Cyrchu Cynnwys y Cwrs
Ar frig y dudalen, gallwch agor yr offer a ddefnyddir yn aml. Dewiswch yr eiconau i wirio calendr y cwrs, i gymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth, cael mynediad at eich graddau ac anfon neges. Pan fyddwch wedi gorffen, dewiswch yr eicon Cynnwys i ddychwelyd i'r holl gynnwys mae'ch hyfforddwr wedi'u gwneud yn weladwy.

Os bydd modd i chi gael mynediad at gynnwys ar ddyddiad yn y dyfodol, gall eich hyfforddwr ddangos yr eitem yn y rhestr cynnwys gyda'r dyddiad hwnnw. Ni allwch ei agor, ond rydych yn cael eich rhybuddio er mwyn i chi wybod bod y gwaith ar ddod.
Pan fydd rhywun yn cyfrannu at sgwrs neu drafodaeth, mae eicon gweithgarwch yn ymddangos nesaf at deitl yr eitem ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
Bydd enw a llun eich hyfforddwr yn ymddangos. Dewiswch y Cofrestr i weld pawb sydd wedi cofrestru ar eich cwrs. Os yw'ch hyfforddwr yn defnyddio'r nodwedd bresenoldeb, gallwch gael mynediad at eich cofnodion o'r panel Manylion a Gweithrediadau.
Gallwch uwchlwytho ffeiliau i apiau gwe sy'n rhedeg yn y “cwmwl” ac nid ydynt yn cael eu gosod ar eich cyfrifiadur, megis Google Workspace ac OneDrive®.