Metaddata
Gwybodaeth ddisgrifiadol am eitem yw metaddata. Yn y Casgliad o Gynnwys, mae metaddata yn helpu i gadw trefn ar symiau mawr o gynnwys ac yn golygu bod defnyddwyr eraill yn gallu chwilio am y cynnwys. Gall defnyddwyr gysylltu gwahanol fathau o fetaddata, megis dyddiad neu gategori, gydag eitem unigol. I olygu metaddata eitem, dewiswch Metaddata yn newislen yr eitem.
Nodyn
Eich sefydliad sy'n pennu a yw'r nodwedd hon ar gael.
Blackboard yn dod gyda phedwar templed metaddata diofyn: Dublin Core, Full IMS, General, ac IMS. Gellir trefnu bod y templedi hyn ar gael i'r holl ddefnyddwyr a gellir ei golygu, ond ni ellir eu dileu o'r system. Gall gweinyddwyr ddynodi defnyddwyr i greu a golygu priodweddau a thempledi metaddata ychwanegol.
Nodyn
Gellir mewngludo ac allgludo ffolderi ac eitemau gyda'u metaddata cysylltiedig.