Skip to main content

ORIGINAL Blogiau

Blog yw eich dyddlyfr personol ar-lein. Gall pob cofnod blog rydych yn ei wneud gynnwys unrhyw gyfuniad o destun, delweddau, dolenni, amlgyfryngau, cyfuniadau, ac atodiadau. Mae blogiau'n fodd effeithiol i chi rannu gwybodaeth a deunyddiau a grëwyd ac a gasglwyd yn y cwrs. Gallwch bostio cofnodion ac ychwanegu sylwadau at flogiau cyfredol. Defnyddiwch eich blog i fynegi eich syniadau a'u rhannu gyda'r dosbarth.

Fel perchennog y blog, gallwch greu cofnodion a gall eich hyfforddwr a chyd-ddisgyblion ychwanegu sylwadau. Mae cwrs neu grŵp hefyd yn gallu perchen ar flog. Yn maes y grŵp, gall pob aelod o grŵp greu cofnodion ar gyfer yr un blog, gan adeiladu ar ei gilydd. Mae unrhyw aelod o gwrs yn gallu darllen a gwneud sylw ar flog grŵp, ond ni allant greu cofnod os nad yw'r defnyddiwr yn aelod o'r grŵp. Gall eich hyfforddwr hefyd gynnig sylwadau a graddio cofnodion.

Nodyn

Os yw'ch sefydliad yn defnyddio avatars neu broffiliau Blackboard, bydd y ddelwedd a ddewiswyd gennych yn ymddangos gyda'ch blog.

Ble i ddod o hyd i flogs

Gallwch ddod o hyd i flogiau ar ddewislen y cwrs neu ar y dudalen Offer. Ar y dudalen sy'n rhestri'r blogiau, dewiswch bwnc y blog rydych eisiau ei darllen o'r rhestr yn nhrefn yr wyddor.

Gallwch gyrchu dri math o flog:

  • Cwrs: Gall pob defnyddiwr cofrestredig greu cofnodion blog ac ychwanegu sylwadau at gofnodion.

  • Unigolyn: Dim ond perchennog blog all greu cofnodion blog. Gall pob defnyddiwr arall sydd wedi ymrestru weld cofnodion ac ychwanegu sylwadau.

  • Grŵp: Os yw'ch hyfforddwr yn galluogi'r offer blogiau ar gyfer grŵp, bydd pob aelod o'r grŵp yn gallu creu cofnodion blog a gwneud sylwadau. Gall unrhyw aelodau cwrs weld blogiau grŵp, ond mae ganddynt yr opsiwn i ychwanegu sylwadau yn unig. Gallwch ychwanegu cofnodion at eich grŵp blog eich hun yn unig.

    Nodyn

    Gall eich hyfforddwr olygu a dileu cofnodion yn y tri math o flog a dileu sylwadau defnyddiwr.

Tudalen pwnc blog

Tudalen pwnc blog

Mae tudalen pwnc y blog wedi'i rhannu'n ddwy brif adran: y ffrâm cynnwys a'r bar ochr.

  1. Dewiswch Creu Cofnod Blog i greu cynifer o gofnodion blog ag y mynnwch. Dewiswch Gweld Drafftiau i weld cofnodion heb eu cyhoeddi. Ehangwch adran Cyfarwyddiadau Blog i adolygu cyfarwyddiadau'r blog ac unrhyw nodau y gallai'ch hyfforddwr fod wedi'u halinio gyda'r blog.

  2. Yn y bar ochr, ehangwch adran Manylion y Blog  i weld gwybodaeth am y blog, gan gynnwys a wnaed unrhyw sylwadau. Ehangwch yr adran i weld rhestr o bwy arall sydd wedi gwneud cofnodion blog.

  3. Dewiswch enw i weld y cofnodion. Mae'r adran Graddio yn ymddangos os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi graddio ar gyfer y blog. Gallwch weld os yw eich cofnodion blog wedi eu graddio.

  4. Mae Sylwadau yn dangos pwy sydd wedi ychwanegu sylw ar y postiad. Dewiswch Mynegai i weld teitlau'r cofnodion a ddewiswyd gennych naill ar gyfer yr wythnos neu'r mis, yn seiliedig ar y gosodiadau a wneir gan eich hyfforddwr wrth greu'r blog. Mae teitl y cofnod mwyaf diweddar yn ymddangos yn gyntaf.

Creu cofnod blog

Eich hyfforddwr yn unig gall greu blog. Ar ôl creu'r blog, gallwch greu cofnodion blog.

Creu tudalen Cofnod Blog
  1. Ar y dudalen rhestru Blogiau, dewiswch deitl blog.

