Adolygiad Ansoddol gan Gyfoedion
O brif dudalen eich cwrs, dewch o hyd i enw'r adran lle mae'r aseiniad wedi'i leoli. Gofynnwch i'ch hyfforddwr os nad ydych yn gwybod enw'ch adran.
Gallwch hefyd gael mynediad at y cyflwyniadau sydd ar gael i'w hadolygu yn uniongyrchol o'r wedd Dyddiad Cyflwyno neu Calendr. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i chi weithredu wrth adolygu eich tasgau sydd ar y gweill.
Dewiswch yr aseiniad i weld y dyddiad cyflwyno, y nifer o adolygiadau gan gyfoedion y mae angen i chi eu cwblhau a dyddiad cyflwyno'r adolygiadau gan gyfoedion. Efallai byddwch yn gweld cyfarwyddyd hefyd, os ychwanegoch eich hyfforddwr gyfarwyddyd ar gyfer yr aseiniad hwn.
Bydd gennych un ymgais yn unig i gyflwyno eich gwaith er mwyn gwarantu gwreiddioldeb eich ymatebion.
Ni allwch ddechrau eich adolygiad gan gyfoedion cyn cyflwyno eich gwaith eich hun, hyd yn oed os yw'r cyfnod adolygu gan gyfoedion wedi dechrau.
Ni allwch ddechrau eich adolygiad gan gyfoedion os nad oes digon o gyflwyniadau i'w hadolygu neu os nad yw'r cyfnod adolygu gan gyfoedion wedi dechrau.
Gallwch gyflwyno eich aseiniad ac adolygiadau gan gyfoedion ar ôl eu dyddiadau cyflwyno ond fe'u marcir fel cyflwyniadau hwyr. Byddwch yn parhau i fod yn rhan o'r broses ond efallai na fyddwch yn derbyn yr isafswm o adolygiadau gan gyfoedion ar eich cyfer eich hun.

Dewiswch Gweld yr Asesiad.
Gallwch ddechrau gweithio ar eich aseiniad ac uwchlwytho atodiadau a ffeiliau eraill iddo. Dewiswch Cadw a Chau os ydych eisiau cymryd saib wrth gwblhau eich gwaith unrhyw bryd a chyflwyno eich aseiniad yn nes ymlaen. Gallwch ddod yn ôl a bwrw ymlaen â'r gwaith unrhyw bryd.
Pan fyddwch wedi gorffen pob un o'ch tasgau ac rydych yn hapus gyda'r gwaith, cyflwynwch eich aseiniad. Bydd angen i chi gadarnhau eich cyflwyniad cyn iddo fod wedi'i orffen.
Ar ôl cyflwyno, gallwch naill ai dewis Gweld y Cyflwyniad i weld eich gwaith eto, neu Dechrau'r adolygiad gan gyfoedion os oes adolygiadau sydd ar gael i chi. Bydd yr opsiwn Adolygu gan Gyfoedion yn parhau i fod yn anweithredol nes bod adolygiadau ar gael i chi eu gwirio.
Pan fydd adolygiadau gan gyfoedion ar gael, dewiswch Dechrau'r adolygiadau gan gyfoedion. Os nad yw'r opsiwn hwn ar gael, mae'n golygu nad yw digon o aseiniadau adolygu gan gyfoedion yn barod. Gallwch roi cynnig arall arni yn nes ymlaen neu gysylltu â'ch hyfforddwr i gael rhagor o wybodaeth.
Ysgrifennwch eich adborth ar gyfer eich cyd-fyfyriwr yn yr ardal ar ochr chwith y sgrin. Gallwch naill ai Cadw eich sylwadau neu gwblhau'r adborth a defnyddio Cyflwyno i'w gyflwyno. Yn y cam hwn, ni fyddwch yn gweld enw eich cyd-fyfyriwr oni bai bod eich hyfforddwr wedi dweud wrthych am gynnwys eich enw yng nghynnwys yr aseiniad.
Ar ôl i chi gyflwyno eich adborth, defnyddiwch y carwsél i symud i'r adolygiad nesaf gan gyfoedion.
Wrth i chi symud ymlaen yn y broses, bydd modd i chi gweld statws eich cyflwyniadau a mynd yn ôl i'r rhai y mae angen i chi eu cwblhau.


Pan fyddwch wedi gorffen pob un o'ch adolygiadau, bydd modd i chi weld eich cyflwyniad eich hun a'r adborth rydych wedi'i roi, ond ni fydd modd i chi ei olygu.
Byddwch yn gweld diweddariadau a'r cynnwys gwahanol yng nghyflwyniad eich aseiniad wrth i chi roi a derbyn adborth. Gall eich hyfforddwr, cyfoedion a chi ddysgu am newidiadau perthnasol yng nghyflwyniadau trwy'r Ffrwd Gweithgarwch. Bydd eich hyfforddwr yn derbyn hysbysiadau pan fydd adolygiadau newydd, a byddwch yn eu derbyn ar ôl i'ch adolygiadau gael eu graddio.
Os ydych yn cyflwyno eich aseiniad neu adolygiadau gan gyfoedion yn hwyr, gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses ond bydd ychydig o gyfyngiadau. Er enghraifft, efallai na fydd modd cwblhau'r isafswm o adolygiadau gan gyfoedion ar gyfer eich aseiniad neu efallai byddwch yn achosi i un neu fwy o'ch cyd-fyfyrwyr golli o leiaf un adolygiad gan gyfoedion.