Skip to main content

Golygydd Mathemateg

Gallwch fewnosod hafaliadau a fformiwlâu mathemateg mewn profion, aseiniadau, trafodaethau a dyddlyfrau gan ddefnyddio'r golygydd mathemateg. Gallwch hefyd deipio fformiwlâu LaTeX mewn unrhyw olygydd testun cyfoethog lle mae'r golygydd mathemateg yn opsiwn. Mae'r golygydd mathemateg yn rhedeg ar unrhyw borwr a system weithredu, gan gynnwys ffonau clyfar a thabledi. Pan gaiff ei actifadu, mae MathJax yn rendro cod LaTeX a nodwyd yn y Golygydd Cynnwys ar draws ardaloedd Blackboard a gefnogir. Os nad yw MathJax wedi'i actifadu, bydd Wiris yn rendro fformiwlâu.

Mae fformiwlâu mathemateg yn cael eu rendro ar ffurf delwedd PNG, sydd â meintiau ffeiliau sy'n fwy na thestun. Gall fformiwlâu mathemateg gymryd ychydig eiliadau i ymddangos cyn i'r ddelwedd ymddangos.

Mae cyflymderau cysylltiadau â'r rhyngrwyd a maint y cynnwys yn effeithio ar yr amser llwytho. Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn ei chael yn anodd cyrchu cynnwys sy'n cynnwys llawer o ddelweddau fformiwla.

Dyma rai argymhellion i leihau meintiau delweddau fformiwlâu a'r amser llwytho:

  • Crëwch bob fformiwla ar wahân gan ddefnyddio naill ai'r golygydd mathemateg neu LaTeX.

  • Osgowch gynnwys disgrifiadau cwestiwn neu destun ychwanegol yn y golygydd mathemateg neu'r cod LaTeX. Yn lle hynny, defnyddiwch y golygydd testun cyfoethog i ysgrifennu unrhyw gwestiynau, cyfarwyddiadau, neu ddisgrifiadau testunol a defnyddiwch y golygydd mathemateg neu LaTeX i greu'r fformiwlâu mathemateg yn unig.

    • Er enghraifft, mae hyfforddwr yn ysgrifennu problem fathemateg am gyflymu mewn prawf. Er mwyn lleihau maint y ffeil gynnwys, mae'r hyfforddwr yn ysgrifennu'r disgrifiad o'r broblem a gwerthoedd newidiol yn uniongyrchol yn y golygydd testun cyfoethog fel testun plaen. Wedyn, mae'r hyfforddwr yn ysgrifennu'r fformiwla gyflymu gan ddefnyddio'r golygydd mathemateg.

Delwedd o gwestiwn mathemateg wedi'i deipio yn y Golygydd testun cyfoethog a chyda hafaliad a gynhyrchir gan y golygydd mathemateg oddi tano, wedi'i farcio gan betryal

Defnyddio'r golygydd mathemateg

Cyrchwch y golygydd mathemateg drwy ddewis yr eicon + yn y golygydd testun cyfoethog. Dewiswch Mathemateg yn y ddewislen.

Delwedd o'r Golygydd testun cyfoethog, gyda'r ddewislen + ar agor a Mathemateg yn y gwymplen

Gallwch gyrchu llawer o nodweddion yn y golygydd mathemateg drwy ddewis gwahanol dabiau ar y brig.

Delwedd o'r Golygydd mathemateg yn dangos hafaliad sy'n cynnwys ffracsiwn sy'n rhannol gyflawn, gyda dau flwch gwyrdd yn nodi gwagiau

Defnyddiwch eich bysellfwrdd i roi rhifau, llythrennau a symbolau. Dewiswch yr eicon priodol yn y golygydd mathemateg i greu fformiwlâu cymhleth, megis creu gwreiddyn sgwâr.

Cynghoryn

AWGRYM: Os ydych yn defnyddio opsiwn sy'n newid lefel y testun ar gyfer eich fformiwla, fel isysgrif neu ffracsiwn, defnyddiwch y bysellau saethau ar eich bysellfwrdd i ddychwelyd i'r lefel diofyn. Rydym yn argymell defnyddio'r bysellfwrdd i lywio o fewn fformiwla.

