Skip to main content

Ychwanegu Metaddata at Eitem

Ychwanegu metaddata at eitem y Casgliad o Gynnwys

  1. Llywiwch i'r ffolder sy'n cynnwys yr eitem rydych eisiau ei olygu.

  2. Dewiswch fath o fetaddata o ddewislen yr eitem.

Metaddata cyffredinol

Tabl 8. Mathau o Fetaddata

Maes

Disgrifiad

Metaddata cyffredinol

Enw

Teipiwch enw ar gyfer yr eitem. Ni fydd hyn yn newid enw'r ffeil.

Disgrifiad

Teipiwch ddisgrifiad ar gyfer yr eitem.

Allweddeiriau

Rhestrwch eiriau allweddol sy'n gysylltiedig â'r eitem, wedi'u gwahanu â choma.

Amcanion Dysgu

Rhestrwch amcanion dysgu sy'n gysylltiedig â'r eitem, wedi'u gwahanu â choma.



Metaddata personol

Mae tudalen Metaddata Personol yn caniatáu i ddefnyddwyr deipio priodoleddau ar gyfer eitem. Diffinnir y priodoleddau gan y sefydliad.

metaddata IMS

Mae tudalen Rheoli Metaddata IMS yn caniatáu i ddefnyddwyr deipio priodweddau sy'n cyd-fynd â Safon Metaddata IMS.

Tabl 9. Disgrifiadau Metaddata IMS

Maes

Disgrifiad

metaddata IMS

Dynodwr

Label unigryw ar gyfer yr eitem.

Math o Gatalog

Math o gatalog llyfrgell lle catalogir yr eitem hon.

Cofnod Catalog

Y rhif catalog ar gyfer yr eitem.

Iaith

Iaith yr eitem.

Math o Adnodd

Y math o adnodd, megis Ymarfer, Ysgogiad, Holiadur, Diagram, Ffigur, Graff, Mynegai, Sleid, Tabl, Testun Naratif, Arholiad, Arbrawf, Datganiad o Broblem neu Hunanasesiad.

Cyd-destun Addysgol

Yr amgylchedd dysgu nodweddiadol lle y bwriedir defnyddio’r gwrthrych dysgu. Er enghraifft, Addysg Gynradd, Addysg Uwchradd, Addysg Uwch, Cylch Cyntaf Prifysgol, Ail Gylch Prifysgol, Ôl-raddedig Prifysgol, Cylch Cyntaf Ysgol Dechnegol, Ail Gylch Ysgol Dechnegol, Hyfforddiant Proffesiynol, Hyfforddiant Parhaus neu Hyfforddiant Galwedigaethol.

Ystod Oedran

Yr ystod oedran ar gyfer y defnyddwyr arfaethedig.

Anhawster

Nodwch lefel anhawster yr eitem hon.

Adnodd Rhad ac am Ddim

Ticiwch y blwch hwn os yw'r eitem hon am ddim.

Defnydd Cyfyngedig

Ticiwch y blwch hwn os oes cyfyngiad ar yr eitem hon.



metaddata IMS Llawn

Mae tudalen Rheoli Metaddata IMS Llawn yn caniatáu i ddefnyddwyr fanteisio ar yr holl feysydd sydd ar gael ar Fodel Gwybodaeth Metaddata Adnodd Dysgu IMS.

Tabl 10. Disgrifiadau Metaddata IMS Llawn

Maes

Disgrifiad

Metaddata cyffredinol

Dynodwr Cyffredinol

Label unigryw ar gyfer yr eitem.

Teitl Cyffredinol

Y teitl ar gyfer yr eitem.

Catalog Cyffredinol

Math o gatalog llyfrgell lle catalogir yr eitem hon.

Cofnod Cyffredinol

Rhif y catalog ar gyfer yr eitem benodol hon.

Iaith Gyffredinol

Iaith yr eitem.

Disgrifiad Cyffredinol

Disgrifiad cyffredinol ar gyfer yr eitem.

Allweddair Cyffredinol

Disgrifiad yr eitem perthynol i'w bwrpas a nodir.

Cwmpas Cyffredinol

Cyd-destun hanesyddol yr eitem.

Strwythur Cyffredinol

Strwythur yr eitem.

Lefel Cydgasglu Gyffredinol

Maint swyddogaethol yr adnodd. Dewiswch 1-4 o'r rhestr.

Cylch Oes

Fersiwn y Cylch Oes

Rhifyn yr eitem.

Statws y Cylch Oes

Cyflwr golygu'r eitem.

Rôl y Cylch Oes

Y math o gyfraniad.

Endid y Cylch Oes

Yr endid unigol neu endidau sy'n gysylltiedig â'r eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys awdur, cyhoeddwr, neu adran prifysgol.

Dyddiad y Cylch Oes

Dyddiad cyfraniad yn y cylch oes.

