Skip to main content

ORIGINAL Mynediad Blackboard

Gallwch fewngofnodi i Blackboard ar borwr gwe ar eich cyfrifiadur neu o ap symudol.

Porwr gwe

Mae angen tri darn o wybodaeth arnoch i gael mynediad at Blackboard:

  • Cyfeiriad gwe gwefan Blackboard eich sefydliad

  • Eich enw defnyddiwr

  • Eich cyfrinair

Sgrin mewngofnodi Myfyrwyr ar gyfer Blackboard

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad gwe yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Nodyn

Os na allwch ddod o hyd i wefan eich sefydliad, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + Blackboard, neu cysylltwch â’ch desg gymorth TG.

Beth sy'n digwydd ar ôl i fi fewngofnodi?

Mae defnyddwyr newydd yn gweld tudalen groeso sy'n eu gwahodd i greu proffil. Cyn i chi greu proffil, rhaid i chi dderbyn Telerau Defnyddio Proffiliau Blackboard yn y neidlen. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai o'r offer. Gallwch ddewis creu proffil yn hwyrach.Profile for Students

Mae defnyddwyr cyfredol yn gweld tab Fy Sefydliad. O'r tab hwn, gallwch gael mynediad at y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt.Navigate Outside a Course for Students

Ap symudol

Cynghoryn

Derbyn diweddariadau symudol am eich cyrsiau, cymryd aseiniadau a phrofion, a gweld eich graddau. Dim ond y cyrsiau ble rydych wedi ymrestru fel myfyriwr sy'n ymddangos yn yr ap hwn.