Delwedd o hafaliad mathemateg wedi'i gwblhau yn y Golygydd mathemateg, sy'n dangos symbolau, ffracsiynau ac isysgrifau

Mae rhai o'r opsiynau ar gyfer creu fformiwlâu yn y golygydd mathemateg yn cynnwys:

  • Gweithrediadau sylfaenol: adio, tynnu, lluosi, rhaniad, gwreiddiau sgwâr, esbonwyr, ffracsiynau

  • Yr wyddor Roeg: alffa, beta, gama, ac eraill

  • Calcwlws Matrics

  • Integrynnau, deilliadau, a therfannau

  • Ffwythiannau trigonometrig: sin (sin), cosin (cos), tangiad (tan)

  • Arddulliau a meintiau ffont

Mae gwefan WIRIS yn darparu gwybodaeth fanwl am holl swyddogaethau'r golygydd mathemateg.

Defnyddio LaTeX yn y golygydd testun cyfoethog

Mae LaTeX yn feddalwedd sy'n gallu cael ei ddefnyddio i greu delwedd o fformiwla yn seiliedig ar gonfensiynau codio wedi'u hysgrifennu â thestun plaen. Gall golygydd testun cyfoethog Learn rendro codio LaTeX.

Nodyn

Nid oes modd rendro fformiwlâu sy'n mynd dros nifer o linellau yn LaTeX gan olygydd testun cyfoethog Learn. Mae fformiwlâu aml-linell yn dechrau gyda /begin ac yn gorffen gyda /end.

Rhowch fformiwla LaTeX drwy ysgrifennu'r cod penodol o fewn symbolau $$ yn y golygydd testun cyfoethog.

Dewiswch Cadw i adolygu sut mae'r fformiwla'n cael ei dangos fel delwedd. Gallwch fynd yn ôl i'r golygydd testun cyfoethog i olygu'r fformiwla nes iddi ymddangos yn gywir. Nid yw rhai gweithgareddau, fel profion ac aseiniadau, yn caniatáu i fyfyrwyr gadw yn y golygydd testun cyfoethog na gweld rhagolwg o'r fformiwla LaTeX a rendrwyd. Bydd rhaid i fyfyrwyr wirio eu cyflwyniadau ar ôl eu gorffen i sicrhau bod eu fformiwlâu yn cael eu rendro'n gywir.

Nid oes modd newid ymddangosiad y fformiwlâu, fel dangos fformiwlâu'n drwm neu newid maint y ffont, gan ddefnyddio'r golygydd testun cyfoethog. I newid arddulliau ffont neu feintiau'r fformiwla, gallwch ddewis unrhyw le o fewn y fformiwla yn y golygydd testun cyfoethog, wedyn dewiswch y golygydd mathemateg. Bydd yr holl newidiadau a wneir yn y golygydd mathemateg yn cael eu gwneud pan fyddwch yn cadw a byddant yn cael eu hychwanegu at y cod LaTeX.

Enghraifft o fformiwla ar ffurf LaTeX

Mae modd fformatio'r fformiwla gwadratig yn LaTeX.

Delwedd wedi'i rendro o'r fformiwla cwadratig

1. Rhowch $$ yn y golygydd testun cyfoethog.

$$

2. Nesaf, rhowch y cod LaTeX ar gyfer y fformiwla:

$$x = \frac {-b \pm \sqrt {b^2 - 4ac}}{2a}

3. Caewch eich fformiwla drwy roi $$ ar y diwedd.

$$x = \frac {-b \pm \sqrt {b^2 - 4ac}}{2a}$$

Delwedd o'r fformiwla cwadratig a ysgrifennwyd yn LaTeX yn y Golygydd testun cyfoethog: $$x = \frac {-b \pm \sqrt {b^2 - 4ac}}{2a}$$

4. Dewiswch Cadw yn y golygydd testun cyfoethog. Mae'r fformiwla fathemateg yn cael ei rendro fel delwedd PNG. Gall rendro'r ddelwedd gymryd ychydig eiliadau, yn dibynnu ar eich cysylltiad â'r rhyngrwyd a maint y cynnwys.

