Cyflwyniadau ac Adborth
Adborth am y cyflwyniad
Yn y panel Cyflwyniad, gallwch weld pa ymgeisiau sydd â graddau ac adborth. Dewiswch yr ymdrech rydych am ei gweld. Bydd eich cyflwyniad yn agor, a gallwch weld y radd a sut y cafodd ei chyfrifo. Gallwch adolygu'ch gwaith ac ehangu'r panel Adborth os adawyd sylwadau gan eich hyfforddwr.
Os yw’ch hyfforddwr wedi gadael adborth ar gyfer ymdrechion lluosog, gallwch ddarllen adborth pob ymdrech. Mae neges yn ymddangos os yw'ch hyfforddwr wedi gwrth-wneud gradd derfynol yr eitem.
Gallwch hefyd weld sawl ymgais sydd gennych ar y dudalen Graddau Cwrs. Gallwch weld pa gyflwyniadau a gyflwynoch cyn y dyddiad cyflwyno ac a oes unrhyw gyflwyniadau sy'n hwyr neu rai a fydd yn hwyr.
Cyfarwyddiadau
Gallwch gael mynediad at eich cyflwyniad wedi'i raddio ar dudalen Cynnwys y Cwrs er mwyn agor y panel Manylion a Gwybodaeth. Os ddefnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd i raddio'ch cyflwyniad, dewiswch Graddiwyd yr eitem hon â chyfarwyddyd er mwyn agor y cyfarwyddyd wrth ochr yr aseiniad.

Gallwch ehangu meini prawf unigol i adolygu'r lefelau cyflawniad. Fe amlygir y lefelau cyflawniad a ddyfarnwyd.
Recordiadau adborth
Gall eich hyfforddwr adael fideo neu recordiad sain gydag adborth ychwanegol ar radd eich asesiad. O'r panel Adborth, dewiswch fotwm y fideo i weld y recordiad.

Gwylio fideo am adborth ar aseiniadau
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar Vimeo.