Polisi Cefnogi Porwyr
Sut rydym yn profi ac yn dilysu porwyr
Mae dull Anthology o bennu profi a dilysu porwyr yn seiliedig ar ddwy brif ystyriaeth:
Rydym eisiau profi a dilysu'r porwyr diweddaraf, yn arbennig lle mae diweddariadau awtomatig yn golygu bod defnyddwyr yn uwchraddio'n gyflym.
Rydym eisiau profi a dilysu set ddigon eang o borwyr sy'n cael eu defnyddio ymhlith ein cleientiaid.
Pan gaiff porwr ei restru fel un sydd wedi ei brofi a'i dilysu, mae Anthology wedi ymrwymo i gefnogi defnydd cleientiaid mewn dau brif fodd:
Cyn rhyddhau fersiwn o Blackboard, gan brofi'r cyfuniadau porwyr a systemau gweithredu sydd ar gael er mwyn atal rhyddhau unrhyw broblemau gyda'r porwr.
Ar ôl rhyddhau fersiwn Blackboard, trwy fynd i'r afael yn sydyn â phroblemau cleientiaid trwy:
Derbyn achosion cefnogaeth ar dechnoleg y platfform, cynorthwyo gyda datrysiadau, a chodi'r materion i'w datrys, pa bynnag borwr a ddefnyddir.
Gweithio i ddatrys unrhyw broblemau gyda’r porwr wrth ryddhau cynnyrch fel gydag unrhyw fath arall o broblem.
Porwyr
Mae Anthology yn profi ac yn dilysu pedwar prif borwr ar gyfer rhyddhau fersiynau Blackboard.
Mae hyn yn cynnwys porwyr sy'n dilyn llwybr traddodiadol o ran diweddaru meddalwedd gan ryddhau fersiynau newydd o bryd i'w gilydd fel rhai sydd Ar Gael yn Gyffredinol, fel arfer wedi'u clymu â system weithredu (OS) benodol:
Apple Safari
Mae hyn hefyd yn cynnwys tri phorwr sy’n dilyn llwybr diweddaru meddalwedd cyflym draws systemau gweithredu, seiliedig ar sianel:
Google Chrome
Mozilla Firefox
Microsoft Edge
Gyda'r porwyr hyn, mae Anthology yn profi eu sianel rhyddhau "sefydlog" ddiweddaraf ar amser profi, sef y sianel sy'n cael ei phrofi fwyaf gan werthwyr y porwyr eu hunain cyn ei rhyddhau i ddefnyddwyr.
Ar ben hynny, mae Anthology yn profi ac yn dilysu sianel arbenigol Extended Support Release (ESR) Firefox, sef is-set o'u sianel sefydlog wedi'i hanelu at ryddhau ar draws busnes cyfan. I ddysgu mwy, gweler tudalen Firefox am Extended Support Release.
Dull Anthology o rendro mewn porwyr
Mae haen rendro Blackboard yn cynnwys Iaith Arwyddnodi Hyperdestun (HTML), Dalenni Arddull Rhaeadrol (CSS), a JavaScript sy’n cydymffurfio â safonau modern ar gyfer yr ieithoedd hynny.
Mae ein hymagwedd cynllunio cyffredinol yn canolbwyntio ar allu i ryngweithredu. Mae hyn yn golygu ble bynnag fo’n bosibl nad ydym yn ysgrifennu cod sy’n benodol i borwr penodol neu’n bod yn defnyddio’r isafswm o fewngapsiwleiddio i ddelio ag amrywiaethau ymysg y porwyr.
Mae’r haen rendro o Blackboard yn rhyngweithio gyda pheiriant rendro eich porwr, sef y rhan sy’n tynnu’r tudalennau gwe i brif ran ffenestr y porwr.
