ORIGINAL Derbynebau Cyflwyno
Mae derbynebau cyflwyniadau yn ddefnyddiol os oes angen i chi brofi eich bod wedi cyflwyno eich gwaith, a dyna pam ei bod yn bwysig eu cadw bob amser.
Bob tro byddwch yn cyflwyno aseiniad neu brawf, bydd ffenestr yn ymddangos gyda rhif cadarnhau cyflwyniad. Gan ddefnyddio'r rhif cadarnhau, gall eich hyfforddwr ddod o hyd i'r cyflwyniad i'w wirio.

Mae'r dderbynneb yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Enw'r cwrs a rhif adnabod y cwrs.
Enw'r asesiad.
Graddfa'r asesiad
Nifer yr ymgeisiau ar gyfer asesiad.
Y myfyriwr a gyflwynodd yr asesiad.
Maint unrhyw ffeil sydd wedi'i chynnwys gyda'r cyflwyniad, sy'n rhoi syniad i hyfforddwyr o beth gwnaethoch ei atodi.
Stamp amser a dyddiad y cyflwyniad. Os cyflwynwyd yr asesiad yn hwyr, mae'n cael ei nodi yma.
Mae'r dangosydd cyflwyno'n awtomatig yn ymddangos pan fydd yr asesiad yn cael ei gyflwyno'n awtomatig gan fel rhan o asesiad a amserir neu osodiad Atal Cyflwyniad Hwyr yr asesiad
Gallwch lawrlwytho ffeil .txt gyda gwybodaeth y dderbynneb yn uniongyrchol o'r ffenestr. Byddwch hefyd yn cael copi o dderbynneb y cyflwyniad mewn cadarnhad awtomatig drwy e-bost.