Delwedd o'r fersiwn rendro o'r fformiwla cwadratig uwchben cwestiwn

5. Dewiswch Golygu yn y golygydd testun cyfoethog i fynd yn ôl i'ch cod LaTeX.

Delwedd o ddewislen elipsis cwestiwn sy'n dangos y botwm Golygu yn y gwymplen

6. Golygwch eich fformiwla i drosysgrifo'ch cod LaTeX fel testun plaen yn y golygydd testun cyfoethog. Er enghraifft, ychwanegwch +1 at ddiwedd y fformiwla gwadratig.

$$x = \frac {-b \pm \sqrt {b^2 - 4ac}}{2a}+1$$

Delwedd o'r fformiwla cwadratig ynghyd ag un a ysgrifennwyd yn LaTeX yn y Golygydd testun cyfoethog: $$x = \frac {-b \pm \sqrt {b^2 - 4ac}}{2a}+1$$

7. Dewiswch Cadw i rendro'r fformiwla fel delwedd newydd.

Delwedd o'r fersiwn rendro o'r fformiwla cwadratig ynghyd ag un uwchben cwestiwn

8. Gallwch wneud addasiadau ychwanegol i arddull y fformiwla. Yn y golygydd testun cyfoethog, dewiswch unrhyw beth yn y cod LaTeX.

Delwedd o'r hafaliad LaTeX ar gyfer y fformiwla cwadratig ynghyd ag un o fewn y Golygydd testun cyfoethog, gyda'r cyrchwr testun wedi'i amlygu

Agorwch y golygydd mathemateg.

Delwedd o'r fformiwla cwadratig ynghyd ag un yn LaTeX, gyda'r ddewislen + a'r opsiwn Golygydd mathemateg wedi'i amlygu

Ychwanegwch yr arddulliau rydych eisiau eu defnyddio at y fformiwla. Er enghraifft, gallwch wneud rhan o'r fformiwla yn drwm a newid maint y ffont.

Delwedd o'r fformiwla cwadratig ynghyd ag un yn y Golygydd mathemateg, gyda maint ffont mawr a gwraidd sgwâr yn feiddgar

9. Dewiswch Cadw yn y golygydd mathemateg. Mae'r cod LaTeX ar gyfer y fformiwla gwadratig gyda'ch addasiadau arddull bellach yn:

$$\style{font-size:36px}{x=\frac{-b\pm\sqrt{\boldsymbol b^{\mathbf2}\boldsymbol-\mathbf4ac}}{2a}+1}$$

Delwedd o'r fformiwla cwadratig ynghyd ag un a ysgrifennwyd yn LaTeX yn y Golygydd testun cyfoethog, gydag arddulliau wedi'u cymhwyso: $$\style{font-size:36px}{x=\frac{-b\pm\sqrt{\boldsymbol b^{\mathbf2}\boldsymbol-\mathbf4ac}}{2a}+1}$$

10. Dewiswch Cadw yn y golygydd testun cyfoethog i rendro'ch fformiwla wedi'i haddasu fel delwedd.

Delwedd o'r fformiwla cwadratig wedi'i rendro ynghyd ag un mewn ffont 36 px

Nodweddion hygyrchedd

Mae delweddau fformiwla mathemateg o ansawdd uchel, felly gall defnyddwyr nesáu ati a bydd y ddelwedd yn dal i fod yn glir. Gallwch hefyd newid maint y ffont i helpu'ch myfyrwyr. Gall meintiau ffont mwy helpu eich myfyrwyr i weld manylion fformiwla â rhifau bach a symbolau.

Mae fformiwlâu yn hygyrch ar gyfer darllenyddion sgrin wrth i chi eu creu a phan fyddant yn cael eu rendro fel delweddau.

Delwedd o ddarllenydd sgrin yn cyfieithu fformiwla wedi'i rendro i destun

Mae testun amgen ar gyfer fformiwlâu mathemateg yn cael ei gynhyrchu'n awtomatig yn seiliedig ar eich gosodiad iaith yn eich proffil yn Learn. Mae darllenyddion sgrin yn dilyn gosodiadau eich dyfais leol, gan gynnwys iaith, cyflymder a llais. I gael profiad gwell gyda'ch darllenydd sgrin a thestun amgen, gwnewch yn siŵr bod eich gosodiad iaith yn Learn yn cyd-fynd â'r gosodiadau ar eich dyfais leol.

Delwedd o'r proffil defnyddiwr yn ultra, gyda'r ddewislen iaith wedi'i hamlygu mewn glas

Nodyn

Os nad yw'r golygydd mathemateg na'r golygydd testun cyfoethog yn cefnogi iaith, bydd fformiwlâu yn cael eu darllen yn Saesneg.