Skip to main content

Cysylltu Eitemau at Lif Gwaith

Gallwch gysylltu eitemau neu ffeiliau'r Casgliad o Gynnwys o ddisg galed leol â llif gwaith, a hynny ar lefelau carreg filltir a gweithred.

Bydd eitemau a gysylltir ar lefel y model llif gwaith hefyd ar gael i bob carreg filltir yn y model. Pan fyddwch yn cysylltu eitem ar lefel y garreg filltir, bydd yr eitem ar gael hefyd ymhob gweithred mewn carreg filltir.

Bydd yr eitemau yn ymddangos yn y model lle cawsant eu cysylltu, ond o ran y llif gwaith, byddant yn ymddangos ar y lefel gweithred.

Dim ond os byddwch yn stopio’r llif gwaith y bydd modd ychwanegu eitemau ato, neu os nad yw gweithrediadau neu gerrig milltir wedi eu dechrau eto.

Nodyn

Mae eitemau a ychwanegwyd i lifoedd gwaith sydd eisoes ar waith yn berthnasol i’r achos hwnnw yn unig.

Trefn. Cysylltu eitemau â llif gwaith ar lefel llif gwaith
  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith.

  2. Yn newislen y model llif gwaith, dewiswch Golygu.

  3. O dan y Cynnwys, dewiswch Pori Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i'r eitem yr hoffech ei chysylltu.

  4. Ar ôl i chi ddewis yr eitem, dewiswch Cyflwyno.

  5. Ticiwch y blychau i roi’r hawl i ddefnyddwyr weld yr eitem.

  6. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Trefn. Cysylltu eitemau â llif gwaith ar lefel carreg filltir
  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith.

  2. Yn newislen y model llif gwaith, dewiswch Adeiladu.

  3. Dewch o hyd i’r cerrig milltir yr hoffech ychwanegu cynnwys atynt. Dewiswch Golygu yn newislen y garreg filltir.

  4. O dan Cynnwys Cysylltiedig, dewiswch Pori Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i'r eitem yr hoffech ei chysylltu.

  5. Ar ôl i chi ddewis yr eitem, dewiswch Cyflwyno.

  6. Ticiwch y blychau i roi’r hawl i ddefnyddwyr weld yr eitem.

  7. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Ychwanegu ffeiliau lleol at lif gwaith.

Ydych am ychwanegu ffeil at y llif gwaith, ond nid yw’r ffeil yn y Casgliad o Gynnwys eto? Gallwch uwchlwytho ffeiliau yn uniongyrchol o'r ffenestr Pori Casgliad o Gynnwys os oes gennych ganiatâd i ychwanegu ffeiliau at y blygell gyfredol. Wedyn caiff yr eitem ei huwchlwytho i’r Casgliad o Gynnwys, a byddwch yn ei hychwanegu at y llif gwaith, carreg filltir neu weithred yn y dull arferol.