  2. Ar dudalen pwnc y blog, dewiswch Creu Cofnod Blog.

  3. Teipiwch deitl a chofnod.

  4. Os yw wedi'i galluogi a'i bod yn briodol, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Postio'r Cofnod fel un Di-enw.

  5. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Gallwch hefyd atodi ffeil o'r ystorfa: Ffeiliau Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys.

    -NEU-

    Llusgwch ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r "ddolen glicio" yn ardal Atodi Ffeiliau. Os yw'ch porwr yn ei ganiatáu, gallwch hefyd lusgo ffolder o ffeiliau. Bydd y ffeiliau'n uwchlwytho'n unigol. Os nad yw'r porwr yn caniatáu i chi gyflwyno'ch aseiniad ar ôl i chi uwchlwytho ffolder, dewiswch Peidiwch ag atodi yn rhes y ffolder i'w dynnu. Gallwch lusgo'r ffeiliau'n unigol a'u cyflwyno eto.

    Nodyn

    Ni fyddwch yn gallu llusgo ffeiliau i'w huwchlwytho os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard.

    Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu roi enw arall i'r ffeil.

  6. Dewiswch Postio Cofnod i gyflwyno'r cofnod blog neu dewiswch Cadw Cofnod fel Drafft i ychwanegu'r cofnod yn nes ymlaen.

Gwyliwch fideo am flogiau

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.


Fideo: Creu a golygu cofnodion blog eglura blogiau.

Gweld drafftiau blog

Os gadwoch chi gofnod blog i'w olygu'n ddiweddarach, dewiswch Gweld Drafftiau ar dudalen pwnc y blog. Dewiswch deitl y cofnod i'w olygu a phostio.

Rhoi sylw ar gofnod blog

Gallwch wneud sylw ar gofnodion blog eich gilydd, os ydynt yn berchen i unigolyn, y cwrs neu grŵp. Mae eich hyfforddwr yn penderfynu os gallwch wneud sylwadau dienw ac os gallwch ddileu sylwadau blog.

Ar dudalen pwnc y blog, dewiswch enw defnyddiwr yn y bar ochr i weld blog. Bydd cofnodion blog y defnyddiwr yn agor yn y ffrâm gynnwys. Dewiswch Gwneud Sylw i ychwanegu'ch meddyliau.

Golygu neu ddileu cofnod blog

Eich hyfforddwr sy'n pennu a oes caniatâd gennych i olygu neu ddileu'ch cofnodion blog. Ar dudalen pwnc y blog, ewch i ddewislen y cofnod a dewiswch Golygu neu Dileu. Mae dileu cofnod blog bob amser yn derfynol ac ni ellir dadwneud y weithred.

Gweld graddau blog

Ar ôl i'ch hyfforddwr raddio eich cofnodion blog, gallwch edrych ar eich gradd mewn dau fan. Mae'r wybodaeth raddio'n ymddangos yn yr adran Graddio ar dudalen pwnc y blog ac yn Fy Ngraddau. Gallwch hefyd edrych ar adborth eich hyfforddwr a'r dyddiad y dynodwyd y radd. I ddysgu mwy, ewch i Graddau.

Cyfarwyddiadau

Os yw'ch hyfforddwr wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r blog ac wedi'i wneud ar gael, dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd yn yr adran Graddio i ddangos y meini prawf graddio.

Datrys problemau

  • Os cewch eich tynnu o gwrs, ni fydd gennych fynediad at unrhyw flogiau. Os cewch eich tynnu o gwrs ar ôl bod blogiau unigol wedi cael eu creu, bydd unrhyw gofnodion a sylwadau a wnaed gennych yn cael eu dileu. Os cewch eich tynnu o gwrs ar ôl bod blogiau cwrs wedi cael eu creu, bydd unrhyw gofnodion a sylwadau a wnaed gennych yn cael eu cadw, ond caiff eich enw ei newid i "Ddienw".

  • Os yw'ch hyfforddwr yn dileu blog tra'ch bod yn postio, bydd y blog a'r holl sylwadau'n cael eu dileu.

  • Os yw'ch hyfforddwr yn newid argaeledd blog tra'ch bod yn postio, bydd y blog yn parhau i fod yn weladwy i'ch hyfforddwr yn unig.

  • Os yw'ch hyfforddwr yn newid gosodiad Caniatáu i Ddefnyddwyr Olygu a Dileu Cofnodion, bydd y cofnodion yn aros ond ni allwch eu golygu.

  • Os yw'ch hyfforddwr yn newid gosodiad Caniatáu i Ddefnyddwyr Ddileu Sylwadau, bydd y sylwadau'n aros ond ni allwch eu golygu.