Metaddata

Dynodwr metaddata

Label unigryw ar gyfer y metaddata.

Catalog metaddata

Ffynhonnell gwerth llinyn canlynol.

Cofnod metaddata

Nodwedd o’r disgrifiad yn hytrach na’r adnodd.

Rôl metaddata

Y math o gyfraniad.

Endid metaddata

Yr endid neu’r endidau sy'n gysylltiedig, gyda’r mwyaf perthnasol yn gyntaf.

Dyddiad metaddata

Dyddiad cyfraniad.

Cynllun metaddata

Strwythur y metaddata, gan gynnwys y fersiwn.

Iaith metaddata

Iaith yr eitem.

Technegol

Fformat Technegol

Data technegol yr eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys PDF, ffeil cronfa ddata, neu ddogfen Word.

Maint Technegol

Maint yr eitem mewn beitiau. Dylid defnyddio'r digidau rhwng 0-9 yn unig. Noder bod yr uned yn feitiau, nid MB, GB, ayyb.

Lleoliad Technegol

Lleoliad yr eitem yn y Casgliad o Gynnwys.

Math Technegol

Y math o ofyniad.

Enw Technegol

Enw’r eitem ofynnol.

Fersiwn Isafswm Technegol

Fersiwn isaf yr eitem ofynnol.

Fersiwn Uchafswm Technegol

Fersiwn uchaf yr eitem ofynnol.

Sylwadau Gosodiad Technegol

Disgrifiad ynghylch sut i osod yr adnodd.

Gofynion Llwyfannau Technegol Eraill

Unrhyw angen arbennig i gyrchu'r eitem. Er enghraifft, mae angen Adobe Reader i gael mynediad at ffeil PDF.

Hyd Technegol

Yr amser y mae eitem barhaol yn ei gymryd pan y'i chwaraeir ar y cyflymder a fwriadwyd, mewn eiliadau.

Addysgol

Math o Ryngweithio Addysgol

Y math o ryngweithio a gefnogir gan yr eitem.

Math o Adnodd Dysgu Addysgol

Y math penodol o adnodd, y math blaenaf yn gyntaf.

Lefel Rhyngweithio Addysgol

Lefel y rhyngweithio rhwng defnyddiwr a’r gwrthrych dysgu.

Dwysedd Semantig Addysgol

Mesur goddrychol o ddefnyddioldeb y gwrthrych dysgu o gymharu â’i faint neu hyd.

Rôl Defnyddiwr Bwriadedig Addysgol

Y math o ddefnyddiwr yr eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys Hyfforddwr, Myfyriwr, a llyfrgellydd.

Cyd-destun Addysgol

Yr amgylchedd dysgu nodweddiadol lle y bwriedir defnyddio’r gwrthrych dysgu. Er enghraifft, Addysg Gynradd, Addysg Uwchradd, Addysg Uwch, Cylch Cyntaf Prifysgol, Ail Gylch Prifysgol, Ôl-raddedig Prifysgol, Cylch Cyntaf Ysgol Dechnegol, Ail Gylch Ysgol Dechnegol, Hyfforddiant Proffesiynol, Hyfforddiant Parhaus neu Hyfforddiant Galwedigaethol.

Ystod Oedran Nodweddiadol Addysgol

Yr ystod oedran ar gyfer y defnyddwyr arfaethedig.

Anhawster Addysgol

Nodwch lefel anhawster yr eitem hon.

Amser Dysgu Nodweddiadol Addysgol

Bras amser neu amser nodweddiadol y mae’n ei gymryd i weithio gyda’r adnodd.

Disgrifiad Addysgol

Y sylwadau ar sut i ddefnyddio’r gwrthrych dysgu.

Iaith Addysgol

Iaith naturiol y defnyddiwr.

Hawliau

Cost Hawliau

P'un ai a oes angen talu i ddefnyddio'r eitem ai peidio.

Hawliau Hawlfraint a Chyfyngiadau Eraill

P’un ai a yw hawlfraint neu gyfyngiadau eraill yn gymwys ai peidio.

Disgrifiad o Hawliau

Sylwadau ar amodau defnyddio’r adnodd.

Cydberthynas

Math o Gydberthynas

Natur y berthynas rhwng yr eitem sy’n cael ei disgrifio a’r un sy’n cael ei hadnabod gan Adnodd (7.2).

Dynodwr y Gydberthynas

Dynodwr unigryw yr eitem arall.

Disgrifiad o’r Gydberthynas

Nodweddion yr eitem mewn cydberthynas ag eitemau eraill yn y Casgliad o Gynnwys.

Catalog Cydberthynas

Ffynhonnell gwerth y llinyn canlynol.

Cofnod Cydberthynas

Y gwerth gwirioneddol.

Anodiad

Unigolyn yr Anodiad

Y defnyddiwr sy'n gwneud sylwadau ar eitem.

Dyddiad yr Anodiad

Y dyddiad y gwnaethpwyd sylwadau ynghylch eitem.

