ORIGINAL Graddau Aseiniad
Ble mae graddau fy aseiniadau?
Gallwch adolygu'r graddau a'r adborth ar dudalen Fy Ngraddau. Gallwch hefyd gael mynediad at dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau yr aseiniad ac adolygu'r graddau ac adborth mewn cyd-destun. Nid yw aseiniadau'n cael eu graddio'n awtomatig. Rhaid i'ch hyfforddwr raddio pob aseiniad.
Tudalen Hanes Cyflwyno Adolygu
I adolygu'ch gradd ac adborth, dewiswch yr un ddolen yn eich cwrs y defnyddioch i gyflwyno'ch aseiniad. Bydd y dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau yn ymddangos. Os rydych wedi uwchlwytho ffeil, bydd yn agor yn awtomatig yn y porwr os yw gwylio mewnol ar waith.
Adolygu adborth gan hyfforddwyr
Pan fyddwch yn cyflwyno atodiad ar gyfer aseiniad, byddwch yn gweld eich cyflwyniad yn y dangosydd Bb Annotate. Mae'r ddewislen newydd yn darparu gwedd grynodeb bar ochr, gosodiadau gweld a gosodiadau tudalen, a galluoedd chwilio ac yn caniatáu i chi argraffu a lawrlwytho'r cyflwyniad. I adolygu'ch gradd ac adborth, dewiswch yr un ddolen yn eich cwrs y defnyddioch i gyflwyno'ch aseiniad. Os rydych wedi uwchlwytho ffeil, bydd yn agor yn awtomatig yn y porwr os yw gwylio mewnol ar waith.
Mae sawl math o ffeil yn agor yn y dangosydd, ond gall eich hyfforddwr anodi’r mathau o ffeiliau hyn yn unig:
Microsoft® Word (DOC, DOCX)
Microsoft® PowerPoint®(PPT, PPTX)
Microsoft® Excel®(XLS, XLSM, XLSX)
Dogfennau OpenOffice® (ODS, ODT, ODP)
Delweddau Digidol (JPEG, JPG, PNG, TIF, TIFF, TGA, BMP)
Delweddau Meddygol (DICOM, DICM, DCM)
PDF
PSD
RTF
TXT
WPD
Cedwir y fformat gwreiddiol a delweddau sydd wedi eu plannu
Cefnogir Bb Annotate ar fersiynau cyfredol o Firefox, Chrome, Edge, a Safari. Os nad yw'ch ffeil yn agor yn awtomatig yn y porwr, ni chefnogir y ffeil.
Pwysig
ni allwch ddefnyddio ffeil sy’n fwy na 300MB er mwyn osgoi colli data a sicrhau perfformiad da. Gwnewch yn siŵr bod eich cyflwyniadau yn cydymffurfio â'r maint ffeil mwyaf.

A. Bar ochr: Gweld golygon Mân-lun, Amlinelliad, Anodiad neu Nod Tudalen o’r cyflwyniad.
Nodyn
Nid yw dewis anodiad yng ngwedd grynodeb y bar ochr yn ei nodi yn y ddogfen.
B. Tudalennau: Defnyddio’r saethau i neidio i dudalennau gwahanol yn y cyflwyniad.
C. Tremio: Symud y cyflwyniad ar y dudalen.
Ch. Chwyddo a Ffitio: Chwyddo i mewn ac allan o’r cyflwyniad neu addasu'r wedd i ffitio’r dudalen, ffitio'r lled, neu ddewis y ffit gorau.
D. Argraffu neu Lawrlwytho: Argraffu neu lawrlwytho’r cyflwyniad gyda'r anodiadau.
Rhybudd
Mae'n bosibl bydd problem hysbys gyda dangosydd PDF mewnol rhai porwyr yn golygu na fydd pob un o'ch anodiadau'n dangos. Defnyddiwch wyliwr PDF brodorol fel Adobe Acrobat i edrych ar dogfennau PDF wedi'u hanodi.
Dd. Chwilio: Chwilio’r cyflwyniad am destun penodol.
Os defnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd i raddio'ch gwaith, dewiswch eicon Gweld y Cyfarwyddyd i weld y manylion.
Graddio dienw
Ar dudalennau Adolygu Hanes Cyflwyniadau a Fy Ngraddau, mae eicon Graddiwyd yn Ddienw yn ymddangos os raddiwyd eich aseiniad heb fod eich enw'n dangos.
Efallai bydd eich hyfforddwr yn pennu sawl person i raddio'ch aseiniadau er mwyn osgoi ffafriaeth. Mae eich hyfforddwr yn penderfynu a ydych yn gallu gweld adborth gan bob graddiwr.
