Cwestiynau Mannau Poeth
Ynghylch cwestiynau mannau poeth
Mae cwestiynau mannau poeth yn dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin ar un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu yn y ddelwedd honno. Mae cwestiynau mannau poeth yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gwahanol ddisgyblaethau. Mewn cwrs anatomeg, er enghraifft, efallai gofynnir i chi nodi rhannau corff. Mewn cwrs daearyddiaeth, i farcio lleoliad penodol ar fap. Mewn cwrs ieithoedd modern, i ddewis dilledyn penodol. Mewn cwrs ecoleg neu fioleg, efallai gofynnir i chi nodi ba rywogaethau neu unigolion sy'n perthyn i'r cynefin cyfatebol mae'r brif ddelwedd yn ei ddisgrifio, neu'r rhai nad ydynt yn perthyn.
Mathau o gwestiynau mannau poeth
Fe welwch fathau gwahanol o gwestiynau mannau poeth mewn prawf neu aseiniad:
Man Poeth Safonol: Mae'n dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin yn un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu yn y ddelwedd. Nid ydych yn gwybod lleoliad y mannau poeth.
Man Poeth Amlddewis: Mae'n dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin yn un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu. Gallwch weld lleoliadau'r mannau poeth. Mae un man poeth yn gywir ac mae'r mannau poeth eraill yno i wrthdynnu eich sylw.
Man Poeth Ateb Lluosog: Mae'n dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin yn un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu. Gallwch weld lleoliadau'r mannau poeth. Mae un neu fwy o fannau poeth yn gywir ac mae'r mannau poeth eraill yno i wrthdynnu eich sylw.
Pwysig
Gall mannau poeth gynnwys disgrifiadau, a/neu fod yn weladwy neu'n gudd ar y ddelwedd, gan ddibynnu ar sut creodd eich hyfforddwr y prawf neu aseiniad.
Sut atebaf gwestiwn man poeth?
Mae'r pin cyntaf yn ymddangos ar y cynfas yn awtomatig pan fyddwch yn dewis y ddelwedd â'r llygoden. Symudwch yr "eicon pin" porffor a ollyngwyd ar y ddelwedd i'r lleoliad cywir ar y ddelwedd.
Gall yr hyfforddwr ofyn i chi nodi mwy nag un eitem yn y ddelwedd. Mae gennych yr opsiwn i ychwanegu mwy nag un pin at y ddelwedd, hyd yn oed os oes dim ond un man poeth.
I ychwanegu pinnau ychwanegol, dewiswch yr eicon pin o'r bar offer uwchben y ddelwedd ar y cwestiwn man poeth neu'r fysell P.
Mewn rhai achosion, gall eich hyfforddwr ddangos y mannau poeth mae wedi'u creu i chi. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd un neu fwy o'r mannau poeth yno i wrthdynnu eich sylw (opsiynau ateb anghywir). Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn rhoi'r pin ar y mannau poeth cywir.
Nodyn
Gallwch ddod o hyd i ardaloedd man poeth ar ffurf petryal, cylch neu bolygon, gan ddibynnu ar dewis eich hyfforddwr ar gyfer yr asesiad.



Sut allaf gadw fy ateb ar gyfer cwestiwn man poeth?
Cedwir safleoedd pinnau yn awtomatig wrth iddynt gael eu gollwng ar y ddelwedd, neu wrth iddynt gael eu symud.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn ychwanegu pin nad ydwyf eisiau ei ddefnyddio ar ddamwain?
Gallwch ddileu'r pin drwy ddewis y pin ac wedyn dewis y botwm "Clirio'r detholiad" uwchben y ddelwedd a uwchlwythwyd, neu gan ddefnyddio'r botwm dileu ar eich bysellfwrdd. Bydd y ddau opsiwn yn dileu pob pin a ddewiswyd.
Pa lwybrau byr ar y bysellfwrdd sydd ar gael wrth ollwng pin ar ddelwedd?
Defnyddiwch Tab a Shift+Tab i ddewis pinnau
Defnyddiwch y fysell P i greu pin newydd
Defnyddiwch y bysellau saeth i symud pinnau
Defnyddiwch Alt neu Option + bysellau saeth i symud pin a ddewiswyd mewn camau llai (1 picsel ar y tro)
Defnyddiwch Dileu i ddileu pin a ddewiswyd
Gwylio fideo am Gwestiynau Mannau Poeth
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar Vimeo.