Disgrifiad o’r Anodiad

Sylwadau ar ddefnydd addysgol yr eitem.

Dosbarthiad

Pwrpas y Dosbarthiad

Disgrifiad o nodwedd o'r eitem yn ôl cofnodion dosbarthu.

Ffynhonnell y Dosbarthiad

Y dosbarthiad penodol.

Tacson y Dosbarthiad

Y cofnod dosbarthiad ar gyfer yr eitem; mae rhestr mewn trefn o dacsonau yn creu llwybr tacson.

ID y Dosbarthiad

Dynodwr y Tacson mewn system dacsonomig.

Cofnod y Dosbarthiad

Enw neu label y tacson (heblaw am y dynodwr).

Disgrifiad o’r Dosbarthiad

Disgrifiad testunol o’r gwrthrych dysgu perthynol i'w bwrpas penodedig.

Gair Allweddol y Dosbarthiad

Disgrifiad allweddol o’r gwrthrych dysgu perthynol i'w bwrpas penodedig.

Math o Adnodd

Y math o adnodd, megis Ymarfer, Ysgogiad, Holiadur, Diagram, Ffigur, Graff, Mynegai, Sleid, Tabl, Testun Naratif, Arholiad, Arbrawf, Datganiad o Broblem neu Hunanasesiad.



Metaddata Craidd Dulyn

Gall defnyddwyr deipio priodoleddau sy'n cyd-fynd â safon Metaddata Craidd Dulyn.

Tabl 11. Disgrifiadau Metaddata Craidd Dulyn

Maes

Disgrifiad

Metaddata Craidd Dulyn

Teitl

Enw ar gyfer yr eitem. Ni fydd hyn yn newid enw'r ffeil.

Creawdwr

Y person neu sefydliad a wnaeth yr eitem.

Pwnc

Pwnc yr eitem.

Disgrifiad

Disgrifiad o'r eitem.

Cyhoeddwr

Enw'r person neu sefydliad a gyhoeddodd yr eitem.

Cyfrannwr

Enwau'r bobl a gyfrannodd at gynnwys yr eitem.

Dyddiad

Y dyddiad a grëwyd yr eitem.

Math

Categori neu genre ar gyfer yr eitem hon.

Fformat

Y math o gyfryngau neu faint a hyd yr eitem. Mae'n bosibl y defnyddir y wybodaeth hon i nodi'r meddalwedd neu galedwedd sydd eu hangen i ddefnyddio'r adnodd.

Dynodwr

Cyfeirnod unigryw ar gyfer yr eitem hon, er enghraifft rhif sy'n gysylltiedig â'r eitem mewn system adnabod.

Ffynhonnell

Enw'r adnodd o le daw'r eitem hon.

Iaith

Iaith yr eitem.

Cydberthynas

Cyfeiriad at ffynhonnell sy'n gysylltiedig â'r eitem hon.

Cwmpas

Lleoliad ac ystod dyddiadau'r eitem hon.

Hawliau

Gwybodaeth am Hawliau Eiddo Deallusol a Hawlfraint.



Metaddata Deinamig

Gall hyfforddwyr ychwanegu metaddata at eitem y Casgliad o Gynnwys wrth ychwanegu'r eitem at gwrs. Gall hyfforddwyr ddisodli'r metaddata hwnnw neu gadw cysylltiad â'r Casgliad o Gynnwys fel bod metaddata'n cael ei uwchraddio yn y cwrs pan fydd yn cael ei ddiweddaru yn y Casgliad o Gynnwys.

Tabl 12. Disgrifiadau Metaddata Deinamig

Metaddata

Disgrifiad

Blwch ticio

Dewiswch y blwch ticio priodol er mwyn dethol yr holl briodoleddau posib ar gyfer y math hwnnw o fetaddata.

Casglwr Metaddata

Dewiswch yr arwydd plws i ehangu a dewis y priodoleddau metaddata priodol. Dewiswch yr arwydd minws i gwympo'r rhestr.



Dewiswch o blith yr opsiynau canlynol:

Tabl 13. Priodoleddau Metaddata

Opsiwn

Disgrifiad

Gwerthoedd

Dewiswch flwch Cadw'r gwerthoedd hyn wedi'u cysoni i gynnal cysylltiad deinamig rhwng y Casgliad o Gynnwys a'r cwrs ar gyfer yr eitem.

Nodyn

Os na ddewisir yr opsiwn hwn, yna copiir y metaddata'n unig i'r cwrs. Ni adlewyrchir unrhyw newidiadau a wnaethpwyd i fetadata'r eitem yn y cwrs ac i'r gwrthwyneb.

Fformat

Dewiswch rhwng fformat tablaidd neu gywasgedig ar gyfer y metaddata. Mae'r maes Fformat Enghreifftiol yn dangos sut mae pob opsiwn yn ymddangos.