Ateb Postiadau Trafod
Mewn cwrs, dewiswch Trafodaethau ar y bar llywio i gyrchu'r dudalen Trafodaethau. Dewiswch drafodaeth i ymuno. Efallai y bydd rhai trafodaethau hefyd ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
Pan fydd rhywun yn cyfrannu at drafodaeth, mae dangosydd porffor yn ymddangos wrth ymyl teitl yr eitem ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Bob tro byddwch yn agor trafodaeth, bydd unrhyw atebion ac ymatebion newydd yn ymddangos gyda “Newydd” i ddangos unrhyw weithgarwch newydd sydd wedi digwydd ers eich ymweliad diwethaf. Gallwch ychwanegu ymateb, ateb neu hyd yn oed ymateb i ymateb. Mae atebion yn cael eu mewnoli o'r ymatebion.
Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, a phlannu ffeiliau amlgyfrwng. Os ydych chi'n defnyddio'r golygydd ar sgrin lai, dewiswch y botwm plws i weld y ddewislen o opsiynau. Er enghraifft, dewiswch Mewnosod/Golygu Ffeiliau Lleol - a gynrychiolir gan y botwm clip papur. Porwch am ffeil o'ch cyfrifiadur. Mae ffenestr statws yn ymddangos i ddangos y cynnydd wrth lanlwytho'r ffeil.
Cynghoryn
I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.
Dewiswch Postio pan fyddwch chi'n barod i rannu eich ymateb. I adael y golygydd heb gadw eich gwaith, dewiswch Canslo.

Gall eich hyfforddwr guddio gweithgarwch trafodaeth nes i chi bostio ymateb.

Dilyn trafodaeth
Gallwch ddilyn trafodaeth i gael hysbysiadau ar eich tudalen Gweithgareddbob tro y mae gweithgaredd newydd gan hyfforddwyr neu fyfyrwyr mewn trafodaeth benodol. Dewiswch Dilyn i ddilyn trafodaeth.

Os nad ydych eisiau cael hysbysiadau ar gyfer trafodaeth mwyach, dewiswch Dad-ddilyn. Gallwch hefyd adnewyddu trafodaeth i weld a oedd diweddariadau drwy ddewis y saethau wrth ochr Dilyn neu Dad-ddilyn.
Gallwch reoli pa fathau o hysbysiadau rydych yn eu cael ar gyfer y trafodaethau rydych yn eu dilyn drwy fynd i'r Gosodiadau ar eich tudalen Gweithgarwch.
Gallwch ddewis neu ddad-ddewis cael hysbysiadau ar gyfer:
Gweithgarwch ar fy ymatebion
Gweithgarwch ar ymatebion rwyf wedi'u hateb
Ymatebion gan hyfforddwyr
Ymatebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir
Atebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir
Gallwch hefyd gael negeseuon e-bost ar gyfer trafodaethau rydych yn eu dilyn trwy fynd i'ch gosodiadau Anfon e-bostio ataf ar unwaith o'r un ddewislen Gosodiadau ar eich tudalen Gweithgarwch. Dyma'r hysbysiadau sydd ar gael:
Gweithgarwch ar fy ymatebion
Gweithgarwch ar ymatebion rwyf wedi'u hateb
Ymatebion gan hyfforddwyr
Ymatebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir
Atebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir
Canfod cyfranogwr
Nid oes rhaid i chi fynd trwy holl drafodaethau'r cwrs er mwyn dod o hyd i'r un rydych ei eisiau. Gallwch hidlo yn ôl enw cyfranogwr a gweld rhestr o gyfranogwyr.
Efallai y bydd defnyddiwr yn y rhestr Cyfranogwyr â chyfenw eich hyfforddwr gyda’r atodiad _PreviewUser. Mae’ch hyfforddwr wedi ychwanegu defnyddiwr rhagolwg i adolygu cynnwys y cwrs o safbwynt myfyriwr.
Trafodaethau grŵp
Gall eich hyfforddwr eich pennu i grŵp er mwyn helpu i roi ffocws i'r drafodaeth. Y tro cyntaf i chi gael eich aseinio i drafodaeth grŵp, byddwch yn derbyn neges ar dudalen Cynnwys y Cwrs i roi gwybod i chi. Ar y dudalennau Cynnwys y Cwrs a Trafodaeth, mae enw'ch grŵp wedi'i restru ar ôl teitl y drafodaeth grŵp. Gallwch gyrchu rhestr o aelodau eich grŵp pan fyddwch chi'n agor trafodaeth.

Pan fyddwch yn ymateb i drafodaeth grŵp, aelodau'ch grŵp a'ch hyfforddwr fydd yr unig rai all gyrchu eich postiadau.
Cadw postiad fel drafft
Os nad ydych yn barod i bostio, gallwch gadw'ch ateb neu ymateb fel drafft. Dewiswch Cadw Drafft ar ôl i chi fewnbynnu cynnwys. Mae eich drafft yn weladwy i chi yn unig.

Ar ôl i chi gadw'ch drafft, dewiswch Golygu Drafft i barhau i weithio. Mae'ch drafft hefyd yn ymddangos yn y ddewislen cyfranogwyr.

Cyfrif geiriau ar gyfer ymatebion i drafodaethau
Wrth i chi greu ymatebion trafodaeth, bydd y cyfrif geiriau yn ymddangos o dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw eich ymateb, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.
Cynhwysir yr eitemau hyn yn y cyfrif geiriau:
Geiriau unigol
Dolenni Gwe
Testun yn rhestrau â bwledi neu rifau, ond ni chynhwysir y bwledi neu rifau eu hunain
Testun uwchysgrif ac isysgrif nad yw'n rhan o air arall
Nid yw'r eitemau nac elfennau ffurfweddu hyn yn effeithio ar y cyfrif geiriau:
Delweddau, fideos ac atodiadau ffeil
Fformiwlâu mathemateg
Bylchau a llinellau gwag
Testun amgen
Pan ddefnyddiwch atalnodi i atodi geiriau neu rifau, bydd effaith ar y cyfrif. Er enghraifft, caiff "Aethom ni...heboch chi" ei gyfrif fel tri gair. Cyfrifir y geiriau neu rifau ar bob ochr i'r atalnodi fel un gair.