Skip to main content

Trafodaethau grŵp

Efallai bydd eich hyfforddwr yn creu grwpiau neu’n gofyn i chi ymuno â grŵp ar gyfer trafodaethau grŵp. Efallai bydd eich hyfforddwr yn graddio'ch cyfraniadau hefyd.

I agor trafodaeth, dewiswch y tab Trafodaethau ar y bar llywio yn eich cwrs. Dewiswch y drafodaeth o'r rhestr sy'n ymddangos.

Efallai bydd eich hyfforddwr hefyd yn lleoli trafodaethau wrth ochr deunyddiau cwrs eraill ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Tudalen Cynnwys y Cwrs gyda blychau sy'n tynnu sylw at y tab Trafodaethau yn y bar llywio ac eitem Trafodaeth Grŵp wedi'i restru yn ardal y cwrs.

Sut ydw i'n gwybod os ydw i mewn grŵp?

Ar y dudalennau Cynnwys y Cwrs a Trafodaethau, mae enw'ch grŵp wedi'i restru ar ôl teitl y drafodaeth grŵp. Bydd enw eich grŵp yn ymddangos pan fyddwch yn agor y drafodaeth, ynghyd â rhestr o aelodau eich grŵp.

Pan ofynnir i chi ymuno â grŵp am drafodaethau grŵp, efallai byddwch yn gweld cyfnod cofrestru. Mae angen i chi ymuno â grŵp cyn y dyddiad cau. Os nad ydych wedi ymuno â grŵp, rhoddir gwybod i chi pan fydd y dyddiad olaf i gofrestru yn nesáu.

Gallwch hefyd weld a yw’r cyfnod cofrestru wedi agor eto neu wedi dod i ben. Cysylltwch â'ch hyfforddwr os nad ydych wedi ymuno â grwp cyn y dyddiad olaf i gofrestru.

Ardal Cynnwys y Cwrs gyda dwy res yn rhestru gweithgareddau Trafodaeth Grŵp. Mae saeth galw allan yn pwyntio at enw'r grŵp neu'r ddolen "Ymuno â grŵp i gymryd rhan" yn y rhesi.

Dewiswch y ddolen Ymunwch â grŵp i gymryd rhan i gyrchu'r dudalen Grwpiau. Os ydych yn dewis teitl trafodaeth grŵp, bydd tudalen yn agor gyda manylion a dolenni i ymuno â grŵp. Ni allwch gymryd rhan nes ichi ymuno â grŵp.

Y dudalen Trafodaeth Grŵp gyda blwch amlygu o amgylch dolen "Ymuno â grŵp i gymryd rhan" yn yr adran Manylion a Gwybodaeth a saeth sy'n tynnu sylw at y ddolen Ymuno â grŵp i gymryd rhan ar y gwaelod.

Tudalen Grwpiau

Mae’r grwpiau y gallwch ymuno â nhw yn ymddangos ar y dudalen Grwpiau. Yn seiliedig ar osodiadau’ch hyfforddwr, efallai byddwch yn gweld dolenni Dangos Aelodau sy’n dangos enwau'r aelodau eraill a ymunodd cyn chi. Yn y golofn Nifer o fyfyrwyr, gallwch weld y nifer o aelodau sy’n gallu ymuno â phob grŵp. Efallai bydd eich hyfforddwr yn caniatáu i bob myfyriwr ymuno â phob grŵp. Er enghraifft, efallai bydd eich hyfforddwr yn caniatáu i chi ymuno â nifer o grwpiau i drafod materion cymdeithasol penodol.

Ar ôl ichi ymuno â grwp, bydd Wedi Ymuno yn ymddangos yn y rhes honno. Gallwch symud i grŵp arall tra bod y cyfnod cofrestru ar agor. Ni allwch ymuno â neu symud i grwpiau sydd wedi cyflwyno gwaith neu sydd wedi cyrraedd y nifer mwyaf o aelodau.

Y dudalen Hunan-gofrestru gyda saeth yn pwyntio at ddolen "Dangos Aelodau"

Os na allwch ymuno ag unrhyw grŵp neu os yw'r dyddiad cofrestru wedi mynd heibio, cysylltwch â’ch hyfforddwr.

Ar y chwith, mae adran manylion Grŵp y myfyriwr ar agor gyda'r rhestr o grwpiau hunangofrestru sydd ar gael i ymuno. Ar y dde, mae'r rhestr o grwpiau hunangofrestru yn dangos 1) y neges "Wedi ymuno" mewn un grŵp a 2) yr opsiwn "Symud i'r grŵp hwn" yn y grwpiau sydd ar gael i ymuno.

Ar ôl ymuno â grŵp, gallwch weld eich gweithgarwch grŵp a chyfranogi.

Trafodaethau grŵp a raddir

Os welwch wybodaeth graddio ym manylion y drafodaeth, graddir eich cyfranogiad. Bydd eich hyfforddwr yn pennu gradd ar gyfer eich cyfranogiad yn y drafodaeth gyfan, nid ar gyfer pob postiad unigol. Os yw'ch hyfforddwr wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r drafodaeth, dewiswch Mae'r eitem hon wedi'i graddio gan ddefnyddio cyfarwyddyd i ddangos mwy o wybodaeth. Gallwch weld y meini prawf graddio cyn ichi gyfrannu.

delwedd o dudalen Trafodaeth Grŵp gydag aelodau yn postio ac yn ateb cwestiwn y drafodaeth. Mae blwch yn tynnu sylw at adran Manylion a Gwybodaeth y dudalen

Gweld gweithgarwch

Bob tro ichi agor trafodaeth, caiff unrhyw atebion ac ymatebion newydd eu hamlygu er mwyn dangos unrhyw weithgarwch newydd ar ôl eich ymweliad diwethaf. Gallwch hefyd ddefnyddio’r eicon Adnewyddu ar frig y drafodaeth i lwytho unrhyw atebion neu ymatebion mae aelodau'ch grŵp wedi'u postio ar ôl ichi agor y drafodaeth.

Gallwch bostio ymateb i'r neges gychwynnol neu ymateb i ymatebion aelod o'ch grŵp. Os ydych chi eisiau ailedrych ar eich ymatebion cyn i chi eu postio, gallwch ddewis Cadw Drafft.