydliad. O'r tab hwn, gallwch gael mynediad at y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt neu yr ydych yn eu dysgu.Navigate Outside a Course for Students

Anghofiais fy nghynarair. Sut ydw i'n ei ailosod?

Defnyddiwch y camau hyn os yw’ch sefydliad yn caniatau i chi ailosod eich cyfrinair:

  1. Llywiwch i'r URL lle rydych yn cael mynediad at Blackboard.

  2. Ar y dudalen mewngofnodi, dewiswch Wedi Anghofio'ch Cyfrinair? neu Anghofio Cyfrinair?

  3. Teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw ac enw defnyddiwr. Mae angen cael cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost.

  4. Dewiswch Cyflwyno.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair cyfredol yn parhau'n weithredol nes i chi ei newid.

Os na allwch gyrchu’r opsiwn Wedi Anghofio Cyfrinair, cysylltwch â desg gymorth eich sefydliad. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.

Sut ydw i’n newid fy nghyfrinair?

Argymhellwn eich bod yn newid eich cyfrinair o dro i dro er mwyn sicrhau diogelwch. Peidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol gyffredin ar gyfer eich cyfrinair, er enghraifft, eich enw.

Mewngofnodwch i newid eich cyfrinair. Ewch i'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Newid Cyfrinair.

Mae rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae rhaid iddynt fod o leiaf un nod o hyd. Gall cyfrineiriau gynnwys uchafswm o 32 nod.

Fideo: Newid eich cyfrinair

Gwyliwch fideo am newid eich cyfrinair

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.


Fideo: Newid eich cyfrinair yn dangos sut i gael mynediad i'r ddewislen defnyddiwr a newid eich cyfrinair.

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. Am ddisgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo

Sut ydw i’n allgofnodi?

Dewiswch y botwm allgofnodi yn y gornel dde ar frig y dudalen.

Botwm allgofnodi

Fe wnes i fewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif arall. Sut ydw i'n allgofnodi o Blackboard?

Mae'n bosibl bod eich sefydliad yn defnyddio dull cyflwyno'ch hun unwaith (SSO) i ddilysu defnyddwyr yn Blackboard. Mae'r dull cyflwyno'ch hun unwaith (SSO) yn caniatáu i ddefnyddwyr Blackboard fewngofnodi gan ddefnyddio eu henwau defnyddiwr a chyfrineiriau o sefydliad neu raglen arall. Mae'r dull cyflwyno'ch hun unwaith (SSO) yn arbed amser i ddefnyddwyr ac yn darparu integreiddiad hwylus wrth fewngofnodi.

Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddefnyddio'ch cyfrif Google i fewngofnodi i Learn. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi i Google ar eich porwr cyfredol, bydd Learn yn eich mewngofnodi'n awtomatig hefyd.

Os byddwch yn allgofnodi o Blackboard, bydd neges yn ymddangos yn gofyn a ydych eisiau diweddu'r holl sesiynau perthnasol neu barhau. Os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth, bydd y system yn diweddu pob sesiwn ymhen dwy funud. Os ydych am barhau â'ch sesiwn, bydd angen i chi fewngofnodi eto er diogelwch.

Rwyf wedi fy nghloi allan o fy nghyfrif. Sut ydw i'n ei ddatgloi?

Er eich diogelwch, efallai bydd y system yn eich cloi allan os ydych wedi rhoi’ch enw defnyddiwr na chyfrinair yn anghywir ormod o weithiau neu os yw'r broses mewngofnodi yn cymryd rhy hir.

Efallai bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif os ydych yn ailosod eich cyfrinair. Dewiswch Wedi Anghofio’ch Cyfrinair? neu Wedi anghofio’ch cyfrinair? a dilynwch y cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair a datgloi eich cyfrif.

Os nad yw’ch sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif, bydd angen i chi aros nes bod y cyfnod cloi yn dod i ben neu cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad i ddatgloi’ch cyfrif. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.