Mae holl beiriannau rendro porwyr wedi eu cynllunio i weithio’n dda gydag ychwanegiad sy’n cydymffurfio â safonau yn HTML, CSS a JavaScript. Mae hyn yn cynnwys:
WebKit, sy’n pweru Safari, Chrome, ac Opera
Blink, fersiwn o WebKit sy’n pweru’r fersiynau diweddaraf o Chrome
Gecko, sy’n pweru Firefox
Mae'r dull dylunio hwn o ran haen rendro Blackboard yn caniatáu i ni fod yn hyderus y bydd fersiynau newydd o borwyr, pan gânt eu rhyddhau, yn parhau i weithio gyda fersiynau presennol Learn.
Fersiynau newydd o borwyr
Oherwydd yr amlder cynyddol o gyhoeddi porwyr newydd gan rai gwerthwyr, polisi Anthology yw cefnogi pob fersiwn newydd o borwr a gyhoeddir i'r farchnad fel rhai sydd Ar Gael yn Gyffredinol neu gan sianeli cefnogi rhyddhau, hyd yn oed os yw'r porwr yn cael ei ryddhau ar ôl i brofi ddod i ben ar gyfer y rhyddhad. Rydym yn delio ag unrhyw broblemau difrifol mae cleientiaid wedi'u canfod yn y maes yn erbyn porwr a gefnogir dros dro fel blaenoriaeth. Rydym yn gweithredu cylchoedd profi cyson yn erbyn porwyr i sicrhau fod y system yn dal i berfformio fel y disgwyl a byddwn yn diweddaru dogfennaeth porwyr a gefnogir ar gyfer cleientiaid fel fo’n briodol.
Porwyr hŷn
Yn yr un modd ag yr argymhellwn ddefnyddio'r fersiwn diweddaraf o Blackboard i sicrhau’r profiad gorau, mae gwerthwyr porwyr yn gwneud yr un argymhellion ynghylch eu meddalwedd. Mae'n bosib y bydd gan rai fersiynau hŷn o borwyr gan rai gwerthwyr broblemau rendro gyda fersiynau newydd o Learn, ac mae'n bosib y bydd gan rhai fersiynau newydd o borwyr broblemau rendro gyda fersiynau hŷn o Learn.
Mae Anthology yn dal i dderbyn problemau oddi wrth gleientiaid ar gyfer y porwyr yr adroddir amdanynt i'n tîm Cymorth, a bydd yn ceisio dyblygu'r broblem ar borwr a gefnogir yn llawn. Os nad ydym yn gallu dyblygu'r broblem, bydd Anthology yn argymell bod y cleient yn symud i fersiwn porwr a gefnogir yn llawn gan Blackboard. Mewn rhai achosion, fe wneir argymhelliad ychwanegol i uwchraddio i fersiwn mwy modern o Blackboard os nad yw'r cleient yn defnyddio SaaS.
Cwcis a JavaScript
Beth bynnag yw'r porwr a ddefnyddir, mae angen i Blackboard ddefnyddio cwcis sesiwn ac mae rhaid galluogi JavaScript ym mhorwr y defnyddiwr er mwyn darparu'r profiad cywir o ran dysgu ac addysgu.
Blackboard hefyd yn darparu nodwedd i ganiatáu i ddefnyddwyr gydnabod datganiad datgeliad cwcis wrth fewngofnodi i Learn, fel sy’n ofynnol mewn rhai lleoedd. I ddysgu mwy am yr offeryn hwn, gweler y pwnc Rheoli Diogelwch - Defnydd Data a Datgeliad Preifatrwydd.
Meddalwedd gynorthwyol a hygyrchedd
Er mwyn cael y profiad gorau ar Blackboard gyda'ch darllenydd sgrin, defnyddiwch Chrome a Jaws ar system Windows. Ar Mac defnyddiwch Safari a VoiceOver.
Mae Anthology yn gwneud pob ymdrech i wneud ei gynhyrchion mor hygyrch â phosibl. I ddysgu mwy am dechnolegau cynorthwyol, ewch i Hygyrchedd yn Blackboard.