Skip to main content

Tudalen Gweithgarwch

blackboard_student_base-nav-activity.png

Mae'r ffrwd gweithgarwch sy'n cael ei diweddaru'n barhaus ar eich tudalen Gweithgarwch yn caniatáu i chi neidio'n syth i mewn i weithrediadau cwrs. Nid oes angen i chi bori trwy'r system, chwilio am derfynau amser neu golli aseiniadau.

Nodyn

Eich sefydliad sy'n rheoli pa dudalen rydych yn ymweld ag yn gyntaf ar ôl i chi fewngofnodi.

Derbyn atgoffwyr. Gweld terfynau amser sydd ar ddod neu aseiniadau, profion a thrafodaethau graddedig hwyr.

Gwirio'ch graddau. Pryd bynnag mae'ch hyfforddwr yn graddio aseiniad, prawf neu drafodaeth a raddir, gallwch gael mynediad at y radd ar eich tudalen Gweithgarwch. Os yw'ch hyfforddwr yn diweddaru gradd, caiff y radd ei diweddaru ar eich tudalen Gweithgarwch hefyd.

Dysgwch i jyglo. Cael golwg oddi uchod o'ch tasgau dros bob un o'ch cyrsiau - yna, eu blaenoriaethu!

Hidlo'ch gwedd. Defnyddiwch y ddewislen Hidlo a dewis Dangos Popeth, Aseiniadau a Phrofion, neu Graddau ac Adborth.

Nodyn

Bydd eich cyrsiau'n ymddangos mewn un o ddwy wedd, gan ddibynnu ar yr hyn a ddewisir gan eich hyfforddwyr. Efallai byddwch yn gweld rhai o'r gweithgareddau yn y ffrwd yn y ddwy wedd.

Categorïau gweithgareddau

Mae eitemau gweithgarwch yn eich ffrwd yn cael eu grwpio ym mhedwar categori i'w gwneud yn haws i chi sganio'r rhestr:

Pwysig: Gweler aseiniadau hwyr, profion, a thrafodaethau graddedig. Mae’r nifer o eitemau yn yr adran hon yn cyfrannu at y cyfrif a ddangosir ar y dudalen Gweithgarwch yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos. Os byddwch yn diystyru eitem yn yr adran hon, ni fyddwch yn gallu ei weld eto hyd yn oed os ydych yn allgofnodi ac yn mewngofnodi eto. Pan fyddwch yn diystyru eitem yn y ffrwd, nid yw hyn yn effeithio ar y cynnwys gwreiddiol. Y cwbl rydych yn gwneud yw tynnu'r hysbysiad o'r dudalen Gweithgarwch.

I ddod: Edrychwch ar eich pum digwyddiad gorau a fydd yn digwydd yn y saith diwrnod nesaf. Dewiswch Dangos Mwy am restr gyflawn. Nid yw'r adran hon yn ymddangos os does dim digwyddiadau ar ddod ar gael.

Heddiw: Gweld popeth sy'n digwydd ac yn ddyledus yn y 24 awr nesaf, gan gynnwys cyhoeddiadau sefydliadol gyfan am hysbysiadau a diweddariadau brys. Os yw'ch hyfforddwyr wedi ychwanegu cyhoeddiadau, maen nhw'n ymddangos yma neu yn yr adran Diweddar.

Diweddar: Os nad ydych wedi mewngofnodi am ychydig, gweler eitemau ffrwd a oedd yn flaenorol yn yr adran Heddiw dros y saith diwrnod diwethaf.

Personoli eich tudalen Gweithgarwch

Ar eich tudalen Gweithgarwch, dewiswch yr eicon Gosodiadau i agor y panel Gosodiadau Hysbysiadau. Gallwch gyrchu'r gosodiadau hyn o'ch tudalen broffil hefyd.

Gosodiadau hysbysu ar y dudalen Gweithgarwch

Mae'r system hysbysiadau ymlaen trwy'r amser yn y profiad Ultra. Gallwch ddewis pa hysybysiadau rydych yn eu derbyn am weithgarwch ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra:

  • Hysbysiadau ffrwd: Dewiswch pa weithgareddau sy'n ymddangos ar eich tudalen Gweithgaredd.

  • E-bost: Os ydych eisiau derbyn hysbysiadau e-bost, ychwanegwch gyfeiriad e-bost at eich tudalen proffil. Yna, dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.

  • Push notifications: Messages pop up on your mobile device if you have the Ap Blackboard for Myfyriwr installed.

Mae'r ddwy wedd cwrs yn ymddangos ar y dudalen Gweithgarwch

Mae'r dudalen Gweithgarwch yn dangos beth sy'n digwydd yn eich cyrsiau, heb ystyried a yw'r cwrs yn defnyddio'r Wedd Cwrs Wreiddiol neu Ultra.

Mae'r digwyddiadau hyn yn sbarduno hysbysiadau ar eich tudalen Gweithgaredd:

  • Cyhoeddiadau cwrs a sefydliadol

  • Cyrsiau neu gyfundrefnau newydd ar gael

  • Mae eich hyfforddwyr wedi ychwanegu cynnwys at eich cyrsiau, megis aseiniadau, profion, trafodaethau, dogfennau, pecynnau SCORM a dolenni

  • Eich hyfforddwr wedi postio gradd ar gyfer eich gwaith

  • Eich hyfforddwr wedi ychwanegu digwyddiadau at eich cwrs

  • Eitemau sy'n ddyledus heddiw

  • Eitemau sy'n ddyledus yn fuan

  • Eitemau sy'n hwyr

  • Pethau sy'n digwydd heddiw

  • Digwyddiadau sy'n digwydd yn fuan

Gwylio fideo am y Ffrwd Gweithgarwch

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar Vimeo